(Cwrs Byr) Busnes a Rheoli Digwyddiadau mewn Tenis

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
8 mis
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol, Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn hyfforddi chwaraeon yn elwa'n fawr o gwrs byr mewn Rheoli Digwyddiadau a Busnes mewn Tenis, sy'n cynnwys Gwobr Athrawon Tenis.
Wedi'i addysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, mae'r cwrs hwn yn cyfuno cyfarwyddyd a arweinir gan arbenigwyr â dysgu ymarferol cymhwysol, gan ddarparu profiad byd go iawn mewn rheoli digwyddiadau chwaraeon tenis-benodol ac ehangach.
Mae'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am adeiladu sylfaen gref mewn busnes chwaraeon, ennill cymhwyster hyfforddi cydnabyddedig, a gwella eu cyfleoedd gyrfa ar draws y diwydiant chwaraeon a hyfforddi.

Prif nodweddion y cwrs
- Cymwysterau galwedigaethol hyfforddi chwaraeon am ddim
- Mewn partneriaeth â'r Cymdeithas Hyfforddwyr Rhyngwladol
- Dysgir gan weithwyr proffesiynol y diwydiant
- Oriau lleoli wedi'u cynnwys
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cefndir rheoli busnes
- Cynllunio a chyflwyno digwyddiadau
- Cyflwyniad i fusnes mewn Tenis
- Gwobr athrawon tennis
- Datblygu cynllun busnes
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Addysgu ac Asesu
Addysgu: Darlithoedd, gweithdai, sesiynau ymarferol ac e-ddysgu ar-lein
Asesiadau: Arsylwadau hyfforddi ymarferol a phortffolios
Ffioedd a chyllid
£500
Ar gyfer myfyrwyr presennol, cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol.
Dyddiadau y cwrs
Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025 - Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2026
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno fel dysgu cymysg, gyda rhai sesiynau wyneb yn wyneb ar Gampws Wrecsam, a rhai sesiynau ar-lein.
Am ymholiadau pellach am yr amserlen lawn, cysylltwch â shortcourses@wrecsam.ac.uk