Os colloch chi unrhyw un o ddarlithoedd Sgyrsiau Ymchwil Wrecsam, gallwch ddal i fyny yma.

Mae'n iach, mae'n dda i'r amgylchedd, gall fod yn hwyl, ond nid ydym wedi taro'r hoelen ar ei phen eto.

Dr Chris White

Ym mis Chwefror, cyflwynodd Dr Chris White ddarlith ar deithio llesol yn dwyn y teitl Mae'n iach, mae'n dda i'r amgylchedd, gall fod yn hwyl, ond nid ydym wedi taro'r hoelen ar ei phen eto:

Darparodd Chris drosolwg o’r teitl a’r hyn wnaeth ei arwain i ymgymryd â’i ymchwil PhD yn y maes. 

Cyflwynwyd y gynulleidfa i’r cysyniad o deithio llesol, y buddion iechyd a hanes teithio llesol o fewn y DU. Yn ystod y 1950au roedd beicio yn cyfrif am bron i 15% o holl deithiau, ond bellach, dyw beicio ond yn cyfrif am 2-3% o deithiau yn y DU. 

Siaradodd Chris am bwysigrwydd iechyd a lles yng nghyd-destun atal salwch, deall penderfynyddion ehangach iechyd ac ystyried polisi, strategaethau ac ystyriaethau creiddiol theoretig/academaidd. 

Yna rhoddwyd ystyriaeth mewn manylder i ddatganoli, ariannu a gweithredu polisi, gan archwilio traweffaith hyn ar deithio llesol a sut y gall awdurdodau lleol wneud teithio llesol yn fwy effeithiol y tu hwnt i ymyriadau ysgafn. 

Daeth Chris â phethau i ben drwy grynhoi canfyddiadau’r PhD, gan gynnwys sut mae’r mater wedi dod yn fater meddygol, perchnogi cyfrifoldeb a phŵer a’r gwrthwynebiad i eirioli dros hyn o fewn rhwydweithiau iechyd cyhoeddus. 

Diolch Chris am ddarlith ddiddorol wnaeth ysgogi pawb i feddwl. Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Dr Chris White os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu os am weld canfyddiadau’r ymchwil yn llawn.

Dr Chris White Transcript CY


Artistiaid yn ymgysylltu’r cyhoedd ar faterion amgylcheddol a chymdeithasol a phwysigrwydd hynny

Yr Athro Alec Shepley

Ym mis Ionawr, cyflwynodd yr Athro Alec Shepley ddarlith gyhoeddus gyntaf 2024 gyda sgwrs ar artistiaid yn ymgysylltu â’r cyhoedd ar faterion amgylcheddol a chymdeithasol a pham mae’n bwysig. 

Dechreuodd Alec y ddarlith gyda throsolwg ohono’i hun fel artist a rhai o’r prosiectau byd-eang niferus y bu’n rhan ohonynt, gan gynnwys Pilot Hole, x-church, Tea Lights, Neon House a Street Sweeping Residency. Rhoddodd Alec gipolwg hefyd ar rywfaint o’r darllen amrywiol y mae wedi’i wneud dros y blynyddoedd. 

Yna, cafodd y gynulleidfa eu cyflwyno i’r cysyniad o Gelf a Mwy, menter partneriaeth strategol Ysgol Gelf Wrecsam. Fe’i sefydlwyd i ddechrau yn 2016 i hyrwyddo ymchwil artistig gydweithredol gydag amrywiaeth o sefydliadau partner dethol, gyda chynaliadwyedd a dyfodol dymunol yn dod yn thema gref wrth i bethau fynd rhagddynt. Bu Alec hefyd yn trafod sawl maes ymchwil yr oedd myfyrwyr PhD wedi ymgymryd â nhw yn yr Ysgol Gelf. 

Siaradodd Alec am Gymrodoriaethau Cymru’r Dyfodol, gan dynnu sylw at rai o’r cymrodyr y mae’n ysgrifennu papur arnynt ar hyn o bryd.

Roedd yr oriel gelf gyfoes leol, Tŷ Pawb, a rhai o’r mentrau newydd y maent yn eu cyflwyno, yn rhan o’r drafodaeth. Mae’r prosiectau’n cynnwys trosi maes parcio yn ardd to (Maes Parcio Creadigol) a neilltuo gofod oriel i Arte Útil (celfyddyd ddefnyddiol).

Bu i Alec gloi’r ddarlith drwy gyfeirio at brosiectau a ariennir ar hyn o bryd, sy’n cynnwys Dinasyddion Ecolegol a Llwyfan Map Cyhoeddus a’r rôl benodol sydd gan Wrecsam yn y prosiectau. Mae Dinasyddion Ecolegol yn brosiect rhwydwaith a mwy i ddatblygu model(au) ar gyfer cymdeithas ddigidol gynaliadwy drwy edrych ar ffyrdd o rymuso dinasyddion. Bydd y prosiect Llwyfan Map Cyhoeddus yn datblygu map digidol o Ynys Môn sy’n datgelu haenau data ar yr hinsawdd, yr amgylchedd, cymdeithas a diwylliant.

Diolch yn fawr iawn i Alec am ddarlith gyhoeddus ddiddorol iawn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu feysydd ymchwil posibl, cysylltwch ag Alec Shepley.

Alec Shepley Transcript_CY


Gyriad trydanol awyren gyda’r ffan FAST

Dr Rob Bolam

Ar 6 Rhagfyr 2023, syfrdanodd Dr Rob Bolam y gynulleidfa yn ail ddarlith gyhoeddus Sgyrsiau Ymchwil Wrecsam. Teitl y ddarlith oedd "Aircraft Electrical Propulsion: Humanity’s Journey towards Net-Zero” ac fe'i cyflwynwyd yn llawn brwdfrydedd ac egni.

Mae Rob a'r Cynorthwyydd Ymchwil / Myfyriwr PhD, Jhon Paul Roque, wedi gweithio gyda’i gilydd a chydweithio gyda diwydiant i greu ffan gyntaf y byd i gael ei gyrru gan gylch. Y tîm ymchwil hwn ym Mhrifysgol Wrecsam sydd wedi bathu'r term Saesneg ‘rim-driven fan’ ac ers hynny mae’r term wedi’i ddefnyddio mewn prosiectau ymchwil ledled y byd, gan adlewyrchu cyfraniadau ymchwil unigryw ein hadran Beirianneg.

Daeth Rob â gwahanol fodelau ac offer gydag ef er mwyn dangos y beirianneg sydd wrth wraidd y ffan a dangosodd glip fideo o’r ffan yn troi. Cafodd y gynulleidfa eu tywys ar daith o'r hediad cyntaf gan awyren drydanol i’r presennol a chreadigaeth y ffan FAST. Mae’r gamp hon yn y maes peirianneg yn siŵr o wneud gwahaniaeth enfawr i fyd peirianneg awyrennol.

Os fethoch chi'r ddarlith, mae modd ei hail-wylio yma; os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau i Rob, yna cysylltwch drwy r.bolam@wrexham.ac.uk.

RB Trawsgrifiad


Defnyddio anifeiliaid anwes robotaidd fel cydymaith i bobl â dementia: cysylltu gyda 'Companotics' heddiw ac yn y dyfodol

Dr Joanne Pike

Ym mis Hydref dechreuodd Dr Joanne Pike y gyfres Darlithoedd Cyhoeddus 2023/24, gyda darlith ar gathod cadw cwmni robotig a’r dylanwad y gallant ei gael ar lesiant pobl. 

Dechreuodd Joanne gyda’r cysyniad o anifeiliaid anwes therapi a sut y defnyddir anifeiliaid amrywiol mewn gwahanol ffyrdd i gefnogi pobl. Tynnwyd sylw at y ffaith fod llesiant y bod dynol a’r anifail yn ffactorau i’w hystyried gyda’r rhyngweithiadau hyn ac efallai nad yw rhai pobl sy’n profi anawsterau iechyd mewn sefyllfa i fodloni anghenion yr anifail. 

Yna cawsom ein cyflwyno gan Joanne i ddyfeisiadau cadw cwmni ar hyd y blynyddoedd, o'r tedis traddodiadol i anifeiliaid anwes electronig fel Tamagotchi™, i’r robotiaid cadw cwmni mwy cymhleth, tra modern. 

Eglurwyd pwrpas y cathod cadw cwmni robotig, ac yna rhannodd Joanne yr ysbrydoliaeth bersonol y tu ôl i’r ymchwil a oedd yn ceisio dysgu sut brofiad oedd cael cathod cadw cwmni robotig yn eu cartrefi i bobl sy’n byw â dementia. 

Rhannwyd trosolwg o'r cyfranogwyr, ac yna cyflwynwyd y gynulleidfa i Jean a’i hamser gyda’r gath robotig. Heb ddatgelu gormod, yn sicr gallwn ddweud bod y gath wedi rhoi rheswm i Jean godi yn y bore, oedd mor galonogol. 

Daeth Joanne â’i darlith i ben drwy drafod y buddion a nodwyd i bobl sy’n byw â dementia o ddefnyddio cathod cwmni robotig, a manylodd ar yr hyn yr hoffai ei wneud nesaf gyda’r ymchwil. Gwnaeth aelodau o'r gynulleidfa sylwadau a holi cwestiynau difyr ar ddiwedd y ddarlith, gydag un aelod yn gwneud sylw fod hon yn un o’r ychydig ddarlithoedd yr oedd wedi’i mynychu a gafodd ei chyflwyno gyda chariad. 

Diolch, Joanne, am roi dechrau da i’r gyfres. 

Dr J Pike Trawsgrifiad


 

Content Accordions

  • 2022/23 Darlithoedd Gorffennol

    Dr Chelsea Batty

    Ddechrau mis Mai, cyflwynodd Dr Chelsea Batty, Darlithydd Ymarfer Corff a Ffisioleg Chwaraeon ddarlith hynod hygyrch ar adsefydlu cardiaidd. Dechreuodd Chelsea drwy amlinellu beth mae adsefydlu cardiaidd yn ei olygu, yn ogystal â siarad am y canllawiau a’r safonau cyfredol ar gyfer arferion gorau. Arweiniodd Chelsea ni wedyn ar daith ymchwil ddiddorol, gan nodi’r diffyg tystiolaeth a chywirdeb pryderus yn y rhan fwyaf o astudiaethau, h.y., mae ymchwil yn canfod na all y rhan fwyaf o dimau adsefydlu cardiaidd ragnodi’r dos cywir o ymarfer corff i gleifion, ac nid yw cleifion yn gwneud ymarfer corff am y cyfnod cywir nac am y dwysedd a argymhellir. 

    Soniodd Chelsea am ymchwil bersonol lle’r oeddent wedi ceisio datblygu’r dystiolaeth ymchwil, ond unwaith eto, canfuwyd nad oedd y cleifion adsefydlu cardiaidd wedi gwella eu ffitrwydd yn glinigol. Roedd yr ymchwilwyr yn monitro’r cleifion ac yn rhoi anogaeth ar lafar ar gyfer hanner y sesiynau ffitrwydd, ond nid oeddent yn ymwybodol o sut aeth hanner arall y sesiynau ac felly ni allent fod yn siŵr bod y cleifion yn ymarfer yn gywir. 

    Gofynnodd y gynulleidfa rai cwestiynau diddorol am ffitrwydd ac ymarfer corff ar ôl y ddarlith, ac un o’r negeseuon allweddol oedd y dylai pawb fod yn gwneud mwy o ymarfer corff ac ar y dwysedd cywir ar gyfer gwelliannau ffitrwydd sy’n ystyrlon yn glinigol.

    Diolch i Chelsea am ddarlith oleuedig! Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â Chelsea yn Chelsea.batty@glyndwr.ac.uk. 

    Chelsea Batty Trawsgrifiad


    Tai Gweithwyr Fictoraidd - Datblygiad yr Is-ddeddf Tai Teras

    Ddiwedd mis Mawrth cyflwynodd Dr Gareth Carr, Uwch Ddarlithydd mewn Amgylchedd Adeiledig, ddarlith gyhoeddus ar dai teras gweithwyr Fictoraidd. Agorodd yr Athro Richard Day y ddarlith, sef y PVC i Ymchwil, dwy amlinellu angerdd Gareth at ymchwil a phwysigrwydd yr hyn a allai ymddangos fel pwnc anghyfarwydd. 

    Dechreuodd Gareth y ddarlith gyda trosolwg cyfareddol o lysoedd Oes Fictoria a sut y cafodd y rhain eu creu i gartrefu'r tlotaf o'r boblogaeth a aeth yn sâl wedyn o'r amodau cyfyng ac afiechydon yn aml, gan arwain at farwolaethau uchel ymysg y tlodion gwaith. Arweiniodd hyn at gyflwyno is-ddeddfau graddol, gan osod safonau ychydig yn well i adeiladwyr tai ddilyn a fyddai'n gwella'r goleuadau a'r awyru ar gyfer rhentwyr. 

    Fe wnaeth Gareth barhau i sôn am rai o'r penseiri ac adeiladwyr tai adnabyddus, sef, Richard Owens, a adeiladodd hanner Lerpwl yn ôl pob tebyg! Roedd gan y Cymry law hanfodol wrth greu'r strydoedd teras yn Lerpwl heddiw, yn ogystal â llawer o adeiladau cyhoeddus eraill fel capeli, ysgolion, a chanolfannau cymunedol.

    Dangoswyd rhai o enwau braidd yn amheus adeiladwyr tai'r ganrif honno i'r gynulleidfa (meddyliwch Honest Tom a Bob y Liar!), ochr yn ochr â rhai trwyddedu creadigol o enwi strydoedd (ar ôl eu plant). Daeth Gareth â'r sylw yn ôl i Wrecsam a gorffen y ddarlith gyda llun o helfa wy pasg - hen ddrws i lys Fictoraidd yma yn Wrecsam. Cysylltwch â Gareth os oes gennych unrhyw gwestiynau, g.carr@glyndwr.ac.uk.

    GC Trawsgrifiad Mawrth


    Syrffio Tonnau o Atebolrwydd Tosturiol o fewn Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid 

    Dr Tegan Brierley-Sollis

    Ddechrau mis Mawrth, rhoddodd Dr Tegan Brierley-Sollis, Darlithydd mewn Plismona a Dulliau Trawma-Gwybodus ddarlith ar ddiwylliant trawma-gwybodus mewn sefydliadau. Agorodd yr Athro Claire Taylor, Dirprwy Is-Ganghellor, y ddarlith gyda chanmoliaeth uchel i Tegan a'i hymroddiad i drawsnewid mannau i fod yn wybodus am drawma.  

    Dechreuodd Tegan y ddarlith drwy ddisgrifio ei stori ei hun, a arweiniodd at archwiliad o'r termau allweddol ynghylch trawma a pherthynas therapiwtig. Dywedwyd bod darparwyr gwasanaethau yn aml yn sefydlu perthnasoedd therapiwtig gyda'r ieuenctid sy'n ymwneud â chyfiawnder yn eu gofal trwy ddarparu'r amodau craidd sydd eu hangen, megis parch cadarnhaol, didwylledd, ac empathi.  

    Bu Tegan yn sôn wedyn am rai o ganfyddiadau eu hastudiaeth ymchwil, ac yn rhannu ambell ddyfyniad gan y bobl ifanc gafodd eu cyfweld. Trwy ddangos yr amodau craidd yn ystod y cyfweliad, roedd hi'n amlwg bod y bobl ifanc yn teimlo eu bod yn gallu rhannu rhai o'u straeon trawma.  

    Gan ddefnyddio trosiad o sefydliad fel organeb byw sy’n anadlu, amlinellodd Tegan drawma ficeraidd a sefydliadol, a allai ddigwydd pe na bai'r diwylliant cywir wedi'i wreiddio o fewn sefydliadau sy'n gweithio gydag unigolion a straeon trawmatig.   

    Daeth y ddarlith i ben gyda llawer o gymeradwyaeth a chwestiynau, a'r rhai mwyaf perthnasol yw: beth fyddwn ni'n ei wneud nesaf? Atebodd Teagan, 'paid â bod ofn trio pethau newydd... a byddwch yn garedig bob tro'. Os na chawsoch chi fyth gyfle i ofyn eich cwestiwn, cysylltwch â Tegan drwy’r cyfeiriad e-bost: Tegan.brierley-sollis@glyndwr.ac.uk 

    Trawsgrifiad


    Newid yn yr Hinsawdd, Nwy Rwsia a Biliau Ynni: Storm Berffaith

    David Sprake

    Cyflwynodd David Sprake, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Adnewyddadwy a Chynaliadwy, sgwrs ym mis Ionawr am ynni a’r newid yn yr hinsawdd yn y DU. Gallwch fod wedi clywed pin yn disgyn yn y ddarlithfa wrth i David amlinellu ffeithiau trawiadol am sut y mae biliau trydan yn cael eu cynhyrchu, a faint o garbon deuocsid y mae gwledydd eraill yn ei gynhyrchu.

    Dechreuodd David y ddarlith trwy amlinellu’r newid yn yr hinsawdd a sut yr oedd hyn wedi digwydd, gan ganolbwyntio ar garbon deuocsid a’r effaith yn sgil nwyon tŷ gwydr. Fe aeth ati wedyn i ddangos i ni sut y mae carbon deuocsid yn cynyddu, ers dyfodiad diwydiant yn arbennig. Yn dilyn hynny, cyflwynodd David wahanol fathau o ddulliau cynhyrchu ynni i’r gynulleidfa, ynghyd â manteision ac anfanteision bob un ohonyn nhw, gan ffafrio adnoddau ynni adnewyddadwy’n bennaf, ynghyd â disgrifio costau cychwynnol rhoi hyn ar waith. 

    Fe arweiniodd hyn at sôn am gyfarfodydd COP, ym mhle bydd arweinwyr y byd yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael â her y Newid yn yr Hinsawdd, gyda rhagor o dystiolaeth weledol amlwg yr ymddengys nad oes fawr ddim wedi newid ers y cyfarfod cyntaf ym 1995.

    Fe gafwyd trafodaeth fywiog ar ôl y ddarlith, gyda llawer o gwestiynau gwych yn cael eu gofyn i David, oedd wedi paratoi’n drylwyr ar eu cyfer! Ond os na chawsoch chi’r cyfle i ofyn eich cwestiwn, neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ef trwy anfon neges at d.sprake@glyndwr.ac.uk.

    Trawsgrifiad DS


    Ydy hi'n ormod i'w ofyn? Mae peirianneg yn creu'r seilwaith sy'n galluogi gwareiddiad: sut ddylai  Peirianneg ymateb i heriau Newid yn yr Hinsawdd i gadw ein bodolaeth barhaus?

    Yr Athro Alison McMillan

    Alison standing in front of the screen of her talk

    Rhoddodd Yr Athro Alison McMillan, sef Athro Technoleg Awyrofod, sgwrs ar Ragfyr y 1af am Beirianneg Pontio, a’r modd y mae pob un ohonom yn gyfrifol am feddwl am sut i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

    Cychwynnodd Alison y ddarlith trwy roi’r cyd-destun, gan drafod y modd y dylem ni, gyda’n hamryw wahaniaethau, weithio gyda’n gilydd i ddatrys y problemau mawr hyn yn ein cymdeithas. Fe aeth ymlaen wedyn i amlinellu sut mae’r sawl sydd mewn grym yn marchnata a chyfathrebu atebion posibl i’r problemau yn sgil carbon deuocsid a’r newid yn yr hinsawdd.

    Cyflwynir y cysyniad o Beirianneg Pontio, sef dylunio newidiadau o safbwynt ffordd o fyw pobl a’r modd y defnyddiwn beiriannau, gydag enghreifftiau o bontio o un math o drafnidiaeth gyhoeddus i un arall, wrth gyflawni newidiadau o ran isadeiledd ar raddfa fawr. Daw sgwrs Alison i ben gydag atodiad diddorol iawn am y problemau posibl yng nghyswllt mabwysiadu hydrogen fel prif ffynhonnell tanwydd, sy’n egluro’r angen i ni fynd yn ôl i ble’r oeddem ni a gweithio gyda’n gilydd i ganfod atebion hirdymor.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ddarlith, e-bostiwch Alison yn a.mcmillan@glyndwr.ac.uk 

    Trawsgifiad AM 01.12.22


    A all y byd academaidd ychwanegu gwerth at BBaChau (busnesau bach a chanolig) a busnesau mawr? Rôl y Brifysgol fodern wrth gefnogi busnesau gyda datrysiadau technoleg Ffotoneg uwch. 

    Yr Athro Caroline Gray.Caroline Gray

    Rhoddodd yr Athro Caroline Gray OBE, Athro Menter, Ymgysylltu, a Throsglwyddo Gwybodaeth ddarlith hynod ddiddorol ym mis Hydref am sut y gall prifysgolion helpu’r diwydiant ffotoneg i ddatblygu a chyflawni eu nodau.

    Amlinellodd Caroline effeithiau cadarnhaol partneriaeth grŵp ymchwil y Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg (CPE), a oedd yn gydweithrediad rhwng pedair prifysgol yng Nghymru. Rhoddodd Caroline hefyd rai enghreifftiau o astudiaethau achos o sut mae’r CPE wedi helpu busnesau i arloesi, megis cyfrif llechi ar gyfer Slate Wales, arysgrifio codau QR ar Ddiemwntau ar gyfer Diamond Centre Wales, a thechnegau sterileiddio UV ar gyfer Space Republic.

    Os ydych chi yn y diwydiant ffotoneg ac opteg ac angen cymorth i arloesi neu wireddu eich syniadau neu eu troi’n gynhyrchion hyfyw, cysylltwch â Caroline yn The Optic Centre i drafod eich anghenion c.gray@glyndwr.ac.uk.

     

    Trawsgrifiad

  • 2021/22 Darlithoedd Gorffennol

    'Rose West ar y stondin: dyfarniadau hygrededd mewn treialon troseddol' gyda Dr Caroline Gorden

    "Bydd y ddarlith hon yn gwneud i chi ystyried euogrwydd a dieuogrwydd mewn ffordd wahanol, ac efallai y byddwch yn dechrau pendroni ai'r gwir yw'r hyn y cytunwyd arno, nid yr hyn sydd."


    Pris peint? A all polisi alcohol Cymru wneud daioni? gyda Dr Wulf Livingston.

    "Yn debig iawn i'r ffordd yr oedd Llywodraeth yr Alban eisiau arddangos eu heffaith eu hunain yn y byd gydag isafbrif uned, gallwch weld bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'w hagenda llesiant ei hun trwy'r isafbrif prisio uned."