BA (Anrh) Celfyddyd Gymhwysol (gyda blwyddyn sylfaen)
Manylion cwrs
Côd UCAS
W202
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
4 BL (llawn-amser)
Tariff UCAS
48-72
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Cysylltiadau cryf
ag orielau a sefydliadau masnachol
Cydradd 2il
yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu*
Arddangoswch eich gwaith
mewn sioe radd diwedd blwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
Rhyddhewch eich creadigrwydd gyda'n gradd Celf Gymhwysol lle byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau crefft o ansawdd uchel sydd eu hangen i lansio eich gyrfa artistig broffesiynol. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich arbenigedd a'ch hyblygrwydd ym maes deunyddiau a dylunio trwy serameg, metel, gemwaith a chyfryngau cymysg.
Bydd myfyrwyr yn:
- Dysgu'r grefft o wneud o ansawdd uchel, gwreiddioldeb a sut i greu ymatebion personol i ddeunyddiau a phrosesau.
- Nid yn unig mynd â'ch creadigrwydd a'ch arloesedd i'r lefel nesaf, ond hefyd datblygu sgiliau entrepreneuraidd i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer diwydiant.
- Gallu cyfuno eich sgiliau cysyniadol a thechnegol yn y celfyddydau cymhwysol â'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i fod yn wneuthurwr llwyddiannus.
- Datblygu sgiliau rhyngbersonol trwy brosiectau cydweithredol a gwaith tîm, gan eich paratoi ymhellach ar gyfer eich gyrfa ar ôl eich gradd.
*Mae’r maes pwnc hwn yn cael ei raddio’n gydradd 2il yn y DU am fod yn fodlon ag Addysgu yn nhabl cynghrair maes pwnc Celfyddyd Gain yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian, 2025.
Gallwch chi hefyd ddewis astudio'r cwrs hwn fel rhaglen dros dair blynedd heb y flwyddyn sylfaen BA (Anrh) Celfyddydau Cymhwysol Cod UCAS: W202
Celf a Dylunioym Mhrifysgol Wrecsam
Prif nodweddion y cwrs
- Cysylltiadau oriel a masnachol ardderchog, gyda'r ffocws ar sgiliau crefft i'ch galluogi i ddod yn wneuthurwyr eithriadol.
- Yn ogystal â datblygu eich sgiliau creadigol, byddwch yn dysgu sgiliau busnes mewn meysydd fel prisio, cyhoeddusrwydd a marchnata; cawn ein canmol yn gyson gan arholwyr allanol am ba mor barod yw ein myfyrwyr ar gyfer bywyd proffesiynol.
- Gweithio ar brosiectau byw, arddangosfeydd, cystadlaethau a chomisiynau ar gyfer cleientiaid cyhoeddus a phreifat, gan roi hyder i chi ddatblygu eich portffolio a'ch gyrfa yn y dyfodol.
- Arddangos eich gwaith mewn arddangosfa sioe radd diwedd blwyddyn - Cymerwch olwg ar Sioe Gradd Quintessee 2024
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)
Bydd y flwyddyn sylfaen yn eich cyflwyno i brif elfennau celf a dylunio, gan gynnwys ymarfer dylunio, celf gymhwysol a chelf gain. Byddwch yn archwilio'r broses meddwl yn greadigol sy'n ymwneud ag amrywiaeth o ddisgyblaethau celf a dylunio, gan ddatblygu'ch gallu i drosglwyddo'ch syniadau ar bapur yn gyflym. Bydd ystod o aseiniadau ymarferol a fydd yn cynyddu'ch adnabyddiaeth o syniadau cadarn a chysyniadau gwreiddol.
MODIWLAU
- Cyflwyniad i Gelf a Dylunio
- Cyflwyniad i Gelf Gymhwysol
- Cyflwyniad i Gelf Gain
- Meddwl yn Greadigol
- Y Sgiliau Syss Arnoch eu Hangen
BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)
Yn eich cyflwyno i ehangder y deunyddiau a'r technegau yn y Celfyddydau Cymhwysol, lle cewch gyfle i weithio ar draws yr holl feysydd materol, arbrofi gyda serameg, metel a chyfryngau cymysg.
MODIWLAU
- Cyfathrebu Gweledol
- Cyd-destun I
- Cyflwyniad Deunydd
- Arbrofi Deunydd
- Cyflwyniad i Arddangos
- Techneg Deunydd
BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)
Estyn eich sgiliau creu yn eich prif ddewis deunyddiau, gan ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn am ddeunyddiau sgiliau crefft sy'n eich galluogi i ddatblygu eich arddull creadigol eich hunan. Datblygir y prif sgiliau proffesiynol sef deall marchnadoedd, cyhoeddusrwydd a phrisio trwy brosiectau ymarferol.
MODIWLAU
- Meddwl yn Feirniadol
- Dyfodol Creadigol: Ennill Bywoliaeth
- Ymarfer Estynedig (Celfyddydau Cymhwysol)
- Ymarfer Celf
- Ymarfer mewn Cyd-destun
- Astudiaeth Arbenigol (Celfyddydau Cymhwysol)
BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)
Yn eich galluogi i wireddu'ch syniadau yn y cyfeiriad o'ch dewis, gyda myfyrwyr yn datblygu eu themâu unigol eu hunain i gynhyrchu casgliadau, gan ddangos sgiliau gwneud a datrysiadau dylunio arloesol o ansawdd uchel.
MODIWLAU
- Traethawd Hir
- Dyfodol Creadigol: Ymarfer Proffesiynol
- Ymarfer Wedi'i Drafod
- Prosiect Gradd Celf Gymhwysol
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Côd UCAS: W202
Y gofynion academaidd ar gyfer BA (Anrh) Celfyddydau Cymhwysol (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen yw 48-72 pwynt tariff UCAS. Rydym hefyd yn ystyried unrhyw brofiad gwaith sydd gennych a allai fod yn berthnasol i gwrs penodol.
Mae tîm y rhaglen Celfyddydau Cymhwysol yn croesawu ceisiadau gan unrhywun a all ddangos ymroddiad i'r pwnc a'r potensial i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Gall hyn gael ei gadarnhau drwy ddangos cyflawniadau academaidd priodol neu drwy ddangos bod yr unigolyn yn meddu ar yr wybodaeth a'r gallu sy'n gyfateb i'r cymwysterau academaidd.
Caiff pob ymgeisydd naill ai ei gyfweld yn unigol neu ei wahodd i ddiwrnod ymgeiswyr lle cânt y cyfle i ddangos portffolio o'u gwaith, Mae'n bosibl y caiff profiad ei ystyried hefyd, yn enwedig yn achos yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth pwnc.
Os byddwch chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.
Addysgu ac Asesu
Asesir yn bennaf trwy waith ymarferol a gwaith dylunio megis maquettes, llyfrau braslunio, samplau, a gwrthrychau gorffenedig. Cyflwynir y gwaith i diwtoriaid, a rhoddir adborth llafar ar unwaith, wedi’i ddilyn gan atborth ysgrifenedig mwy eang.
Fe’ch asesir ar gyfer pob modiwl. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i fonitro cynnydd a gellir eu cynnal unrhyw adeg. Mae’r rhain yn cynnwys graddoli band, ynghyd â sylwadau arfarnol a thiwtorial adborth os yn briodol. Ni chwblheir y graddoli tan ddiwedd y flwyddyn, pan fydd gwaith yn cael ei adolygu a’i safoni gan arholwr allanol.
Yr oriau cyswllt yw 16 awr yr wythnos yn Lefel 4, 14 awr yr wythnos yn Lefel 5, a 12 awr yr wythnos yn Lefel 6. Mae cyfleusterau'r gweithdai ar agor ac wedi eu staffio 5 niwrnod yr wythnos ac mae gan fyfyrwyr fynediad parhaus.
DYSGU AG ADDYSGU
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae galw mawr o hyd am ddylunwyr a all ymateb yn greadigol i broblemau celf a dylunio cymhwysol.
Mae gan ein graddedigion yrfaoedd mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys addysg, gwaith adfer, amgueddfeydd a manwerthu. Mae cyfran uchel yn mynd mlaen i weithio mewn neu sefydlu eu horielau eu hunain.
Mae'r radd hon yn eich dysgu i fod yn wneuthurwr dylunwyr medrus iawn, gan ddefnyddio sgiliau crefft traddodiadol i greu gwrthrychau i'w harddangos a'u gwerthu. Ochr yn ochr â'r sgiliau ymarferol y byddwch yn eu dysgu, bydd y cwrs yn datblygu eich dealltwriaeth o'r sgiliau busnes craidd sydd eu hangen fel gwneuthurwr proffesiynol, gyda chyfleoedd i ddangos eich gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau a gwerthu i'r cyhoedd.
Mae gradd mewn Celf Gymhwysol yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion yn y dyfodol. Mae swyddi'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Gwneuthurwr Annibynnol
- Perchennog Busnes Creadigol
- Gof Arian
- Gemydd
- Ceramegydd
- Gof
- Curadur Oriel
- Athro
Mae yna hefyd opsiynau ar gyfer astudio pellach gan gynnwys ein MA Ymarferydd Celf Broffesiynol, MA Ymarfer Celf Rhyngddisgyblaethol a chyrsiau TAR.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.
Yn amodol ar ail-ddilysu
Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.
Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.