Cyhoeddiad y Mis: Mehefin

a scanner with a handprint on

Amrywioldeb Amgylcheddol Cydraniad Uchel yn ystod Dadelfennu mewn Hinsawdd Dymherus Laith y DU

Daw dewis y Swyddfa Ymchwil y mis yma gan Dr Paige Tynan, Uwch-ddarlithydd mewn Biowyddorau.

Mae deall sut mae amodau amgylcheddol yn dylanwadu ar ddadelfennu yn hanfodol ar gyfer gwyddor fforensig, yn enwedig wrth amcangyfrif y cyfnod ôl-farwolaeth. Yn y cyhoeddiad y mis hwn, mae Paige yn cyflwyno set ddata amgylcheddol cydraniad uchel a gasglwyd yn ystod astudiaeth ddadelfennu 12 wythnos mewn hinsawdd dymherus laith y DU.

Gan ddefnyddio gorsaf dywydd a osodwyd yn safle’r astudiaeth, cofnodwyd amodau amgylcheddol bob awr rhwng Mai ac Awst 2021. Roedd newidynnau yn cynnwys tymheredd, lleithder, glawiad, gwasgedd atmosfferig, cyflymder y gwynt, cyfeiriad y gwynt, pwynt gwlith, ac oerfel gwynt. Mae’r lefel hon o fanylder yn darparu mewnwelediad gwerthfawr i’r newidiadau amgylcheddol dynamig sy’n digwydd drwy gydol y broses ddadelfennu.

Mae’r astudiaeth yn pwysleisio pwysigrwydd monitro amgylcheddol parhaus, oherwydd gall amrywiadau tymor byr ddylanwadu’n sylweddol ar gyfraddau dadelfennu a gall setiau data cydraniad is eu colli. Wrth i set ddata fod ar gael yn agored, mae Paige yn cefnogi ymchwil taffonomeg fforensig fwy cadarn ac atgynyrchadwy a hwyluso cymariaethau ar draws gwahanol hinsoddau a rhanbarthau daearyddol.

Ochr yn ochr â’r data amgylcheddol, mae adnoddau ychwanegol o’r un astudiaeth ar gael, gan gynnwys ffotograffau hydredol, data delweddu thermol, a modelau 3D yn cofnodi dadelfennu dros amser. Gyda’i gilydd, mae’r setiau data hyn yn darparu adnodd cyfoethog i ymchwilwyr sy’n ystyried y berthynas rhwng amodau amgylcheddol a dadelfennu.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyfrannu at ymdrechion parhaus i wella argaeledd data a thryloywder o fewn gwyddor fforensig, gan ddarparu adnodd pwysig ar gyfer ymchwil a datblygiad methodolegol yn y dyfodol.

Darllenwch y papur llawn.