Mae’r rhaglen Campws Actif yn fenter sy’n annog myfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Wrecsam i fod yn fwy actif ac i wneud dewisiadau mwy iach bob diwrnod.

Mae’r rhaglen rydym ni’n ei hyrwyddo o’r Ganolfan Chwaraeon yn annog pawb i gymryd rhan mewn rhyw fath o weithgaredd. Gallai fod yn rhywbeth mor syml â defnyddio’r grisiau yn lle’r lifft a dewis ffrwyth yn hytrach na phaced o greision fel byrbryd.

Gweithgareddau

Mae Tîm Chwaraeon Wrecsam yn trefnu nifer o weithgareddau sydd wedi’u hanelu’n arbennig ar gyfer staff a myfyrwyr er mwyn annog cymryd rhan mewn ymarfer corff i gyd-fynd â’u gwaith neu eu hastudiaethau.

Mae’r holl sesiynau’n ddibynnol ar argaeledd y cyfleuster, felly holwch wrth dderbynfa’r Ganolfan Chwaraeon.

Dydd Gweithgaredd Dosbarth

Dydd Llun

 Badminton 

13:00 – 14:00

Dydd Mawrth

 Criced dan do 

13:00 – 14:00

Dydd Mercher

 Tennis Bwrdd 

12:00 – 13:00

Dydd Iau

 Pêl-rwyd 

13:00 – 14:00

Dydd Gwener

 Pêl-picl 

13:00 - 14:00

 

Pêl-droed 

13:00 - 14:00

 

Futsal 

16:00 - 17:00

 

Croeso i Bawb - £2.00 y person (Staff a Myfyrwyr) / £2.50 y person (y Cyhoedd)

Mae pob sesiwn ar sail cyrraedd a chwarae