(Cwrs Byr) Pencampwyr Cwympiadau: Atal Cwympiadau
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
3 mis
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Nod y modiwl yw addysgu eiriolwyr atal cwympiadau i ddefnyddio offer a phrosesau i atal cwympiadau rhag digwydd a’u rheoli o dderbyniad hyd at adael. Bydd y cwrs yn cyflwyno gwybodaeth allweddol a fydd yn helpu myfyrwyr i ddeall a lleihau’r risgiau o bobl yn cwympo yn yr ysbyty a gartref.
Bydd y cwrs hwn yn:
- Cefnogi myfyrwyr yn eu darpariaeth o ofal, asesiad risg ac yn allweddol bwysig, lleihau risgiau cwympiadau
- Cefnogi dysg myfyrwyr drwy gydol yr amser a’u hannog i gymhwyso eu dysg yn ymarferol
- Galluogi myfyrwyr i ddod yn eiriolwyr atal cwympiadau yn eu hamgylchedd clinigol
Prif nodweddion y cwrs
- Astudio yn rhad ac am ddim
- Darperir mewn partneriaeth â’r Athro Anil Mane o’r BCUHB (Ymgynghorydd Gofal Henoed) a ddyluniodd y rhaglen hon
- Bydd arbenigwyr yn y maes yn cyflwyno darlithoedd allweddol a rhoddir sylw arbennig i’r dull amlddisgyblaethol o atal cwympiadau.
Beth fyddwch chin ei astudio
• Maint cwympiadau a goblygiadau hynny
• Egwyddorion asesu a rheoli cleifion
• Achosion ffisegol a fferyllol cwympiadau
• Mecanweithiau cwympiadau
• Peryglon cartref, ac egwyddorion addasu
• Rôl y tîm cwympiadau
• Offer i gefnogi atal cwympiadau
• Arfer gorau a Chanllawiau
Bydd y myfyrwyr yn derbyn ystod o dasgau gwaith cartref drwy gydol yr wythnosau dysgu a byddant yn cyfrannu i fforymau ar-lein lle bydd disgwyl iddynt drafod cynnydd ac arferion arloesol yn eu maes. Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref am nifer o oriau bob wythnos rhwng eu dyddiau astudio er mwyn ategu at eu dysgu. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gynnal dadansoddiad cwympiadau dros amser yn eu gweithle.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Yr unig ofyniad mynediad yw eich bod yn teimlo'n gryf ynghylch lleihau'r risg o glaf yn cwympo yn eich amgylcheddau gwaith clinigol.
Addysgu ac Asesu
Bydd yr addysgu yn digwydd wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda darlithoedd arweiniol yn cael eu darparu gan arbenigwyr yn y maes.
Byddwch yn derbyn cymorth gan arweinydd y modiwl a rhwydweithiau cymorth ehangach y brifysgol gan gynnwys gwasanaethau llyfrgell a staff sgiliau astudio drwy gydol y cwrs. Byddwch yn cymhwyso'ch gwybodaeth yn ymarferol gan wneud asesiad ymarferol o'ch amgylchedd clinigol, gan asesu'r risg o gwympiadau cleifion.
Bydd yr arholiad aml ddewis ar-lein yn asesu eich dysgu.
Ffioedd a chyllid
Am ddim
Dyddiadau’r Cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.