(Cwrs Byr) Rheoli Diabetes

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2026
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Nod y modiwl hwn yw datblygu gallu a dulliau beirniadol o roi strategaethau ar waith sy’n mynd i’r afael â chymhlethdod gofalu am unigolyn sydd â diabetes drwy ddefnyddio theorïau cyfredol, ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a datblygiadau technolegol. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i uwchsgilio nyrsys i reoli diabetes.
Prif nodweddion y cwrs
- Yn ymarferol a rhyngweithiol.
- Gwella’ch gwybodaeth am reoli diabetes mewn amrywiaeth o rolau nyrsio cofrestredig.
- 20 credyd ar lefel 6/7 ar ôl ei gwblhau.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae’r modiwl hwn yn ymarferol ac yn rhyngweithiol, yn mynd i’r afael ag agweddau gwahanol ar reoli diabetes fel meddyginiaeth, inswlin, dulliau dietegol, gofal traed, retinopathi a monitro glwcos gwaed. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw nyrsys ôl-gofrestru sy'n gofalu am gleifion â diabetes gan gynnwys nyrsys practis, nyrsys ysbyty cymunedol, nyrsys ardal a nyrsys ward.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw nyrsys ôl-gofrestru neu weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n gofalu am gleifion â diabetes.
Cysylltwch â postregadmissions@wrexham.ac.uk i ofyn am ffurflen gais
Addysgu ac Asesu
Traethawd
Ffioedd a chyllid
- £800 ar Lefel 6 (am bob 10 credyd)
- £500 ar Lefel 7(am bob 10 credyd)
Modiwl 20 credyd yw Rheoli Diabetes
Gellir dod o hyd i gyllid ar gyfer y modiwl hwn ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn lleoliad cymunedol o fewn BCUHB a Powys LHB.
Dyddiadau'r Cwrs
Dyddiad Cychwyn: Mehefin 15fed - 19eg 2026
Cyflwynir y modiwl tros 5 diwrnod olynol (1 wythnos), wyneb yn wyneb ar y campws.
Cysylltwch â postregadmissions@wrexham.ac.uk i ofyn am ffurflen gais