Urddas yn y Gwaith

Nod Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw fod yn rhywle lle y gall pawb weithio a dysgu heb ddioddef aflonyddu na bwlio.  Mae ein tîm o Ymgynghorwyr Urddas yn y Gwaith wedi'u hyfforddi ac yn barod i helpu aelodau o'r staff a allai fod yn profi problemau. Mae ein Hymgynghorwyr yn gwrando ar bryderon, yn darparu cymorth cyfrinachol a gwybodaeth yn ymwneud â pholisiau a gweithdrefnau'r Brifysgol ac yn tynnu sylw'r staff at y opsiynau sydd ar gael. 

Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw'r sefydliad AU cyntaf yng Ngogledd Cymru i fod yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall.

Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall yw fforwm arfer gorau cyflogwyr mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a  chynhwysiant LHDT. 

Mae'r rhaglen yn galluogi'r Brifysgol i wreiddio diwylliant cynhwysol a derbyn o fewn y sefydliad; gan sefydlu cysylltiadau â'i gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a Thrawsrywiol ac annog cydweithredu.

Drwy lywio drwy fframwaith bydd y rhaglen yn rhoi cymorth ac arweiniad a chyfleoedd datblygu i'r Brifysgol i'w staff, gan sicrhau eu bod wedi'u harfogi'n llawn i gefnogi myfyrwyr.

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Rydym yn falch o gadarnhau bod Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi cael ei chymeradwyo fel cyflogwr hyderus o ran anabledd.

Mae'r gymeradwyaeth hon yn cadarnhau bod y Brifysgol wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl ag anableddau a'r rheini sydd â chyflyrau iechyd. 

Mae gan y Brifysgol bellach fynediad at ganllawiau a fydd yn ein helpu i wella ein gwasanaethau ac yn ein helpu i adeiladu ar ein gallu i:

  • Mynd ati i geisio denu a recriwtio pobl ag anableddau.
  • Darparu proses recriwtio sy'n gwbl gynhwysol a hygyrch.
  • Parhau i gynnig cyfweliadau i bobl ag anableddau sy'n bodloni meini prawf sylfaenol rôl y swydd.
  • Cynnal a gwella ein hyblygrwydd wrth asesu pobl i alluogi ymgeiswyr swyddi sydd ag anableddau i gael y cyfle gorau i ddangos eu bod yn gallu gwneud y gwaith.
  • Parhau i wneud addasiadau rhesymol fel sy'n ofynnol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Ali Bloomfield dros y ffôn 01978 293307 neu drwy e-bost Alison.bloomfield@glyndwr.ac.uk a bydd yn fwy na pharod i'ch helpu.

Cyflog Byw

Mae'r Brifysgol wedi gwneud ymrwymiad i weithredu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi sy'n ceisio sicrhau bod pob sefydliad yn y sector cyhoeddus a phob prifysgol yng Nghymru yn ymrwymo i amrywiaeth o arferion cyflogaeth moesegol gan gynnwys ystyried talu o leiaf Cyflog Byw Sefydliad y Cyflog Byw i'w staff; ac annog eu cyflenwyr i wneud yr un peth.

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i dalu o leiaf Cyflog Byw Sefydliad y Cyflog Byw i'w holl staff a mae hyn ei roi yn cael ei wneud ers y flwyddyn academaidd 18/19. Bydd y Brifysgol hefyd yn sicrhau bod, y bydd fel rhan o unrhyw drefniadau gwasanaeth a gontractiwyd, er enghraifft wrth ddarparu gwasanaethau glanhau, arlwyo a diogelwch, contractwyr, wrth aildendro, yn ymrwymo i dalu hefyd Cyflog Byw Sefydliad y Cyflog Byw.