BA (Anrh) Darlunio

Manylion cwrs
Côd UCAS
IL19
Blwyddyn mynediad
2026
Hyd y cwrs
3 BL (Llawn-Amser)
Tariff UCAS
96-112
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Diwylliant stiwdio cefnogol
lle mae beirniadaeth ac adborth yn gwella'ch datblygiad
Sgiliau diwydiant proffesiynol
wedi'u hymgorffori trwy gydol y cwrs
Dull darlunio nodedig
a arweinir gan gysyniadau
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y radd Darlunio yn eich helpu i ddatblygu eich arddull ddarluniadol a'ch dawn ar gyfer creu delweddau creadigol. Mae'r cwrs yn ymdrin ag ochrau ymarferol, proffesiynol, ac artistig gweithio fel darlunydd gyda llais artistig unigol, gan eich arfogi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau creadigol.
Byddwch yn:
- Dysgu sut i greu delweddau trawiadol, gweithio i safonau proffesiynol a deall sut mae eich gwaith yn ffitio i’r diwydiant.
- Cael eich cyflwyno i ystod eang o sgiliau creadigol, o gynhyrchu syniadau, i’w cynhyrchu’n dechnegol drwy wneud printiau, rhwymo llyfrau, deunyddiau 3D, bywluniadu, cyfryngau traddodiadol a digidol, gyda phwyslais ar ddarlunio a datblygu arddull bersonol unigryw.
- Cael eich cyflwyno i brosesau creadigol proffesiynol a’ch annog i ehangu eich galluoedd drwy weithdai a phrosiectau ymarferol.
- Dysgu sut i ddadansoddi briff, adnabod a datrys problemau, datblygu eich natur greadigol unigryw eich hun a chynhyrchu portffolio proffesiynol.
- Ennill sgiliau personol, proffesiynol ac entrepreneuraidd gan gynnwys gweithio fel arlunydd llawrydd: o farchnata i hunan-hyrwyddo i gytundebau, anfonebau a gweithio gyda chleientiaid.
- Cael eich annog i weithio ar friffiau a chystadlaethau byw.
Mae’r cwrs yma hefyd ar gael i’w astudio gyda blwyddyn sylfaen Darlunio (gyda blwyddyn sylfaen). Cod UCAS: ILFY.

Celf a Dylunioym Mhrifysgol Wrecsam
Prif nodweddion y cwrs
- Cymuned ddarlunio gydweithredol o fewn cyd-destun dylunio ehangach - Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â darlunwyr, animeiddwyr a dylunwyr graffeg, gan annog meddwl rhyngddisgyblaethol a dealltwriaeth o sut mae darlunio yn gweithredu ar draws diwydiannau creadigol.
- Addysgu wedi'i lywio gan ymarfer proffesiynol ac ymchwil - Byddwch yn cael eich addysgu gan staff sydd â phrofiad ar draws darlunio a meysydd creadigol cysylltiedig, gan ddod â gwybodaeth gyfredol am y diwydiant, dulliau beirniadol ac ymarfer myfyriol i'r stiwdio.
- Cyfleusterau argraffu a phrototeipio helaeth sy'n cefnogi ymarfer darlunio - Bydd gennych fynediad i ystod eang o gyfleusterau arbenigol gan gynnwys argraffu Risograff, argraffu sgrin, rhwymo llyfrau, argraffu sychdarthiad, argraffu baneri, gwneud printiau traddodiadol a thorri finyl, gan alluogi cynhyrchu prototeipiau, cyhoeddiadau a chanlyniadau gorffenedig o ansawdd uchel.
- Cydnabyddiaeth trwy gystadlaethau a gwobrau allanol - Mae gwaith myfyrwyr wedi’i gydnabod trwy gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu rhedeg gan Wasg Prifysgol Rhydychen, Macmillan a D&AD, gydag enwebiadau ar gyfer gwobrau fel Gwobrau Eisner a Gwobrau Arian Reuben.
- Arddangosfa gyhoeddus a chyflwyniad proffesiynol - Byddwch yn cymryd rhan mewn sioe radd diwedd blwyddyn, yn cyflwyno’ch gwaith i gynulleidfaoedd cyhoeddus a phroffesiynol ac yn ennill profiad o gynllunio arddangosfeydd, curadu a chyflwyno.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4) - Sgiliau Craidd
Mae Lefel 4 yn eich cyflwyno i egwyddorion sylfaenol darlunio, meddwl dylunio a chyfathrebu gweledol. Byddwch yn datblygu sgiliau darlunio craidd ochr yn ochr â dealltwriaeth o brosesau meddwl dylunio sylfaenol, cyfathrebu graffig, ac animeiddio rhagarweiniol, gan gefnogi sylfaen greadigol eang a hyblyg. Mae addysgu yn canolbwyntio ar offer, deunyddiau, a thechnegau creadigol, yn ogystal â chyd-destunau hanesyddol a chyfoes o ddarlunio, argraffu a chynhyrchu. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i'r diwydiant darlunio, gan eich helpu i ddeall sut mae ymarfer darluniadol yn gweithredu ar draws gwahanol leoliadau proffesiynol.
MODIWLAU
Semester 1
- Hanes a Chyd-destun
- Cyfathrebu Gweledol
- Dylunio rhyngweithiol
Semester 2
- Dylunio Cymdeithasol
- Adrodd Stori: Theori ac Ymarfer
- Cyfathrebu Digidol
BLYWDDYN 2 (LEFEL 5)
Mae Lefel 5 yn canolbwyntio ar ymestyn sgiliau, syniadau ac ymwybyddiaeth broffesiynol. Mae addysgu wedi'i strwythuro i herio confensiynau a gwthio ffiniau ymarfer darlunio, gan eich annog i ddod yn ddylunwyr mwy amlbwrpas ac addasadwy. Trwy enghreifftiau byd go iawn, cyd-destunau byw ac ystod o dechnegau meddwl dylunio a chynhyrchu, byddwch yn datblygu ymagwedd unigol fwy hyderus at rôl darlunio mewn cymdeithas.
MODIWLAU
Semester 1
- Dylunio Symudiad
- Argraffu a Chynhyrchu
- Meddwl yn feirniadol
Semester 2
- Dyfodol Creadigol: Gwneud bywoliaeth
- Prosiect Dylunio: Darlunio
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
Mae Lefel 6 yn canolbwyntio ar arbenigedd, ymchwil a dilyniant. Byddwch yn cymhwyso’r wybodaeth, y sgiliau a’r dulliau a ddatblygwyd ar draws blynyddoedd cynharach i faes darlunio sy’n adlewyrchu eich diddordebau a’ch uchelgeisiau. Gan weithio'n agos gyda staff, byddwch yn cynnig ac yn cyflwyno prosiectau hunan-gyfeiriedig sy'n dangos eich ymarfer darluniadol, eich gallu technegol a'ch dealltwriaeth o gyd-destunau proffesiynol. Mae Lefel 6 yn rhoi pwyslais cryf ar gyflogadwyedd a dilyniant, gan gefnogi llwybrau i gyflogaeth, ymarfer llawrydd ac astudiaeth ôl-raddedig, tra’n cyflwyno ymchwil fel elfen ganolog o ymarfer darlunio uwch.
MODIWLAU
Semester 1
- Prosiect Arbenigol: Darlunio
Semester 2
- Dyfodol Creadigol: Ymarfer Proffesiynol
- Briff Byw
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs hwn yw 96-112 pwynt tariff UCAS yn TAG lefel A neu gyfwerth. Caiff cymwysterau lefel UG a Sgiliau Allweddol Lefel 3 priodol eu hystyried hefyd.
Mae tîm y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan unrhywun a all ddangos ymroddiad i'r pwnc a'r potensial i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Gall hyn gael ei gadarnhau drwy ddangos cyflawniadau academaidd priodol neu drwy ddangos bod yr unigolyn yn meddu ar yr wybodaeth a'r gallu sy'n gyfateb i'r cymwysterau academaidd.
Caiff pob ymgeisydd naill ai ei gyfweld yn unigol neu ei wahodd i ddiwrnod ymgeiswyr lle cânt y cyfle i ddangos portffolio o'u gwaith. Mae'n bosibl y caiff profiad ei ystyried hefyd, yn enwedig yn achos yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth pwnc. Gofynnir i fyfyrwyr dramor, nad ydynt yn medru mynychu cyfweliad, anfon eu portffoio o waith yn ddigidol er mwyn iddo gael ei ystyried.
Mae tiwtor derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Caiff gwahanol gymwysterau eu hystyried, gan gynnwys Cymwysterau Uwch yr Alban, Tystysgrif Ymadael Iwerddon, Bagloriaeth Cymru, y Fagloriaeth Ryngwladol, cyrsiau Mynediad, BTEC, VCE, GNVQ, lefelau A ac AS yn ogystal â chymwysterau tramor eraill.
Addysgu ac Asesu
Nid oes arholiadau gosodedig. Mae asesu yn barhaus ac yn ymwneud â phob agwedd ar y rhaglen, gan roi pwyslais a ddiffinnir yn fwy gofalus ar asesu ffurfiannol ac adborth ar eich gwaith cwrs trwy gydol y flwyddyn academaidd. Byddwn yn eich cynghori ar lefel eich cyrhaeddiad ac yn eich cyfeirio tuag at strategaeth ar gyfer dilyniant pellach wrth i aseiniadau a modiwlau gael eu cwblhau.
Mae fformatau amrywiol o asesu i annog eich dysgu trwy seminarau grŵp, ymdriniaethau a thiwtorialau. Gall hyn fod trwy ryngweithio grŵp gyda dadansoddiad beirniadol lle byddwch yn cyflwyno ystod o waith gan gynnwys llyfrau braslunio, taflenni dylunio, gwaith celf gorffenedig, gwaith ar sail sgrin, ffeiliau technegol / cynhyrchu, cyfnodolion, traethodau, a chyflwyniadau clyweledol. Mae adolygiadau o waith ar adegau allweddol cyn y Nadolig a chyn y Pasg ac mae hyn yn rhoi amser i chi fyfyrio ar eich cynnydd cyn asesiad diwedd blwyddyn terfynol neu grynodol.
DYSGU AC ADDYSGU
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Rhoddir pwyslais ar ddatblygiad personol a phroffesiynol, cyfathrebu a sgiliau entrepreneuraidd, gan arfogi graddedigion i weithio o fewn sector creadigol amrywiol ac esblygol. Mae graddedigion darlunio yn datblygu sgiliau addasadwy sy'n cefnogi ystod eang o lwybrau gyrfa ar draws diwydiannau creadigol a meysydd cysylltiedig.
Mae graddedigion wedi symud ymlaen i rolau gan gynnwys:
- Darlunydd llawrydd
- Dylunydd llyfrau a chynorthwyydd cyhoeddi
- Artist naratif comig a graffig
- Artist bwrdd stori ar gyfer ffilm, teledu ac animeiddio
- Dylunydd cymeriad
- Dylunydd gweledol o fewn stiwdios animeiddio a gemau
- Dylunydd graffeg a chyfathrebwr gweledol
- Creawdwr cynnwys a storïwr gweledol
- Ymarferydd creadigol o fewn addysg a lleoliadau cymunedol
- Cynorthwyydd stiwdio neu iau creadigol o fewn asiantaethau dylunio
- Rolau sy'n cefnogi timau marchnata, brandio a chyfryngau digidol
Mae'r radd hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis ymchwil, cyfathrebu gweledol, rheoli prosiectau a meddwl yn feirniadol, sy'n cefnogi cyflogaeth y tu hwnt i rolau darlunio traddodiadol. Gall graddedigion hefyd symud ymlaen i astudio ymhellach, gan gynnwys rhaglenni MA, llwybrau hyfforddi athrawon fel y TAR, neu lwybrau creadigol ôl-raddedig eraill.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Llety
Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn cynnig ystafelloedd en-suite ar y campws yn ein Pentref Myfyrwyr Wrecsam. Mae'r mannau preifat, wedi'u dodrefnu'n llawn hyn mewn lleoliad cyfleus, gan ddarparu mynediad hawdd i gyfleusterau campws, ardaloedd astudio, a mannau cymdeithasol. Hefyd, dim ond 10 munud ar droed ydych chi o ganol y ddinas!
Gyda'r holl filiau wedi'u cynnwys, Wi-Fi am ddim, diogelwch 24/7, a meysydd cymdeithasol mawr, fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer profiad myfyriwr gwych.
Archwiliwch ein hopsiynau llety i ddod o hyd i'ch cartref perffaith oddi cartref.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.
Diwrnodau Agored sydd ar ddod.
Ymunwch â ni ar ddiwrnod agored sydd i ddod i gwrdd â'ch darlithwyr, darganfyddwch fwy am ein cyrsiau, darganfyddwch ein cyfleusterau a chael blas ar fywyd myfyriwr.
Porwch ein holl ddiwrnodau agored a digwyddiadau.