Gweithdy Heddwch Drwy Iaith 2026
-(1).jpg)
Ar ddiwedd 2025, hysbyswyd Dr Phoebe Teh, Darllenydd mewn Cyfrifiadura Cymdeithasol, bod ei chais am Grant Gweithdy Ymchwil, drwy Gymdeithas Ddysgedig Cymru, wedi bod yn llwyddiannus.
Prosiect Ymchwil
Nod y prosiect ymchwil, sy'n dwyn y teitl Heddwch drwy iaith: mesur effaith casineb ar-lein, yw ystyried sut mae iaith casineb ar-lein yn effeithio ar unigolion yn emosiynol ac yn gorfforol, drwy ddadansoddi iaith wenwynig a mesur ymatebion i straen. Rhan o'r nod yw creu cronfa ddata ac adnoddau addysgol iaith casineb amlieithog.
Felly, aeth Phoebe a'i chydweithredwr, yr Athro Cheng Chi-Bin o Brifysgol Tamkang, Taiwan, ati i gynllunio gweithdy i annog heddwch a chyfathrebu parchus. Cynhaliwyd y gweithdy wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Wrecsam ddiwedd mis Mehefin 2026, gyda chroestoriad amrywiol o fynychwyr oedd yn cynnwys addysgwyr ysgol, darlithwyr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Academi Heddwch Cymru a'r Athro Cheng Chi-Bin a deithiodd o Taiwan.
Anerchiad o Groeso
Agorodd Jayne Rowe, Rheolwr Effaith Ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam, y gweithdy gyda geiriau o groeso a chyflwyniad i'r diwrnod. Cafodd cyd-destun eang y prosiect ymchwil ei gyflwyno ochr yn ochr â'r cysyniad bod cymunedau ar-lein, er eu bod yn gallu darparu rhwydweithiau cymorth gwerthfawr, hefyd yn gallu creu diwylliannau o elyniaeth sy'n tanseilio deialog adeiladol ac mae ymchwil Phoebe yn ceisio mynd i'r afael â hyn.
.jpg)
Adeiladu Cymunedau Heddychlon
Yna, drosodd i'r Athro Colin McInnes, Arweinydd Ymchwil Academi Heddwch Cymru a gwyddonydd cymdeithasol sy'n dod â phrofiad helaeth i'w rôl. Yn y gorffennol, mae Colin wedi gweithio mewn ystod o rolau cyrff elusennol a sector cyhoeddus, gan gynnwys y Cadeirydd UNESCO cyntaf yng Nghymru, a gweithiodd yn Sefydliad Iechyd y Byd i ddatblygu fframwaith i wella cysylltiadau sifil-filwrol mewn argyfyngau iechyd.
Rhannodd Colin ei fod, wrth baratoi ar gyfer y sesiwn, yn myfyrio ar yr hyn sydd wirioneddol yn creu cymuned heddychlon, gan feddwl tybed a yw 'oes cymuned' yn dal i fodoli, ynteu a yw wedi mynd heibio. Nid yw llywodraethau'n buddsoddi mewn mannau cymunedol ffisegol yn yr un ffordd ag yr arferent ei wneud, sy'n cyfyngu cyfleoedd i gymunedau ddod ynghyd wyneb yn wyneb. Er bod mannau ar-lein yn gallu cynnig opsiwn amgen, gallant, mewn rhai achosion, ddarparu man ar gyfer casineb a gwenwyndra ar-lein sy'n gallu cael effaith niweidiol ar unigolion. Wrth gymdeithasu yn y gymuned ffisegol, petai rhywun yn defnyddio iaith casineb neu'n rhannu safbwyntiau niweidiol, mae'n bosib iawn iddo gael 'ei alw allan', 'ei wynebu' neu 'ei herio' ar y safbwyntiau hyn drwy ffordd o'i ddwyn i gyfrif ac amddiffyn y gymdeithas unedig yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, gallai'r diffyg atebolrwydd wyneb yn wyneb rymuso rhai defnyddwyr ar-lein i ledaenu casineb a malais. Bu enghreifftiau'n ddiweddar sy'n seiliedig ar y gymuned yn y DU ac Iwerddon o'r ffordd y mae rhethreg ar-lein ar adegau yn gallu arwain at aflonyddwch sifil, ac ymddengys fod troad ar ysbryd yr oes i ffwrdd o gymuned a rheoliad llywodraeth a mwy tuag at 'rym dros gyfiawnder', sy'n golygu 'os wyt ti eisiau' yna 'ti'n gallu'.
-(1).jpg)
Yn y cyd-destun o greu cymunedau heddychlon, mae'n bwysig deall yr hyn a olygir gan heddwch:
· Heddwch negyddol yw absenoldeb rhyfel a gwrthdaro treisgar
· Mae heddwch cadarnhaol yn meithrin tegwch cymdeithasol ac economaidd sy'n cefnogi cymunedau heddychlon yn weithredol
Awgrymodd Colin bod yr hen ymdeimlad o gymuned yn 'marw' ac nad yw'r newydd 'eto wedi ei eni'. Rydym ar ganol newid, ac rydym yn ansicr sut fydd y byd yn edrych wrth symud ymlaen. Bu'r mynychwyr yn ystyried a yw globaleiddio yn gweithio ar lefel facro ond yn methu ar lefel ficro, gan greu ymdeimlad o fygythiad parhaus.
Cynigiwyd y cysyniad o gydlyniad cymdeithasol: derbyn gwahaniaethau, cyd-fyw'n dda, a deall y lles cyffredin, a chafodd y ffyrdd y gellid mesur hyn eu hystyried. Mae'r hyn sy'n ysgogi'r chwalfa bresennol mewn cydlyniad cymdeithasol yn eang a chymhleth, ac mae'r ffaith nad oes unrhyw fesur cytunedig o gydlyniad cymdeithasol yn ychwanegu ymhellach at y broblem. Wyddoch chi fod y DU wedi'i gosod yn y 39ain safle yn Adroddiad Mynegai Heddwch Byd-eang 2026?
Amlygodd Colin bod y DU, er i Lywodraeth Cymru gael sgyrsiau a chwmnïau Cyfryngau Cymdeithasol ynghylch rheoli algorithmau'n fwy effeithiol i leihau casineb ar-lein a chefnogi cymunedau heddychlon, mewn gwirionedd yn gyfrifol am ~ < 5% o draffig cyfryngau cymdeithasol byd-eang, ac mae canran Cymru'n llai fyth, sy'n effeithio ar y cylch dylanwad sydd gennym. Felly, sut allwn ni greu cymunedau heddychlon? Pwysleisiodd Colin bŵer addysg. Dyma un pwynt o ymyrraeth lle mae gennym gyfle i addysgu, ysbrydoli a dylanwadu, gan fod y mwyafrif o bobl ifanc yn ymwneud ag addysg brif ffrwd . Mae ffocws, buddsoddiad a chydweithrediad hirdymor yn bwysig, ochr yn ochr â chapasiti cynyddol ar gyfer cysylltiadau cymunedol ffisegol. Nid oes rhestr wirio ganolog sydd wedi'i diffinio'n glir y gallwn weithio tuag ati, ond bydd arwain gydag ymchwil wybodus, caredigrwydd, ac addysg yn sicr o'n rhoi ni ar y llwybr cywir.
Sut mae AI yn gallu adnabod Iaith Casineb
Yna, rhannodd yr Athro Cheng Chi-Bin fanylion ynghylch y dulliau y gellid eu defnyddio gan y tîm ymchwil i adnabod iaith casineb ar-lein. Mae Dr Teh a'r Athro Cheng wedi bod yn cydweithio am dros wyth mlynedd ac maent wedi cyd-ysgrifennu o leiaf pum cyhoeddiad mewn meysydd sy'n cynnwys adnabod iaith casineb, seiberfwlio, dadansoddi sentiment, a chyfrifiadura cymdeithasol. Mae nifer o'r astudiaethau, cronfeydd data, methodoleg, a'r astudiaethau achos a gyflwynir yn y gweithdy hwn yn deillio o'u hymchwil ar y cyd, gan roi cipolwg ar eu cydweithrediad ymchwil rhyngwladol hirsefydlog i'r cyfranogwyr.
-(1).jpg)
Dechreuodd yr Athro Cheng ei sesiwn gyda'r gwahaniaeth rhwng seiberfwlio ac iaith casineb:
· Mae seiberfwlio fel arfer yn targedu unigolyn neu unigolion penodol i achosi gofid personol
· Mae iaith casineb yn gyfathrebu (mewn amrywiol ffurfiau) sy'n dilorni, bychanu, neu'n annog casineb yn erbyn unigolyn neu grŵp
Cafodd y cyfyngiadau o ran cymedroli iaith casineb â llaw yn y cylchoedd cyfryngau cymdeithasol eu hamlygu:
· Mae dros 69 miliwn o negeseuon preifat a 360,000 o negeseuon cyhoeddus yn cael eu rhannu pob MUNUD ledled y byd!
· Mae'r data'n ddistrwythur, yn aml yn sgyrsiol a chyflym, a gall ddefnyddio termau 'slang'
Mae sawl dull sy'n seiliedig ar AI a all helpu i adnabod / cymedroli, gan gynnwys Dulliau Lecsicalaidd sy'n defnyddio rhestrau o eiriau sydd wedi'u rhag-ddiffinio i ddadansoddi a chategoreiddio testun. Er bod nifer o fanteision i hyn, mae yna gyfyngiadau hefyd gan gynnwys pobl yn addasu sillafiad geiriau i osgoi'r system:
Casineb = C@sineb / C*sineb / C.a.s.i.n.e.b
Rhoddodd yr Athro Cheng drosolwg o Fodelau Iaith Mawr (LLMau) a'r mathau gwahanol o ddysgu peirianyddol gan gynnwys dysgu peirianyddol dan oruchwyliaeth a heb oruchwyliaeth, dysgu wedi'i oruchwylio'n rhannol, a dysgu atgyfnerthol. Yna, cafodd y rhain eu hystyried yng nghyd-destun adnabod iaith casineb a sut mae natur ddilyniannol iaith yn chwarae rhan yn y modelau a ddefnyddir:
- Cof Tymor-Byr Hir (LSTM) - yn mynd i'r afael â'r broblem o 'amnesia AI' - lle gall dechrau brawddegau hir gael eu hanghofio gan y peiriant
- LSTM Deugyfeiriol (BLSTM) - yn darllen brawddeg o'r ddau gyfeiriad ar yr un pryd i ganfod ystyr yn gyflymach
- Cynrychioliadau Amgodiwr Deugyfeiriol o Drawsnewidyddion (BERT) - yn cael gwared ar ddilyniant ac yn edrych ar y frawddeg gyfan i gyd ar unwaith
Cafodd hyn wedyn ei ddatblygu ymhellach gyda chyflwyniad y fframwaith aml-asiant sy'n cynnwys dadansoddiad testun, golwg ac ymddygiadol sydd wedyn yn adolygu'r ddadl cyn ei gategoreiddio fel iaith casineb neu fel arall. Cipolwg gwirioneddol ryfeddol ar y dechnoleg gyflym a'r dulliau sydd ar gael i'r tîm ymchwil.
Gweithgareddau Sgwrsio a Chydweithredu
Yna arweiniodd Dr Phoebe Teh y sesiwn ar ôl cinio, ac roedd yn amser am weithgareddau rhyngweithiol a myfyrdod. Arweiniodd Phoebe gyda'r effaith y gall iaith ei chael ar bobl o ran ei heffaith ar ryngweithiadau, emosiynau, a chysylltiadau. Cafodd y gwahaniaethau rhwng iaith heddychlon a gwenwynig eu hystyried: mae iaith heddychlon yn hyrwyddo parch, llonyddwch, a diogelwch, tra bo iaith wenwynig yn hyrwyddo dwysâd, casineb, a gwylltineb. Bu mynychwyr yn gwylio dau wahanol ryngweithiad a gynhyrchwyd gan AI, gan drafod yr iaith a ddefnyddiwyd a'r effaith y gallai hyn ei chael ar unigolion.
.jpg)
Ar gyfer y gweithgaredd nesaf, roedd pawb ar eu traed yn cymryd rhan mewn helfa i ddod o hyd i eiriau a oedd wedi'u cuddio o amgylch yr ystafell. Roedd y geiriau hyn wedyn yn cael eu categoreiddio'n eiriau creulon, neu lesol a chafodd y rhesymau pam eu hystyried. A dweud y gwir, creodd y cyfranogwyr drydydd categori a roddodd bersbectif craff i Phoebe ei gymryd ymlaen yn yr ymchwil. Yna, gofynnwyd i fynychwyr ysgrifennu un ymadrodd y daethant ar ei draws oedd yn 'greulon' ac un oedd yn 'gefnogol/heddychlon'. Llwyddodd y gweithgaredd hwn i sbarduno ychydig o drafodaethau a chysylltiadau ystyrlon.
Rhoddwyd 10 datganiad i'r grwpiau ac roedd gofyn iddynt eu hail-fframio i fod yn heddychlon yn hytrach na'n wrthdrawiadol ac roedd y dulliau amrywiol a ddefnyddiwyd gan wahanol grwpiau yn hynod o ddiddorol. Yna, rhannodd Phoebe y llyfr gwaith Heddwch Drwy Iaith a grëwyd ganddi, ac yna aeth y mynychwyr ati i gyflawni'r gweithgaredd cerdyn addysg a oedd yn golygu ail-fframio geiriau pob dydd i fod yn garedig a chefnogol. Wedyn, rhannwyd yr Addewid Heddwch Digidol, a chafodd pobl eu hannog i gyflwyno eu haddewidion eu hunain tuag at wneud y mannau ar-lein yn heddychlon drwy'r iaith y maent yn ei defnyddio.
Yn sicr, llwyddodd y gweithdy hwn i feithrin cysylltiad, ysgogi trafodaeth, a chynhyrchu syniadau am sut y gall pobl gymryd rhan yn yr ymchwil wrth fwrw ymlaen. Diolch i Phoebe a'i chyd-ymchwilwyr fu'n cynnal y gweithdy, ac i'r rhai a gyfrannodd mewn ffordd mor ystyrlon ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn hyd yma!
Diolch o galon hefyd i'r cyllidwyr: Ariannwyd y gweithdy'n llawn gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru (mewn partneriaeth ag Academi Heddwch Cymru) a'i ariannu'n rhannol gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) a'r Academi Brydeinig/Leverhulme.