.jpg)
Polisiau, stratagaethau a chynlluniau cynaliadwyedd
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi ymrwymo i ddeall a rheoli ei effaith ar yr amgylchedd. Ein cenhadaeth yw gweithio mewn partneriaeth leol a byd-eang i ysbrydoli ac addysgu ein myfyrwyr a helpu i yrru llwyddiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn ein rhanbarth a thu hwnt. Fel sefydliad angor, byddwn yn cymryd rôl arweiniol wrth hyrwyddo cynaliadwyedd ein rhanbarth. Ceir ein hymrwymiad i amgylchedd cynaliadwy ei amlygu yn ein hymdrechion academaidd, ein dull o reoli a datblygu ein campws, ystadau, cyfleusterau, trafnidiaeth, a gweithgareddau, yn ogystal â'n eiriolaeth gyhoeddus.
Strategaeth Cynaliadwyedd yr Amgylchedd
Bydd ein strategaeth yn siapio’r sefydliad i er mwyn iddo dderbyn cydnabyddiaeth o arddangos arfer gorau mewn rhagoriaeth amgylcheddol a chynaliadwy.
Datganiad Polisi Rheolaeth Ynni a Chynaliadwyedd
Fel Prifysgol sy’n anelu i ysbrydoli, addysgu a galluogi llwyddiant, ein nod yw cynnal ein gweithredoedd i adlewyrchu’r arferion amgylcheddol gorau. Bydd ein Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn darparu fframwaith strategol i ddylanwadu ar a siapio’r sefydliad i ddatblygu a gweithredu’r arferion gorau mewn perfformiad amgylcheddol a chynaliadwyedd.
Rheoli Carbon
Rhwydwaith o wirfoddolwyr yw Hyrwyddwyr Gwyrdd sy'n cynnwys staff a myfyrwyr. Maent yn gweithio gyda'i gilydd i wneud PGW yn lle mwy cynaliadwy a gwyrdd i weithio ac astudio. Maent yn adrodd i'r Gweithgor Cynaliadwyedd, yr Amgylchedd a'r Fforwm Gweithredu ar Gynaliadwyedd Heddiw mae'n bwysicach nag erioed i ddod yn brifysgol fwy gwyrdd ac effeithlon. Mae PGW yn darparu sesiwn hyfforddi awyr agored flynyddol ar gyfer ei holl hyrwyddwyr gwyrdd.
- Llwybr at fod yn garbon niwtral erbyn 2030
- Cyflenwi Trawsnewid Carbon Isel
- Polisi Ynni
- Datganiad Di-ffosil
- Gweithdrefyn Gwefru Cerbydau trydan
- Polisi teithio cynaliadwy Polisi teithio cynaliadwy Polisi teithio cynaliadwy Polisi teithio cynaliadwy Polisi teithio cynaliadwy Polisi teithio cynaliadwy Polisi teithio cynaliadwy Polisi teithio cynaliadwy Polisi teithio cynaliadwy
Rheolaeth Trysorfa
Wedi'i ddatblygu i gefnogi nodau PGW i fuddsoddi ei gronfeydd gan roi ystyriaeth ddyledus ar faterion moesegol, amgylcheddol, corfforaethol a chymdeithasol. Mae'r polisi'n berthnasol i'r holl staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill y Grŵp a'i nod yw rhoi llais i randdeiliaid mewn materion moesegol, amgylcheddol a chynaliadwyedd. Nid ydym yn dal unrhyw fuddsoddiadau ar hyn o bryd ond bydd manylion unrhyw fuddsoddiadau yn y dyfodol yn cael eu rhestru yn yr Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol perthnasol.
Bwyd Iach, Cynaliadwy
Yn unol ag ymrwymiad Polisi Amgylcheddol a Chynaliadwyedd PGW i gaffael mewn modd cynaliadwy, i ystyried ffactorau moesegol, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae ganddo gyfrifoldeb i ddarparu bwyd maethlon a ffynonellau cynaliadwy i'w gwsmeriaid.
Bioamrywiaeth
- Cynllun Gwella Bioamrywiaeth Rhan 1 - 2022
- Cynllun Gwella Bioamrywiaeth Rhan 2 - 2022
-
Adroddiad Gwella Bioamrywiaeth
Cyflogadwyedd Moesegol yn y gadwyn cyflenwad
Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gaffael Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Bwriad y Cod hwn yw sicrhau bod modd cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf ledled Cymru, a hynny gan weithlu a gaiff ei drin yn gyfreithlon, yn deg ac yn ddiogel, ac a gaiff gyflog da. Mae’r Cod hwn yn cynnwys ymrwymiad i ystyried hyrwyddo’r Cyflog Byw mewn contractau perthnasol.
Ewch i'n tudalen cyfrifoldebau i ddarganfod mwy am sut rydym ni fel cyflogwr wedi ymrwymo i greu diwylliant cynaliadwy a theg.
Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd
- Polisi Iechyd a Diogelwch
- Polisi Rheoli Gwastraff
- Cyfieithiad Estates 2022
- Ystadau Adroddiad Blynyddol 2023/2024
- Polisi Rheoli Gwastraff