Dywedoch chi Gwnaethom ni
Drwy annog ein staff a myfyrwyr i'n cynorthwyo ni i fod yn fwy cynaliadwy a datblygu ein ffocws amgylcheddol.
Y Gweithgor Ymgynghorol ar Gynaliadwyedd yn cyfarfod bob chwarter i adolygu materion amgylcheddol a bwrw ymlaen a'n cynlluniau ar gyfer y maes hwn.
Rydym yn cynnwys staff a myfyrwyr ym mhob ardal o'r agenda gynaliadwyedd, ac yn fuan byddem yn lansio fforwm ar-lein âr gyfer staff a myfyrwyr i drafod a rhannu syniadau ac awgrymiadau.
Os ydych wedi sylwi ar rywbeth, dim ots pa mor fawr neu fach, a allai gynorthwyo i wneud y Brifysgol yn fwy cynaliadwy, cysylltwch os gwelwch yn dda.
Anfonwch e-bost at energy&sustainability@wrexham.ac.uk i gynorthwyo gyda llywio ein polisïau a'n gweithdrefnau.
"Adeiladau gwyrddach"
Dechreuon ni adeiladu’r Ganolfan Menter, Peirianneg ac Optegol (EEOC) newydd ym mis Chwefror 2024. Mae’r holl waith dur sy’n cael ei godi ar hyn o bryd wedi’i wneud o ddeunydd wedi’i ailgylchu.
"Rydyn ni eisiau mannau astudio y tu allan"
Mae'r codennau newydd, sydd wedi'u lleoli yn ardal y Cwad ar gampws Wrecsam, wedi'u prynu gyda chyllid gan brosiect 'Presgripsiynu Cymdeithasol yn Seiliedig ar Natur' y Brifysgol, sy'n ceisio cryfhau lles cyffredinol myfyrwyr a theimlo'n fwy cysylltiedig â'u hamgylchedd trwy natur.
https://glyndwr.cloud.panopto.eu/Panopto/Pages/Viewer.aspx?id=8d471922-db80-4979-a9d8-b11c00c2b877
"Plannu Mwy o Goed"
Bu staff a myfyrwyr yn helpu i blannu dros 100 o goed ar barc Lincoln Close eleni, fel rhan o’n Hwythnos Go Green. Os hoffech chi wneud ychydig o blannu, cysylltwch â ni @woodlandtrust @coedcadwcymru Woodland Trust Cymru
"Darparu dŵr yfed am ddim"
Rydym wedi bod yn darparu gorsafoedd dŵr yfed am ddim ers nifer o flynyddoedd ond mewn ymgais i hyrwyddo ein gorsafoedd ac annog pobl i'w defnyddio, rydym bellach yn rhan o'r ap Refill ac mae ein gorsafoedd ail-lenwi â dŵr am ddim ar draws ein campysau wedi'u cofnodi gyda nhw.
"Lleihau'r defnydd o blastigau un defnydd"
Rydym yn gweithio gyda Plastic Free Wrecsam i adeiladu cymuned heb blastig. Er mwyn dod yn rhydd o blastig mae angen i ni ddileu o leiaf dair eitem blastig un defnydd a gweithio tuag at ddileu mwy. Hyd yn hyn mae gennym ni;
- cyflwyno cwpanau a thariffau ail-lenwi ar nwyddau tafladwy,
- dileu cwpanau plastig o ffynhonnau dŵr,
- ymuno â'r cynllun ail-lenwi i leihau'r angen am boteli untro,
- newid i gynwysyddion tecawê vegware a chyllyll a ffyrc,
- rydym yn edrych i gyflwyno a chynllun cynhwysydd tecawê y gellir ei ailddefnyddio Eco-flwch.
"Gwneud cerbydau’r brifysgol yn rhai trydan"
Mae cerbydau trydan newydd wedi cael eu cyflwyno yn rhan o gyfres o brosiectau datgarboneiddio, economi gwyrdd a Seilwaith dysgu digidol yn y brifysgol. Mae’r fflyd trydan hwn yn cynnwys dau fws mini Vauxhall Vivaro e-life, dau gerbyd cynnal a chadw Nissan e-NV200, dau gar cronfa Nissan Leaf i staff a cherbyd cyfleustodau ar y safle. Mae mannau gwefru cerbydau trydanol ym maes parcio ymwelwyr Plas Coch, mannau gwefru ar gyfer bysus mini/cerbydau cynnal a chadw ger adeilad Undeb y Myfyrwyr, a man gwefru arall ar gampws Regent Street. Mae mannau gwefru cyflym hefyd wedi’u gosod yng nghampysau Llaneurgain a Llanelwy.
"Annog bywyd gwyllt ar y campws"
Mae PGW wedi cofrestru i ddod yn Gampws Cyfeillgar i Ddraenogod. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n myfyrwyr ac wedi sefydlu Grŵp Campws Cyfeillgar i Ddraenogod sy'n gweithio tuag at annog draenogod a bywyd gwyllt arall ar y safle. Roeddem yn falch i glywed, ym mis Chwefror, derbyniodd y Brifysgol statws Campws Cyfeillgar i Ddraenogod Efydd. Rydym wedi gosod offer arolygu draenogod yn yr Ardd Gwyddoniaeth - twnnel gydag ychydig o bapur carbon maent yn cerdded arno fel eich bod yn gweld argraff o'u pawennau. Pan gafodd yr ardd ei hadeiladu, roedd hefyd yn cynnwys "priffordd draenog" sef ychydig o dyllau yn y ffens gallent fynd trwy i ymuno'r llefydd gwyrdd i gyd.
Oes gennych chi ddiddordeb ymuno â'r Grŵp Campws Cyfeillgar i Ddraenogod? Gyrrwch e-bost i ni at sustainability@wrexham.ac.uk
"Ymrwymo i gyflogaeth foesegol"
Mae'r Brifysgol wedi gwneud ymrwymiad i fewnosod Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwynau Cyflenwi Llywodraeth Cymru sydd â'r nod i bob sefydliad sector cyhoeddus a phrifysgol yng Nghymru ymrwymo i ystod o arferion cyflogi moesegol, gan gynnwys ystyried rhoi'r Cyflog Byw y Living Wage Foundation fel isafswm i'r holl staff; ac annog eu cyflenwyr i wneud yr un fath.
Gwnaeth Prifysgol Wrecsam ymrwymiad i dalu Cyflog Byw y Living Wage Foundation fel isafswm i'w holl staff ym mlwyddyn academaidd 2018/2019. Yn ogystal, gwnaeth y Brifysgol sicrhau, fel rhan o unrhyw drefniadau gwasanaeth ar gontract, er enghraifft darparu gwasanaethau glanhau, arlwyo a diogelwch, wrth ail-dendro, bod contractwyr hefyd yn ymrwymo i dalu Cyflog Byw y Living Wage Foundation.
"Cynyddu'r nifer o ffynhonnau dŵr yfed"
Mae'r adran Ystadau wedi gosod ffynnon ddŵr newydd yn darparu dŵr tap ac mae wedi'i lleoli ar lawr cyntaf Bloc B ar Gampws Wrecsam.
Mae'r ffynnon yn cyflwyno sawl mantais:
- Lleihau gwastraff plastig o boteli un defnydd
- Mynediad haws at ddŵr yfed i Bloc B a defnyddwyr eraill y brifysgol
- Lleihau'r risg o wastraff yn cael ei ollwng ar y Campws
"Gwella'r mannau wedi'u plannu"
Mae prosiect dan law staff, Claire Doran, Fiona Begg a Kim Johnson i wella mannau wedi'u plannu o gwmpas campysau ac annog mwy o fywyd gwyllt wedi dechrau yn yr ardal decin yn y cwad ar gampws Wrecsam a'r tu allan i'r prif adeiladau ar Gampws Llaneurgain. Ariennir y prosiect yn rhannol gan Weithgor Gweithredu Cynaliadwyedd (SAWG) PGW a chafodd planhigion eraill eu rhoi gan staff, myfyrwyr a Dan Rose. Gwnaethant gais am y cyllid drwy SAWG a chawsant £200 a gafodd ei wario ar amrywiaeth o blanhigion, potiau a chompost. Cawsant gymorth gan Hyrwyddwyr Gwyrdd PGW am fore o blannu. Dywedodd Claire "Ein gobaith yw ysbrydoli aelodau eraill o staff i ddechrau prosiectau sy'n ymwneud â chynaliadwyedd y gall myfyrwyr a staff elwa ohonynt."
Os hoffech wneud cais am gyllid gan SAWG ar gyfer prosiect sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd, anfonwch e-bost at – energy&sustainability@glyndwr.ac.uk
"Gwella ailgylchu yn y brifysgol"
Ni wnaeth y cyfnod cloi atal ein gwaith i leihau ein heffaith amgylcheddol a dros yr Haf, roeddem yn llwyddiannus i ddiogelu cyllid gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru. Mae'r gronfa yn anelu i fwrw ymlaen gyda nodau Llywodraeth Cymru i ddod yn Economi Gylchol drwy weithio i waredu plastig defnydd sengl, blaenoriaethu prynu cynnwys deunydd cynaliadwy, wedi'i ailgynhyrchu neu ailgylchu, gwneud defnydd mwy effeithlon allan o'n bwyd ac i ddod yn arweinydd byd-eang mewn ailgylchu - mae ar hyn o bryd yn #3 ar draws y byd!
Defnyddir y cyllid grant i dargedu cynyddu cyfradd ailgylchu i o leiaf 50% drwy:
- Darparu biniau safonol ar wahân ar draws y campysau i gyd
- Defnyddio biniau bwyd i wahanu gwastraff bwyd o ffrydiau gwastraff eraill
- Datblygu rhaglen cyfathrebu i hysbysu am ailgylchu i bobl yn y Brifysgol a'r cyd-destun economi gylchol ehangach.
"Annog mwy o gyfraniad gan staff lefel uwch i hyrwyddo digwyddiadau ac ymgyrchoedd cynaliadwy"
Ar gyfer rhan o wythnos Go Green, arweiniodd yr Athro VC Maria Hinfelaar daith feicio o gwmpas y campws yn ystod amser cinio, ac fe adroddwyd ar hyn yn The Leader. Yn ogystal, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Lynda Powell, gymorth i hyrwyddo a mynychodd sesiwn Glanhau Lôn Crispin fis Mawrth.
“Creu mannau gwyrdd newydd a gwella'r rhai sydd eisoes yn bodoli. Eu gwneud yn fannau neu lefydd dysgu cymdeithasol yn yr awyr agored lle gall myfyrwyr a staff ymlacio yn ystod amser cinio etc."
Llwyddodd Techniquest Glyndŵr i gael oddeutu £34K o gyllid i drawsnewid ardal adfeiliedig a gwag o dir yng nghefn yr adeilad LEIS a ddefnyddir gan y Ganolfan Wyddoniaeth boblogaidd ar Gampws Plas Coch y Brifysgol. Mae'r Ardd Wyddoniaeth yn cynnig cyfuniad o fannau wedi'u plannu a nodweddion megis arwynebau sy'n addas i gadeiriau olwyn, gwelyau uchel a llyn, ardal gompostio a nifer o gyfarpar sy'n gweithio sy'n dangos y prif themâu gwyddonol ynghlwm â Bioamrywiaeth, Ynni Adnewyddadwy ac Ailgylchu.
"Mewnosod cynaliadwyedd yn rhan o bob gweithgarwch cwricwlwm"
Mae'n ofynnol i'n myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen, ym mhob pwnc ar draws y Brifysgol bellach, gwblhau modiwl ar sail Materion Cyfoes lle cânt gyfle i astudio a thrafod pynciau megis newid hinsawdd ac addasu genetig.
"Hoffem ardal i dyfu ein ffrwythau a'n llysiau ein hunain"
Rydym wedi datblygu gwaith ar y cyd â Flintshare, y grŵp tyfu dan arweiniad cymuned a chymdeithasau PW, y Gymdeithas Amgylcheddol (BotSoc gynt) a ZooSoc Campws Llaneurgain. Gall staff a myfyrwyr gymryd rhan a dysgu am blannu gwahanol hadau, chwynnu, trawsblannu a rheoli plâu. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o dechnegau garddwriaeth drwy ddeall sut i wneud compost, palu gwelyâu, yn ogystal ag ennill gwybodaeth ynghylch gwahanol blanhigion, pryfed a'r ecosystem.
"Lleihau parcio ceir ac annog/ysgogi a chefnogi'n weithredol y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus leol a chynlluniau beicio/cerdded i'r gwaith."
Mae Prifysgol Wrecsam yn cynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo ffordd o fyw actif, gan gynnwys Mis Cerdded Cenedlaethol ym mis Mai ac wythnos Feicio ym mis Mehefin.
Mae gwybodaeth ynglŷn â sut i gyrraedd y campws gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar ein tudalen Teithio Cynaliadwy. Mae PW yn cynnig trafnidiaeth i'w defnyddio gan fyfyrwyr a staff i deithio rhwng campysau yn ystod y tymor, a gallwch archebu lle drwy northophelpline@wrexham.ac.uk
Rydym hefyd yn darparu beiciau i fyfyrwyr a staff eu llogi i fynd o gwmpas bob campws. Ar hyn o bryd mae 18 beic ar gael i'w llogi a gellir eu llogi am hyd at 7 diwrnod ar y tro.