Nod Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol 2024-2028 yw darparu strategaeth a chynllun gweithredu sy’n adlewyrchu anghenion ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Mae’r strategaeth a’i hamcanion yn sefydlu ymrwymiad y Brifysgol i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant dan dair brif thema:

Ein Pobl

Mabwysiadu amgylchedd dysgu a gweithio cynhwysol sy’n meithrin diwylliant sy’n cefnogi ein staff a’n myfyrwyr, yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn, gan sicrhau cyfleoedd teg i’n pobl. 

Ein Hamgylchedd

Hyrwyddo amgylchedd cynhwysol a theg i’n myfyrwyr, staff ac ymwelwyr drwy sicrhau bod ein lleoedd ffisegol a digidol yn hygyrch; drwy feithrin cefnogaeth ac ymateb.

Ein Cymuned

Cryfhau ein cysylltiadau â’r gymuned leol drwy ffurfio partneriaethau cynhwysol i weithio ar brosiectau cydweithredol a mentrau ar y cyd, gan gyfrannu tuag at lesiant ein Prifysgol a’r gymuned leol drwy rannu cyfrifoldeb a chysylltiadau ystyrlon. 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae cynnal AEG yn gyfle i ystyried sut mae penderfyniadau, polisïau ac ati yn effeithio ar bobl neu grwpiau o bobl â nodweddion gwarchodedig. Mae AEG hefyd yn rhoi trywydd archwilio i'r brifysgol, gan alluogi'r Brifysgol i ddangos bod ei phenderfyniadau'n cael eu hystyried a'u bod yn deg.

Dylid dechrau'r AEG wrth ystyried gweithredu newid neu wrth ddrafftio polisi, gweithdrefn neu ymarfer newydd fel y gellir ei ddefnyddio yn ystod y broses benderfynu.