Galluogi pobl i ddod at ei gilydd i ddiffinio problemau, cyd-greu atebion, dysgu a rhannu gwybodaeth.

Ein nod yw galluogi a darparu hyb ar gyfer dealltwriaeth a gweithredu ar y cyd, ochr yn ochr â phartneriaid a chymunedau’r rhanbarth. Rydym yn gwneud hyn drwy fod yn arloesol a chyd-greu dulliau newydd at weithio’n gydweithredol i fynd i’r afael ag anghyfartaledd cymdeithasol yn Wrecsam a rhanbarth gogledd Cymru. Rydym yn helpu i alluogi amrywiaeth o fannau niwtral, cefnogol lle all yr holl bartneriaid ddysgu gyda’i gilydd ynghylch gweithio mewn systemau cyfan a galluogi rhwydweithiau i weithio ar draws ffiniau sefydliadol.

Yma byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o grwpiau a phrosiectau sy’n gweithio’n gydweithredol ac sy’n dwyn partneriaid ynghyd er mwyn mynd i’r afael â phrif heriau'r rhanbarth

Content Accordions

  • Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig Gogledd Cymru (NWCEP)

    Ym mis Mai 2025, fe wnaethom lansio Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig Gogledd Cymru (NWCEP) mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor ac wedi’i gefnogi gan Medr. Mae’r bartneriaeth hon yn dwyn ynghyd wneuthurwyr newid ac arweinwyr ar draws y rhanbarth i drafod heriau a datblygu cynllun gweithredu er mwyn alinio blaenoriaethau, hwyluso cydweithrediad rhanbarthol, adeiladu capasiti a mwyhau adnoddau ar draws y dirwedd.

    Mae’r NWCEP yn bartneriaeth ranbarthol arloesol, sy’n arwain yn genedlaethol, a dyma’r gyntaf o’i bath yng Nghymru. Yn dilyn dau gyfarfod cyntaf NWCEP, rydym wedi datblygu pedwar prif faes newid ar draws y rhanbarth:

    • diffyg cyfranogiad dinasyddion mewn gwasanaethau cyhoeddus
    • diffyg uchelgais o ran lleoedd unigol
    • tlodi plant
    • diffyg ymgysylltiad mewn gwarchod yr amgylchedd/ newid yn yr hinsawdd

    A photo of Joe Yates, Nina Ruddle and Derek Walker taken at a North Wales Civic Engagement Partnership event.

  • Lab Gwasanaeth Cyhoeddus Gogledd Cymru (NWPSL)

    Gofod ffisegol a rhithiol sy’n dwyn arweinwyr ynghyd er mwyn gweithio mewn ffordd wahanol. Adeiladu capasiti a galluoedd i yrru arloesi o amgylch heriau cydweithredol.

    • Cymuned o arweinwyr system - yn cynnig hyfforddiant mewn arweinyddiaeth systemau a datblygu rhwydwaith o arweinwyr systemau ar draws ein gwasanaethau sector cyhoeddus a thrydydd sector er budd ein cymunedau a'n rhanbarth.
    • Lle ar gyfer sgwrsio - yn darparu lle diogel ar gyfer sgyrsiau arweinyddiaeth, cymorth gan gyfoedion ac anogaeth ar y cyd wrth i ni fynd i'r afael â heriau cyfunol gyda'n gilydd.
    • Ymrwymiad i fod yn ddefnyddiol - cefnogi archwiliad arloesol ac ymyrraeth weithredol er newid cadarnhaol drwy ymholiad beirniadol wedi'i greu ar y cyd, ymchwil cymhwysol a gwerthuso effaith.

    Ymgysylltu gydag arweinwyr ar draws gogledd Cymru mewn dosbarth meistr, gan hyrwyddo capasiti a gallu cyffredin ar draws pob sector er mwyn dylanwadu ar arfer, dwyn adnoddau ynghyd a dylanwadu ar bolisi. Cyfres o ddigwyddiadau dysgu, gan gynnwys Arweinyddiaeth Systemau fel ffordd o gefnogi newid o fewn y sector cyhoeddus.

    Darparu cynhadledd ar Arwain Systemau ym mis Chwefror 2025 ochr yn ochr gyda Do Well, i dros 70 o fynychwyr ledled y rhanbarth.

    Cynnal y gynhadledd ‘Cymru Iachach, Gyfoethocach a Thecach - Gweithio gyda’n Gilydd i fynd i’r Afael â Thlodi Plant’, mewn partneriaeth â Mudiad 2025, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Archwilio Cymru, Llywodraeth Cymru, Economi Llesiant Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a Phartneriaeth Ymgysylltu Dinesig Gogledd Cymru.

    Gweithio gyda Xplore! a’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus (PSBau) er mwyn darparu sesiynau Arweinwyr y Dyfodol I 353 o ddysgwyr o 15 ysgol ar draws y 6 sir yng ngogledd Cymru.

    Bydd y gwaith hwn yn parhau drwy gydol 2026 gyda chyfres o ddiwrnodau arweinyddiaeth.

     

     

     

  • Mudiad 2025

    Mudiad cymdeithasol dros newid er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yng ngogledd Cymru - sy’n dwyn ynghyd sefydliadau ar hyd a lled y rhanbarth i hwyluso system gyfan o feddwl a newid. Nina Ruddle yw Cadeirydd Mudiad 2025.

    Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Mudiad 2025 gennym ym mis Gorffennaf 2024, gyda 70 o fynychwyr ar draws Cymru. Yn ystod y gynhadledd hon, aethom ati i lansio ‘Blwyddyn Perthyn’ ar gyfer y flwyddyn 2025, sydd wedi fframio llawer o’n gwaith drwy gydol 2025.

    Aethom ati i gynnal Cynhadledd ‘Cefnogi Pobl Awtistig yn y Gweithle a Thu Hwnt’ mewn partneriaeth gyda ClwydAlyn. Cynhelir ail gynhadledd yng ngwanwyn 2026.

    A group of people at a conference with a presentation on screen saying Supporting Autistic People in the Workplace

  • Partneriaeth Mewnwelediad Gogledd Cymru (NWIP)

    Partneriaeth o bobl a sefydliadau sy’n datblygu ac yn darparu prosiectau arloesol ar draws y rhanbarth, ac sy’n canolbwyntio ar y 3 maes allweddol ymchwil, arloesi a newid systemau. Rydym wedi cyflawni cydnabyddiaeth ryngwladol am ein gwaith Partneriaeth Mewnwelediad Gogledd Cymru, fel rhan o astudiaeth achos OECD fyd-eang Bydd Partneriaeth Mewnwelediad Gogledd Cymru yn lansio gwefan newydd, ddwyieithog sy’n hawdd i’w defnyddio. Bydd y safle’n rhannu gwybodaeth ddefnyddiol megis data llesiant, adroddiadau, digwyddiadau a newyddion, a bydd yn cynnwys ardal ddiogel lle gall partneriaid weithio gyda’i gilydd. Bydd yn helpu pobl ar draws gogledd Cymru i gael mynediad at sylwadau craff, eglur, cyfredol a’I gwneud yn haws i sefydliadau gydweithredu er budd ein cymunedau.