.jpg)
Ein Cenhadaeth Ddinesig
Gweithio gyda'n gilydd er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ledled gogledd Cymru.
Beth yw ein cenhadaeth ddinesig wedi'i chyd-greu?
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol er lles y cyhoedd ar draws Gogledd Cymru - Dysgu ac arwain gyda’n gilydd ar gyfer newid cadarnhaol yn y system gyfan.
Rydym yn angerddol ac yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid a chymunedau mewn ffyrdd newydd – gan ddeall yr heriau allweddol a chyd-greu ein dull gweithredu ar draws Gogledd Cymru. Mae gan ein cenhadaeth ddinesig newydd bobl a lle wrth ei chalon.
Ynghyd â sgwrsio ag arweinwyr, rydym wedi nodi bod gwraidd llawer o heriau a blaenoriaethau gweithredu ein rhanbarth yn ymwneud ag anghydraddoldeb cymdeithasol a dyma'r hyn yr ydym am fynd i'r afael ag ef.
Gweithio gyda’n gilydd
Drwy raglen Cenhadaeth Ddinesig o dros 35 o brosiectau, rydym yn gweithio’n gydweithredol er mwyn cyflawni newid ystyrlon ar draws ein pedair prif thema:
Arweinyddiaeth, llywodraethu a gwaith system gyfan
Mwy o wybodaethAdeiladu Cydnerthedd Cymunedol
Mwy o wybodaethCadw'n Iach
Mwy o wybodaeth