Hygyrch, Cefnogol, Arloesol ac Uchelgeisiol 

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gwahodd ceisiadau gan unigolion brwdfrydig ac ymroddgar a all wneud cyfraniad cadarnhaol i waith y Bwrdd Llywodraethwyr. 

Rydym ni am benodi llywodraethwyr annibynnol newydd sy’n rhannu ein gwerthoedd craidd, sy’n dod o amrediad eang o gefndiroedd ac sy’n cynnig ystod eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiad.

Ar hyn o bryd rydym ni’n chwilio’n benodol am bobl sy’n meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad a ganlyn: 

Rydym ni'n chwilio'n benodol am bobl â chymwysterau ariannol / profiad ariannol yn deillio o swydd ym maes cyllid yn bennaf ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, byddem hefyd yn croesawu ceisiadau a datganiadau o ddiddordeb gan ystod eang o gefndiroedd a sgiliau.

Mae’n ofynnol i Lywodraethwyr ddod ag ymddygiad penodol i’r Bwrdd a chwarae rhan briodol yn sichau bod y busnes angenrheidiol yn cael ei gyflawni’n effeithiol, yn effeithlon ac mewn modd priodol i gynnal busnes cyhoeddus a statws elusennol.  

Mae bod yn llywodraethwr yn rhoi cyfleoedd i weithio ar y cyd â’r llywodraethwyr, y staff a’r myfyrwyr cyfredol a chwarae rhan allweddol yn cyflawni gweledigaeth a strategaeth tymor hir y Brifysgol. Mae’r rôl yn rhoi cyfleoedd datblygiad personol a llunio rhwydweithiau proffesiynol hefyd.  

Edrychwch ar y Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr am ragor o fanylion. 

Os nad yw rôl llywodraethwr yn gweddu i chi ar hyn o bryd, ond bod gennych chi ddiddordeb mewn datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad ym maes Addysg Uwch mewn swyddogaeth anweithredol, mae posibilrwydd o gyfleoedd i gyfethol unigolion ar rai o bwyllgorau’r Bwrdd fel aelod allanol. Mae rolau cyfetholedig yn canolbwyntio ar gylch gwaith y pwyllgor ac yn cynnwys dod i rhwng tri a phum cyfarfod pwyllgor y flwyddyn, yn dibynnu ar raglen y pwyllgor.

Sut i ymgeisio 

Os ydych chi’n dymuno ymgeisio i fod yn aelod o’r Bwrdd Llywodraetthwyr, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn aelod cyfetholedig un o’r pwyllgorau, cyflwynwch eich CV a llythyr esboniadol yn nodi’r rhesymau am eich diddordeb mewn bod yn aelod o Fwrdd y Brifysgol neu bwyllgor, wedi’i gyfeirio at Glerc y Bwrdd Llywodraethwyr.  

Mae’r broses ddethol yn cael ei goruchwylio gan Bwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu’r Bwrdd a bydd yn cynnwys cyfweliad gydag hyd at bedwar llywodraethwr.  

Bydd costau teithio’n gysylltiedig á’r broses gyfweld yn cael eu had-dalu.  

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am rôl llywodraethwr, mae croeso i chi gysylltu â’r Clerc trwy neges e-bost yn y lle cyntaf i drefnu amser am sgwrs ffôn.  

David Clarke, Clerc y Bwrdd Llywodraethwyr, Prifysgol Wrecsam.

E-bost: david.clarke@wrexham.ac.uk