Rachel Clacher Chancellor

Canghellor Rachel Clacher CBE

Mae Rachel Clacher CBE wedi’i phenodi’n Ganghellor newydd Prifysgol Wrecsam. Bydd yn gwasanaethu fel pennaeth seremonïol a llysgennad y Brifysgol, gan gynrychioli Prifysgol Wrecsam ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Mae Rachel Clacher CBE yn un o entrepreneuriaid, dyngarwyr ac arweinwyr dinesig uchaf eu parch yng Nghymru. Mae’n fwyaf adnabyddus am gydsefydlu Moneypenny, y cwmni cyfathrebu â chwsmeriaid sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, ac am sefydlu’r elusen symudedd cymdeithasol WeMindTheGap. Dyfarnwyd CBE iddi yn 2019 am ei gwasanaethau i fusnes ac i bobl ifanc dan anfantais. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Dinas Wrecsam ar hyn o bryd, gan helpu i lywio dyfodol a ffyniant hirdymor y ddinas.

Dywedodd Ms Clacher: “Cysylltwyd â mi am y tro cyntaf ynglŷn â dod yn Ganghellor tua blwyddyn yn ôl. Roeddwn wedi cael fy ngwneud yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Wrecsam yn 2024, ac roedd hynny’n golygu llawer iawn i mi, ond roedd cael gwahoddiad i ddod yn Ganghellor yn gwbl annisgwyl. Cefais fy synnu’n fawr ac roeddwn yn teimlo’n hynod ostyngedig!

“Nid oedd yn rôl yr oeddwn erioed wedi’i dychmygu i mi fy hun, ond po fwyaf y buom yn siarad amdani, y mwyaf y teimlais ei bod yn gyfle gwych i gyfrannu at brifysgol ac at le sydd ill dau wedi bod yn rhannau pwysig o fy mywyd.

“Rwy’n credu’n gryf yn yr hyn y mae Prifysgol Wrecsam yn ei gynrychioli. Mae symudedd cymdeithasol wedi bod wrth wraidd cymaint o fy mywyd a’m gwaith. Drwy WeMindTheGap, rwyf wedi gweld faint o ddawn a photensial sydd gan bobl nad ydynt bob amser wedi cael y cyfleoedd na’r hyder i’w cydnabod ynddynt eu hunain.

“Rwyf hefyd wrth fy modd bod y Brifysgol wedi’i gwreiddio mor ddwfn yn ei hardal. Mae Wrecsam wedi rhoi cymaint i mi dros y blynyddoedd, ac roedd hyn yn teimlo fel cyfle arall i roi rhywbeth yn ôl. Rwyf wastad wedi fy swyno gan yr hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn cysylltu bydoedd nad ydynt fel arfer yn dod at ei gilydd – addysg, busnes, elusennau, cymunedau, llywodraeth a phobl ifanc eu hunain. Y cwestiwn rwy’n ei ofyn i mi fy hun dro ar ôl tro yw: beth allem ni ei wneud gyda’n gilydd na allai neb ohonom ei wneud ar ei ben ei hun? Rwy’n edrych ymlaen at archwilio hynny gyda’r Brifysgol.

“Gall addysg newid trywydd bywyd rhywun. Ond gall rhywun sy’n credu ynoch chi, sy’n agor drws i chi neu sy’n eich helpu i weld posibilrwydd na allech ei weld o’r blaen wneud hynny hefyd. Rwy’n hynod gyffrous am yr hyn y gall prifysgol sydd â gwir ymrwymiad i symudedd cymdeithasol ei gyflawni: helpu pobl nid yn unig i fynd drwy’r drws, ond i gredu eu bod yn perthyn yno, i ffynnu tra byddant yno ac i adael gan gredu yn yr hyn sy’n bosibl iddynt.”

Ychwanegodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Mae penodi Rachel yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Wrecsam i feithrin cysylltiadau cryf rhwng addysg, menter, arloesedd ac effaith gymunedol, sydd i gyd yn bileri canolog i weledigaeth a strategaeth y Brifysgol.

“Mae Rachel yn dod â hanes eithriadol o lwyddiant ym myd busnes, effaith gymdeithasol ac arweinyddiaeth sy’n seiliedig ar le i rôl y Canghellor. Daw hynny wrth i’r Brifysgol barhau i roi ei strategaeth uchelgeisiol Wrecsam2030 ar waith a chryfhau ei safle fel prifysgol ddinesig fodern sy’n flaenllaw’n fyd-eang. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei chroesawu i’n tîm.”

Dywedodd Leigh Griffin, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr: “Mae penodi Rachel yn foment arwyddocaol i Brifysgol Wrecsam. Mae hi’n cyfuno arweinyddiaeth fusnes o safon fyd-eang ag ymrwymiad diwyro i greu cyfleoedd i eraill a gwella cymunedau.

“Mae’r Bwrdd yn hyderus y bydd Rachel yn llysgennad rhagorol i’n Prifysgol, gan gefnogi ein cenhadaeth a’n helpu i gryfhau ein heffaith ddinesig a’n partneriaethau rhanbarthol.”

Pwy yw Rachel Clacher?

Cafodd Rachel Clacher, 60 oed, ei magu wrth deithio’r byd oherwydd gwaith ei thad fel peiriannydd sifil, ond Gogledd Cymru oedd ei chartref erioed, gyda gwreiddiau teuluol yn y Bala, Dinbych a Llanefydd. Astudiodd Ffrangeg ac Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Sheffield. Mae’n gyd-sylfaenydd Moneypenny, un o brif gwmnïau cyfathrebu â chwsmeriaid y DU, sydd â’i bencadlys yn Wrecsam.

Hi yw sylfaenydd WeMindTheGap, elusen symudedd cymdeithasol sy’n cynnal rhaglenni i bobl ifanc ledled Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.

Dyfarnwyd CBE i Rachel yn 2019 am ei gwasanaethau i fusnes ac i bobl ifanc dan anfantais.

Cafodd ei gwneud yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Wrecsam yn 2024.

Mae Rachel yn Gadeirydd Bwrdd Dinas Wrecsam, sy’n golygu ei bod yn ymwneud â datblygu rhanbarthol a mentrau cymunedol.