Mae ein digwyddiadau a phrosiectau wedi’u dylunio i wneud i bawb feddwl am egni, cynaliadwyedd a lleihau carbon. Rydym hefyd yn dathlu Pythefnos Masnach Deg ac yn cytuno gyda'r neges Masnach Deg, dewisiadau siopa syml i sicrhau bargen well i ffermwyr, yn eu caniatáu i wneud dewisiadau eu hunain a rheoli dyfodol eu hunain, yn arwain bywyd urddasol.

Gallwch wel ein rhestr o brosiectau rydym yn gweithio ar, gan gynnwys y rheini rydym wedi cwblhau ac yn barod yn gwneud gwahaniaeth, isod.

Content Accordions

  • Prosiect Dinesydd Ecolegol

    Mae Dinesydd(wyr) Ecolegol yn brosiect 4 blynedd, wedi’i leoli yn y Coleg Celf Brenhinol mewn cydweithrediad â Sefydliad Amgylchedd Stockholm Prifysgol Efrog a Phrifysgol Wrecsam. Ein cenhadaeth yw meithrin ac annog yn rhagweithiol (trwy ymyriadau technolegol briodol) Dinasyddiaeth Ecolegol ar gyfer gweithredu cadarnhaol ar yr hinsawdd.

    Wedi'i ariannu gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol UKRI (EPSRC), nod y prosiect yw sefydlu Rhwydwaith Dinasyddion Ecolegol+. Fel rhwydwaith ymchwil, bydd Dinasyddion Ecolegol yn cynnull grwpiau amrywiol o bobl i wneud newid sy'n cael effaith trwy dechnoleg hygyrch a dulliau sy'n canolbwyntio ar y gymuned - gan gynnwys gwyddoniaeth dinasyddion, gweithredu, dysgu ar y cyd, eiriolaeth, strategaethau dylunio, gweithgynhyrchu, gwyddor yr amgylchedd ac arferion peirianneg. Mae ein hagenda yn ceisio dod ag asiantaeth i bobl sydd am gymryd rhan drwy roi llais iddynt. Rydym yn awyddus i leihau rhwystrau mynediad (i’r cyhoedd) fel y gall pawb fod yn Ddinasyddion Ecolegol, drwy gymdeithas gynaliadwy ddigidol.

    https://ecologicalcitizens.co.uk/

  • Diffodd y Nadolig

    Roedd yr ymgyrch llwyddiannus "Trowch o i Ffwrdd" y Nadolig diwethaf wedi creu canlyniadau dros yr adeg Rhagfyr/Ionawr gyda lleihad ynni mawr iawn o 25,805kWh, a chyfrifwyd at ychydig dros 14 tunnell o Allyriad CO²

    Anogwyd staff eto i ddiffodd goleuadau a datgysylltu offer drwy gydol rhan helaeth o'r toriad Nadolig diwethaf.

    Fe wnaeth mis Rhagfyr ei hun ddangos lleihad ynni gyfan gwbl o 27,945kWh, sy'n cyfrif fel arbediad o 15 tunnell a chwarter o Allyriad CO². Mae hyn yn lleihad ar fis Rhagfyr eleni o 0.4% ac arbediad ychwanegol o dros dunnell o Allyriad CO².

  • Lleihad Carbon

    Mae Prifysgol Wrecsam yn gweithio'n barhaus i wella effeithlonrwydd carbon ein hadeiladau a'n systemau. Er mwyn darparu fframwaith ar gyfer hyn rydym wedi datblygu ein Pathway to Carbon Neutral by 2030 sy'n gosod y strategaeth a'r Low Carbon Transition and Delivery Plan sy'n gosod amcanion allweddol ar y ffordd i sero net.

    Mae prosiectau diweddar yr ydym wedi ymgymryd â hwy yn cynnwys:

    Uwchraddio wal y Panel Solar ar ein campws yn Llanelwy. Rhagwelir y byddant yn cynhyrchu 78,000 kwh o drydan gan arbed tua 21,000kg o CO2 y flwyddyn. Fe wnaethom hefyd ychwanegu paneli solar at The Alive Hub yn 2021, sef gofod gweithio cyfunol ein staff.

    Prynu 7 cerbyd trydan newydd yn 2021, gan gynnwys 2 fws mini i gludo myfyrwyr i’n campysau eraill, 2 gar cronfa ar gyfer teithiau busnes a 3 cherbyd cynnal a chadw. Mae pwyntiau gwefru trydan ar gael ar bob campws i unrhyw un eu defnyddio.

    Mae gennym raglen barhaus i osod goleuadau LED yn lle'r goleuadau ac amcangyfrifwyd y byddai ailosod goleuadau mewn neuadd chwaraeon, coridorau, mannau addysgu, mannau gweithio ystwyth a mesureg yn gwneud gostyngiad o 49,000kg mewn CO2 y flwyddyn yn 2022. Rydym wedi parhau â’r rhaglen adnewyddu LED ac yn 2023 a 2024 rydym wedi adnewyddu’r goleuadau mewn ardaloedd eraill gan gynnwys swyddfeydd Canolfan Edward Llwyd, coridorau, canolfan chwaraeon, Adeilad Bevan.

    Uwchraddiwyd gwresogi ein campws yn Stryt y Rhaglaw yn Wrecsam yn 2021 i foeler mwy newydd a mwy effeithlon. Yn yr un modd mae boeleri cyfnewid yn ein llety myfyrwyr ym Mhentref Wrecsam yn darparu datrysiad gwresogi mwy effeithiol.

    Yn 2022/3 derbyniodd Prifysgol Wrecsam grant o £85,000 gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ymchwilio i’r ateb gorau posibl ar gyfer gwresogi ar gampws Plas Coch. Mae'r technolegau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn cynnwys pympiau gwres o'r ddaear a phympiau gwres ffynhonnell aer.

  • Adnewyddu Golau

    Mae goleuadau newydd wedi'u gosod yn ardal yr Undeb Myfyrwyr, y prif lwybr rhwng yr adeiladau Peirianneg a Block 'D' ac ardaloedd y Cwad/Cegin Unedig. Mae ardaloedd eraill yn cynnwys y Ganolfan Iechyd ac adeilad Block 'A', yn wynebu'r stadiwm. Erbyn hyn, mae ychydig dan 60 o ffitiadau golau, cymysgedd o SOX a SON, goleuadau gollyngdiad sodiwm gwasgedd uchel ac isel, wedi'u hailosod gyda goleuadau LED sy'n fwy egni-effeithiol.

    Mae gan y ffitiadau golau LED newydd sbectrwm golau sy'n welliant mawr o gymharu i'r goleuadau gollyngdiad defnyddiwyd gynt. Mae hefyd ganddyn nhw hyd oes o tua 50,000 o oriau, gyda dadfeiliad araf iawn.

    Mae’r cyllid hefyd yn cynnwys goleuadau LED ar gyfer y neuadd chwaraeon, y gweithdy peirianneg, y labordy mhetroleg ac ein prif lyfrgell, gan greu manteision amgylcheddol ac arbedion ariannol. Ceir y goleuadau’n yn y llyfrgell eu defnyddio am lawer o oriau drwy gydol y flwyddyn, ac felly roedd o ddiddordeb penodol ystyried y llyfrgell am raglen foderneiddio.

    Bydd yr arbedion arfaethedig a gyflawnir yn lleihau costau ynni goleuadau ein llyfrgell o 40-60%. Yn ogystal, bydd y prosiect ôl-ffitio goleuadau yn arbed costau cynnal a chadw, gan ddefnyddir y goleuadau newydd, ac mae gan eu helfennau hyd oes llawer hirach na'r hen rai. Bydd arbedion ychwanegol yn dod o synwyryddion golau’r dydd, fel bod modd i’r goleuadau ddiffodd eu hunain yn awtomatig pan fydd golau’r dydd yn ddigon llachar mewn ardaloedd penodol.

     

  • Cerbydau Trydan

    Mae Prifysgol Wrecsam yn parhau i fwrw ymlaen gyda datrysiadau ecogyfeillgar ar ôl sicrhau hwb cyllid cyfalaf mawr werth £1.6m.

    Cyflwynwyd cerbydau trydan newydd fel rhan o gyfres o brosiectau datgarboneiddio, economi gwyrdd a Seilwaith dysgu digidol yn y brifysgol.

    Dywedodd y Rheolwr Cyfleusterau, Dennis Powell: “Mae’r cyllid hwn yn gam ymlaen enfawr i’n hagenda gwyrdd, ac mae wedi’n galluogi ni i ddisodli ein fflyd i gyd gyda cherbydau sy’n fwy cynaliadwy.

    “Mae’r cerbydau a’r prosiectau eraill yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i leihau ein hôl-troed carbon a chreu amgylchedd mwy cynaliadwy ar draws pob campws.”

    Mae’r fflyd trydan yn cynnwys dau fws mini Vauxhall Vivaro e-life, dau gerbyd cynnal a chadw Nissan e-NV200, dau gar cronfa Nissan Leaf i staff, a cherbyd cyfleustodau ar y safle.

    Mae'r Undeb Myfyrwyr wedi chwarae rhan sylweddol yng Ngweithgor Gweithredu Cynaliadwyedd PGW sy’n trafod materion gwyrdd, ac roedd Swyddog Cynaliadwyedd yr Undeb Myfyrwyr PGW, Daniel Holmes, yn croesawu cyflwyniad y cerbydau trydan.

    Mae cyllid Llywodraeth Cymru hefyd wedi’n galluogi i osod mannau gwefru cerbydau trydan ym maes parcio ymwelwyr Plas Coch, mannau gwefru ar gyfer bysiau mini/cerbydau cynnal a chadw ger adeilad yr Undeb Myfyrwyr, a man gwefru arall ar gampws Stryd y Rhaglaw. Mae mannau gwefru cyflym hefyd ar gael yng nghampysau Llaneurgain a Llanelwy.

     

  • Ailgylchu

    Mae prosiect uchelgeisiol i roi hwb i ailgylchu ym Mhrifysgol Wrecsam wedi'i gyflwyno - gyda’r cyntaf o gyfres o safleoedd ailgylchu newydd ledled y campws wedi cyrraedd.

    Mae'r safleoedd - sydd eu hunain wedi'u gwneud allan o ddeunyddiau sydd wedi'u hailgylchu - yn rhan o brosiect ehangach a ariennir gan gronfa Economi Cylchol Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod i gynyddu lefel ailgylchu Glyndŵr i 50 y cant.

    Mae PW wedi lleihau nifer y biniau gwastraff cyffredinol drwy waredu’r biniau desgiau unigol, ac roedd y staff yn croesawu hyn. Mae pob gorsaf ailgylchu yn cymryd deunydd ailgylchu sych a gwastraff cyffredinol o leiaf, ac anogir staff a myfyrwyr i wahanu eu gwastraff a chwarae eu rhan.

    Dywedodd yr Uwch Swyddog Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, Jenny Thomas: “Pan rydym wedi siarad gyda’n staff a myfyrwyr yn flaenorol am ein gwaith i roi hwb i gynaliadwyedd, un o’r pethau allweddol a ddywedon nhw wrthym ni yw eu bod nhw eisiau rhagor o leoedd ble gallent ailgylchu.

    “Dyma le bydd y gorsafoedd hyn yn chwarae rhan - maent yn rhan o fenter ledled y campws sy’n helpu pobl i wneud y peth iawn, a fyddwn yn eu defnyddio i gynyddu ein cyfraddau ailgylchu dros y flwyddyn nesaf.

    Yn rhan o’r Wythnos Troi’n Wyrdd, cynhaliodd yr Undeb Myfyrwyr sesiwn holi ac ateb gydag Annie Doherty o Veolia a Jenny Thomas, Swyddog SHE y Brifysgol i ateb cwestiynau ac ymholiadau am wastraff. Cafodd y sesiwn ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Sesiwn holi ac ateb ailgylchu gyda Veolia a PGW

    Ceir yr holl wastraff cyffredinol a gynhyrchir ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ei hanfon i'w losgi, gyda'r broses yn cynhyrchu trydan. Mae hyn hefyd yn golygu nad yw PGW wedi anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi ers mis Tachwedd 2019.

    Hyd yma, rydym wedi cynyddu'r canran o wastraff a ailgylchiwyd ar y safle drwy gyflwyno mannau casglu newydd ar gyfer pren a metel - cysylltwch ag Ystadau os oes gennych rai o’r deunyddiau hyn sydd angen eu gwaredu. Caiff yr holl eitemau trydanol, gan gynnwys batris, eu casglu gan y Gwasanaethau Gwybodaeth i'w hailgylchu.

    Mae casgliad gwastraff bwyd newydd wedi dechrau ailgylchu’r gwastraff bwyd a’r coffi a gynhyrchir gan y cyfleusterau arlwyo ar y safle. Bydd cynnydd pellach o gasgliadau gwastraff bwyd ar wahân wrth i fwy o bobl ddod yn ôl i’r campws.

     

  • Tai Draenogod a Gwestai Pryfaid

    Gan wnaeth ein biniau ailgylchu newydd gyrraedd ar baletau, mae PGW am fod yn greadigol ac am eu gwneud i mewn i dai i ddraenogod i gefnogi ein campws cyfeillgar i ddraenogod, a gwestai pryfaid i ddenu mwy o fywyd gwyllt ar y campws.

  • Rhodd tywarchen blodau gwyllt

    Mae tîm o hyrwyddwyr gwyrdd staff a myfyrwyr Prifysgol Wrecsam wedi ychwanegu blagur gwyrdd ffres i’w hamgylchedd lleol - gyda chymorth Cadw Cymru’n Daclus ac Incredible Edible Wrecsam.

    Fel rhan o brosiect Llefydd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, rhoddwyd tywarchen blodau gwyllt 30 metr sgwâr i’r brifysgol gan Cadw Cymru’n Daclus.

     

  • Keep Cups

    Ynghyd ag Aramark Ltd, mae Prifysgol Wrecsam wedi cyflwyno pris ychwanegol o 20p ar bob diod boeth a gweiniwyd mewn cwpanau tafladwy ar bob campws - ond ni fydd angen ei dalu os ydych yn dod â chwpan eich hun. Y syniad tu ôl i’r pris ychwanegol o 20p ar gyfer cwpanau tafladwy yw annog staff, myfyrwyr ac ymwelwyr i fabwysiadu dull mwy cynaliadwy o ran rheoli gwastraff, lleihau cyfanswm y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a lleihau’r swm y mae’n rhaid i’r Brifysgol ei wario ar reoli gwastraff fel bod modd buddsoddi’r cyllid i adnoddau eraill. Dywedodd Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Prifysgol Wrecsam: “Rydym yn annog pob cwsmer sy’n prynu diod boeth i’n helpu ni i leihau, ac yn y pen draw, atal cyfanswm y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi drwy ddod â chwpanau eu hunain. Mae cwpanau amldro ar gael i’w prynu am £1 ym mhob caffi PW."

     

Content Accordions

  • Garddwriaeth Cymru

    Mae Garddwriaeth Cymru yn brosiect sy’n cael ei reoli a’i gyflwyno gan Brifysgol Wrecsam

    https://horticulturewales.co.uk/

     https://www.facebook.com/hortwales

  • Prosiect Rhagnodi Cymdeithasol Seiliedig ar Natur

    Treuliodd staff Prifysgol Wrecsam ac Undeb y Myfyrwyr ddiwrnod yn adnewyddu mannau gwyrdd y Brifysgol fel rhan o brosiect presgripsiynu cymdeithasol seiliedig ar natur. Treuliasant amser yn potio planhigion, yn tacluso, yn peintio bocs ceffyl a fydd yn cael ei ddefnyddio cyn bo hir ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol a gwneud ein campws yn lle braf i dreulio amser.

    Mae tystiolaeth yn awgrymu bod byd natur yn arf pwerus y gall rhagnodwyr cymdeithasol ei ddefnyddio i wella iechyd a lles.

    Mae podiau awyr agored newydd i alluogi myfyrwyr a staff i gyfarfod, cydweithio ac astudio'n agosach at natur wedi cael eu datgelu ym Mhrifysgol Wrecsam/Prifysgol Wrecsam.

    Mae'r codennau newydd, sydd wedi'u lleoli yn ardal y Cwad ar gampws Wrecsam, wedi'u prynu gyda chyllid gan brosiect 'Presgripsiynu Cymdeithasol yn Seiliedig ar Natur' y Brifysgol, sy'n ceisio cryfhau lles cyffredinol myfyrwyr a theimlo'n fwy cysylltiedig â'u hamgylchedd trwy natur.

    Fel rhan o’r prosiect, a sicrhaodd dros £400,000 o gyllid y llynedd, gwahoddwyd myfyrwyr a staff i gymryd rhan yn yr elfen ymchwil. Roedd hyn er mwyn helpu’r tîm Ymchwil i gael cipolwg ar ‘beth sy’n bwysig’ i fyfyrwyr a staff a sut y gellid gwella’r mannau gwyrdd ar y campws fel y gallent gynyddu eu hamser y tu allan ym myd natur gyda’r nod o wella eu hiechyd meddwl a’u lles.

    Gwrandawodd tîm yr astudiaeth a chymerodd ganfyddiadau'r ymchwil i ariannu'r codennau - man cyfarfod awyr agored amgen i bawb ei fwynhau.

    Iechyd meddwl

    Mae astudiaethau wedi dangos bod dod i gysylltiad â natur yn cynyddu llesiant gan gynnwys hapusrwydd, gwytnwch, ac yn lleihau arwahanrwydd cymdeithasol.

    Iechyd Corfforol

    Gall byw neu weithio'n agos at natur fod â llawer o fanteision megis lefelau is o broblemau'r galon ac anadlol, pwysedd gwaed is, lefelau is o straen a symptomau corfforol straen a risg is o ddiabetes a gordewdra.

    Gyda'r holl fanteision hyn dylai'r mannau wedi'u hadnewyddu ganiatáu i staff a myfyrwyr dreulio mwy o amser yn gofalu amdanynt eu hunain ym myd natur.

Content Accordions

  • Iechyd Meddwl

    Yn ôl astudiaethau, mae cael profiad o natur yn rhoi hwb i’ch llesiant, gan gynnwys hapusrwydd a gwytnwch, ac mae’n lleihau unigedd cymdeithasol.

  • Iechyd Corfforol

    Gall byw neu weithio’n agosach at natur gynnig sawl budd, fel lefelau is o broblemau calon neu anadlu, pwysedd gwaed is, lefelau is o straen a symptomau corfforol straen, a llai o risg o ddiabetes a gordewdra.

    Gyda’r holl fuddion hyn, mae’r mannau sydd wedi’u hadnewyddu’n cynnig lle i staff a myfyrwyr dreulio mwy o amser yn gofalu am eu hunain ym myd natur.