students in lecture theatre

Sgyrsiau Ymchwil  Wrecsam

Croeso i Sgyrsiau Ymchwil Wrecsam

A hithau bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, mae cyfres Darlithoedd Cyhoeddus Sgyrsiau Ymchwil Wrecsam yn parhau i ffynnu a datblygu. Ymhlith yr amrywiaeth o bynciau ymchwil yr ymdriniwyd â hwy yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf oedd yr heriau o orfodi gwahardd hela llwynogod a thaith dynoliaeth tuag at sero net. Gallwch wrando ar sgyrsiau blaenorol drwy fynd i'n tudalen darlithoedd gorffennol.

Mae amserlen eleni'n llawn mor amrywiol ac yn debygol o fod yr un mor ddifyr, gyda'n darlith banel gyntaf fel rhan o'r digwyddiad Arwyr Gofal Iechyd. Gweler yr amserlen Sgyrsiau Ymchwil Wrecsam 2024/25 lawn isod.

Mae'r darlithoedd cyhoeddus fin nos, rhad ac am ddim a gynhelir ar y campws gan y Swyddfa Ymchwil yn agored i bawb. Dewch i fwynhau ychydig o fwyd a lluniaeth am ddim wrth rwydweithio ymlaen llaw â siaradwyr a mynychwyr, yna ymlaciwch i wrando ar y sgyrsiau a ddarperir gan ein hymchwilwyr ac a gyflwynir gan Gadeirydd, cyn sesiwn holi cwestiynau gan y gynulleidfa.

Diben y darlithoedd yw gwahodd trafodaeth a dadl mewn amrywiol feysydd pwnc sy'n procio'r meddwl. Rydym yn ymfalchïo mewn ymchwil gymhwysol, Ymchwil Sy'n Trawsnewid, ymchwil sy'n dylanwadu'r gymuned leol a'r byd ehangach, ac rydym eisiau rhannu hyn gyda chi mewn ffordd hygyrch.

Heb gynulleidfa, nid oes pwrpas i Ddarlithoedd Cyhoeddus, felly edrychwn ymlaen at groesawu eich safbwyntiau newydd ar ein hymchwil. Cymerwch gip ar ein hamserlen ac archebwch eich lle ar Eventbrite gan ddefnyddio'r dolenni neu'r codau QR. Os nad yw'n bosibl i chi fynychu, bydd modd i chi wylio recordiad ar-lein o'r sesiwn yn fuan wedi'r digwyddiad.

Er bod y darlithoedd yn rhad ac am ddim i’w mynychu, sylwch fod yn rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw. Cymerwch gip ar restrau’r digwyddiadau i weld y manylion llawn, gan gynnwys lleoliad, amseroedd a sut i archebu eich lle.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu eich bod yn dymuno cyfrannu at Sgyrsiau Wrecsam, cysylltwch â researchoffice@wrexham.ac.uk.

 

Siaradwr Amserlen Teitl

 

Dr Liz Cade | Dr Chelsea Batty |

Sara Oxbury Ellis | Athro Stephen Fôn Hughes 

16 Hydref 2024, 16:30 Arwyr Gofal Iechyd y byd Yfory

Julian Ayres, Uwch-ddarlithydd mewn Addysg

05 Rhagfyr 2024, 17:30 Tyllau Ymochel: Deall Dycnwch a Gwytnwch

Dr Shubha Sreenivas, Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg Fiolegol

29 Ionawr 2025, 17:30

Cymorth gan Anifeiliaid ar gyfer Helpu Plant i Ddarllen yn Hyderus a Lleihau Straen i Fyfyrwyr Prifysgol

Peter Bolton, Uwch-ddarlithydd mewn Hanes

12 Mawrth 2025, 17:30 Arddangosfa Trysorau Celf Wrecsam, 1876

Dr Phoey Teh, Uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifiadura

29 Ebrill2025, 17:30 Effaith AI ar y Sector Busnes a Sector y Llywodraeth

Dr David Sprake, Uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg

28 Mai 2025, 17:30 Dadlennu Newid Hinsawdd: Gwahanu’r Gwir a’r Gau ar gyfer Gwadwyr ac Amheuwyr