.jpg)
Aelodaeth a phrisiau
Rhestr Brisiau’r Cyfleusterau Chwaraeon 2024/25
Cyfleusterau Chwaraeon |
Cymuned |
Myfyriwr |
---|---|---|
Cwrt Badminton | £9.90 | £8.00 |
Tenis Bwrdd | £9.90 | £8.00 |
Llogi Cwrt Sengl | £9.90 | £8.00 |
1 Llogi Cylchyn Cwrt | £9.90 | £8.00 |
2 Llogi Cylchyn Cwrt | £19.80 | £16.00 |
Hanner Neuadd | £31.50 | £24.00 |
Neuadd Gyfan | £59.40 | £48.00 |
Cwrt Gornestau | £39.60 | £32.00 |
WATP Cyfan | £68.60 | £54.60 |
Hanner WATP | £43.50 | £29.40 |
Mae’r holl brisiau’n seiliedig ar weithgaredd o 55 munud.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cysylltwch â’r Ganolfan Chwaraeon dros e-bost os gwelwch yn ddasports.bookings@wrexham.ac.uk neu ffoniwch 01978 293275.
Cwestiynau a ofynnir yn aml am Gyfleusterau
Content Accordions
- Oes angen i mi fod yn aelod er mwyn defnyddio’ch cyfleusterau?
Na, does dim angen i chi fod yn aelod er mwyn defnyddio ein cyfleusterau chwaraeon. Mae ein neuadd a chyfleusterau eraill ar gael i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd ac maent ar gael ar sail talu a chwarae. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
- Dydw i ddim yn fyfyriwr - ydi’r cyfleusterau ar agor i’r cyhoedd?
Ydynt, wrth gwrs, rydym hefyd yn ganolfan chwaraeon gymunedol ac mae croeso i unrhyw un ddefnyddio ein cyfleusterau yn ogystal â staff a myfyrwyr y brifysgol.
- Ydw i’n gallu llogi offer gan y ganolfan chwaraeon?
Mae gennym racedi, ‘shuttles’, batiau a pheli sydd ar gael i westeion sy’n llogi cyrtiau badminton neu dennis bwrdd. Ar gyfer yr holl weithgareddau eraill, oni bai eu bod yn cael eu trefnu gan y Brifysgol, rydym yn eich cynghori chi i ddod â’ch offer eich hun.
Rhestr Brisiau’r Ganolfan Ffitrwydd 2024/25
Y Ganolfan Ffitrwydd | Cymuned | Myfyriwr Wrecsam |
---|---|---|
Ffi Ymuno | £5.00 | £5.00 |
Yn fisol | £15.00 | £15.00 |
Talu wrth fynd | £4.00 | £3.00 |
Cynigion Arbennig
Aelodaeth 12 Mis - £160
Talu ymlaen llaw am aelodaeth 12 mis am £160 yn unig, heb unrhyw ffi ymuno - arbediad o £25 i aelodau newydd neu £20 i aelodau presennol.
Mae’r cynnig ar gael drwy’r flwyddyn gyfan.
Cwestiynau a ofynnir yn aml am y Ganolfan Ffitrwydd
Content Accordions
- Oes angen i mi fod yn aelod er mwyn defnyddio’ch cyfleusterau?
Na, does dim angen i chi fod yn aelod er mwyn defnyddio eich cyfleusterau chwaraeon, fodd bynnag mae cynlluniau aelodaeth ar gyfer ein canolfan ffitrwydd sy’n cynnig gwerth am arian da. Does gennym ni ddim contractau, felly does dim rhaid i chi ymrwymo.
- Oes angen i mi gael cwrs cynefino cyn defnyddio’r ganolfan ffitrwydd?
Dyw sesiwn gynefino ddim yn orfodol, fodd bynnag, byddem yn cynghori pob defnyddiwr newydd i gael sesiwn gynefino er mwyn dod yn gyfarwydd â’r offer. Mae ein hyfforddwyr ffitrwydd sydd wedi derbyn hyfforddiant llawn ar gael i ateb unrhyw gwestiynau neu os bydd angen unrhyw gymorth. Mae ein holl gynlluniau aelodaeth i’n canolfan ffitrwydd yn cynnwys sesiwn gynefino am ddim.
- Oes yna isafswm oedran ar gyfer defnyddio’r cyfleusterau? Ydw i’n gallu dod â fy mhlant efo fi?
Mae’n rhaid ichi fod dros 16 oed i ddefnyddio ein canolfan ffitrwydd.
Cwestiynau eraill a ofynnir yn aml
Content Accordions
- Oes gennych chi loceri? Os oes, beth yw’r gost i’w defnyddio?
Mae loceri i’w cael ar y safle mewn ardaloedd newid mewnol ac allanol. Er mwyn defnyddio’r loceri, bydd angen darn £1 neu docyn troli arnoch - i’w dychwelyd wedi i chi ddefnyddio’r loceri.
- Oes yna isafswm oedran ar gyfer defnyddio’r cyfleusterau? Ydw i’n gallu dod â phlant efo fi?
Mae’n rhaid ichi fod dros 16 oed i ddefnyddio ein canolfan ffitrwydd. Mae’r holl gyfleusterau eraill ar gael i’w defnyddio gan bob oedran - mae’n rhaid i blant o dan 16 oed fod o dan oruchwyliaeth oedolyn.
- Rwy'n ddefnyddiwr cadair olwyn – a yw eich cyfleusterau’n hygyrch?
Ydyn, mae gennym doiledau ac ystafelloedd newid sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn. Os ydych chi’n defnyddio’r ganolfan ffitrwydd, mae lifft ar gael i roi mynediad i chi.