Penodwyd ar 1 Gorffennaf 2023

Penodwyd Maisie yn Is-lywydd yr Undeb Myfyrwyr yn ddiweddar ac mae hi’n edrych ymlaen at ddechrau ei chyfnod yn y swydd.    

Daw Maisie o Chichester yn wreiddiol, dinas fechan ar arfordir de Lloegr. Yn dilyn cael ei chymwysterau Safon Uwch a diploma mewn Troseddeg, symudodd Maisie i Wrecsam i astudio ar y cwrs BA (Anrhydedd) mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Cwblhaodd ei hail flwyddyn yn ddiweddar a phenderfynodd ohirio ei thrydedd flwyddyn er mwyn gwasanaethu fel Is-lywydd yr Undeb Myfyrwyr. Yn ystod blwyddyn academaidd 22/23 bu Maisie’n gweithredu fel Swyddog Merched a llywydd y Tîm Uniboob ar ran yr Undeb Myfyrwyr. Llwyddodd i lunio cyswllt llwyddiannus rhwng yr Undeb a “CoppaFeel!”, sydd wedi bod yn berthynas buddiol iawn i lawer o fyfyrwyr. 

Nod Maisie yw parhau i weithio ag elusennau dylanwadol a hoffai greu perthynas rhwng y brifysgol a’r undeb myfyrwyr ag elusennau sy’n lleol i ardal Wrecsam.