
Ymchwil a Phartneriaethau Strategol
Rydym wedi gweithio ar nifer o brosiectau a digwyddiadau ar y cyd, megis cynhadledd ‘Cefnogi Awtistiaeth yn y Gweithle a Thu Hwnt’, cynhadledd 'Cymru Iachach, Gyfoethocach a Thecach – Gweithio gyda'n Gilydd i Drechu Tlodi Plant' a Phartneriaeth Ymgysylltiad Dinesig Gogledd Cymru i enwi ond ychydig.
Rydym hefyd wedi gweithio ar nifer o geisiadau ariannu cydweithredol ochr yn ochr gyda phartneriaid. Megis ein cais Rhwydwaith Arloesi Cymru llwyddiannus i archwilio adrodd straeon fel dull ar gyfer newid mewn gwasanaethau iechyd, gofal a lles yng Nghymru.
Mae ein hymrwymiad i weithio’n gydweithredol yn alinio’n agos gyda Gweledigaeth 2030 Prifysgol Wrecsam, gan gefnogi’r brifysgol i ddod yn hyb ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, ac adeiladu partneriaeth ar draws y rhanbarth.
Mae’r partneriaethau rydym wedi’u datblygu a’u cynnal ymhellach yn galluogi i ni barhau i gefnogi Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (2015), yn y ffordd fwyaf effeithiol, ac sy’n cael y mwyaf o effaith.
.png)