
Chwaraeon
Mae Prifysgol Wrecsam yn gartref i amrywiaeth eang o leoliadau chwaraeon o’r radd flaenaf, yn darparu cyfleusterau ardderchog i unrhyw un sy’n dymuno parhau gyda’u chwaraeon wrth astudio - neu o bosib, roi cynnig ar rywbeth am y tro cyntaf.
Mae ein cyfleusterau, gan gynnwys ein canolfan ffitrwydd, neuadd chwaraeon a’n meysydd chwarae sy’n defnyddio system astro turf sy’n defnyddio dŵr ar gael i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd. Am ragor o wybodaeth ynghylch llogi ein cyfleusterau, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda sports.bookings@wrexham.ac.uk neu ffoniwch 01978 293275.
Neuadd Chwaraeon
Mae’r Ganolfan Chwaraeon yn cynnwys neuadd 1000 metr sgwâr, gyda llawr meddal o stribedi masarnen.
Mae'r cyfleuster yn cydymffurfio â safonau cystadleuaeth ar gyfer badminton pêl-rwyd, pêl fasged, pêl foli a phêl-droed ‘futsal’.
Mae gennym hefyd ddarpariaeth ar gyfer tennis bwrdd, pêl-picl a matiau ar gyfer crefft ymladd.
Canolfan Ffitrwydd
Mae ein Canolfan Ffitrwydd ar agor i fyfyrwyr, staff a defnyddwyr o’r gymuned gyda staff wedi’u hyfforddi wrth law i gynnig cefnogaeth a chyngor pan fo angen.
Mae yma ystafell gardio gan gynnwys beiciau, melin droed, peiriant ‘cross trainer’ a rhwyfwyr ac ystafell codi pwysau gydag offer gwrthiant, gan gynnwys bar Olympaidd a detholiad o bwysau rhydd.
Cae chwarae Astro Turf sy’n defnyddio dŵr
Mae’r cyfleuster rhagorol hwn o dan lif oleuadau wedi cynnal sawl digwyddiad rhyngwladol gan gynnwys Tlws Cenedlaethol EuroHockey (dynion), gemau Prawf Rhyngwladol a Thwrnamaint y Cwpan Celtaidd Iau ac mae’n gartref i Glwb Hoci Wrecsam (Iau, Dynion a Merched).
Mae’r cyfleuster hefyd yn cael ei ddefnyddio gan nifer o dimau pêl-droed cymunedol lleol ar gyfer eu sesiynau hyfforddi o dan lif oleuadau.