custom square

Manylion cwrs

Côd UCAS

FDVN

Blwyddyn mynediad

2025, 2026

Hyd y cwrs

3 BL (Llawn-Amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Northop

Course Highlights

Achredwyd

gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS)

Mynediad

i'n Hystafell Glinigol Nyrsio Milfeddygol, sydd llawn offer 

Lleoliadau

mewn practis milfeddygol a gymeradwyir gan RCVS bob blwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae gan Nyrsys Milfeddygol rôl allweddol yn y tîm milfeddygol amlddisgyblaethol wrth roi gofal nyrsio’n seiliedig ar dystiolaeth i’w cleifion. Os ydych yn feddwl y buasech yn mwynhau gweithio gydag anifeiliaid anwes a’u perchnogion i wella eu hiechyd, ac y buasech yn llwyddo mewn awyrgylch heriol, dyma’r cwrs i chi.

 

Byddwch yn:

  • Cymhwyso theori i ymarfer yn ein cyfres glinigol o'r radd flaenaf, gydag amrywiaeth o offer milfeddygol a manicinau hyfforddi 
  • Datblygu eich sgiliau clinigol mewn practis hyfforddi milfeddygol
  • Cael eich mentora yn ymarferol gan Hyfforddwr Clinigol yn ystod eich 16 wythnos o profiad gwaith a chael eich cefnogi gan Diwtor Cymorth Lleoli Clinigol o Dîm Nyrsio Milfeddygol y Brifysgol
  • Dod yn Nyrs Filfeddygol Gofrestredig yn unol â'r RCVS, proffesiwn cydnabyddedig ac uchel ei barch
  • Ennill gwybodaeth a sgiliau i ddilyn ardystiadau ac arbenigeddau uwch yn y maes
  • Dysgu gan nyrsys milfeddygol profiadol sydd â chysylltiadau diwydiant, a fydd yn eich arwain gyda'ch astudiaethau i sicrhau eich bod yn cyflawni'ch nodau proffesiynol a phersonol 

*Mae'r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd wedi'i restru: 

  • Y 10 uchaf yn y DU am Gymorth academaidd, Llais myfyrwyr ac Ymwybyddiaeth o Gymorth lles meddwl.   
  • 1af yn y DU am Asesiad ac Adborth  
  • 2il yn y DU am Drefniadaeth a Rheolaeth.
  • Y 3 uchaf allan o Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon am Foddhad Cyffredinol.  

 Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 

RCVS accreditation logo

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae'r cwrs hwn yn mabwysiadu arddulliau addysgu modern, rhyngweithiol, gan gynnwys gweithdai, dysgu ar sail achosion, ac adnoddau amlgyfrwng i sicrhau bod darlithoedd yn ddeniadol ac yn ymarferol
  • Mae’r cwrs hwn yn cynnig darlithwyr gwadd rheolaidd o’r tu mewn i’r proffesiwn, ochr yn ochr â chydweithrediadau rhyngddisgyblaethol â gweithwyr gofal iechyd dynol proffesiynol eraill
  • Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda Choleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS), cofrestru ar y gofrestr nyrsys milfeddygol a defnyddio'r RVN ôl-enwebu
  • Cymuned ddysgu gydweithredol fach gyda staff a myfyrwyr
  • Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu  gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod o sgiliau a’r ddealltwriaeth greiddiol sydd yn hanfodol i weithio yn y diwydiant milfeddygol. Byddwch yn astudio pedwar modiwl ym mlwyddyn gyntaf eich rhaglen. Mae pob un ohonynt yn fodylau craidd.  

MODIWLAU

  • Anatomeg a Ffisioleg mewn Iechyd ac Afiechyd: Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth am anatomeg a ffisioleg anifeiliaid ar lefel systemau a chellol. Bydd modiwl yn integreiddio ffisioleg a pathoffisioleg i ddatblygu eich dealltwriaeth o gyflyrau clefydau.
  • Sylfaeni Ofal Cleifion: Modiwl amrywiol sy'n eich cyflwyno i ofal cleifion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a bydd yn trafod ystod eang o bynciau a sgiliau, sydd yn hanfodol i ymarfer fel nyrs milfeddygol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth a sgiliau i drafod a ffrwyno anifeiliaid yn ddiogel ar gyfer amrywiaeth o weithdrefnau sydd yn hanfodol i ymarfer. Archwilir addasiadau gall nyrsys milfeddygol eu cyflwyno i sicrhau fod claf mor gyfforddus ag sy’n bosib yn yr awyrgylch milfeddygol, gyda theori ac ymarfer cynlluniau gofal nyrsio yn ganolog i ganlyniadau positif i gleifion.
  • Sylfaeni Ymarfer Nyrsio: Nod y modiwl yw rhoi dealltwriaeth i chi o reoli clwyf, technegau rhwymo gweithdrefnau cymorth cyntaf. Bydd pwysigrwydd therapi hylif i driniaeth ac adferiad claf hefyd yn cael ei thrafod.Mae’r modiwl hefyd yn cynnwys effaith therapy corfforol ar ganlyniadau i gleifion. Mae’n bwysig hefyd bod nyrsys milfeddygol yn wybodus a hyderus o ran ffiseg filfeddygol yn ogystal â deddfwriaeth ac anghenion sydd yn berthnasol i’r testun.Maes arall sydd y bwysig i nyrsys milfeddygol fod yn wybodus a hyderus yw ffiseg filfeddygol a’r ddeddfwriaeth ac anghenion perthnasol. Bydd cyflwyniad i ffarmacoleg a ffarmacodynameg yn y modiwl hwn.
  • Datblygiad Proffesiynol ac Academaidd 1: Yn y modiwl hwn, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r Log Cynnydd Nyrsio RCVS (NPL), cymwyseddau diwrnod un yr RCVS (DOC). Mae'r modiwl hwn yn eich paratoi ar gyfer eich lleoliad cyntaf mewn practis milfeddygol yn ogystal â datblygu'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich astudiaethau academaidd, a ddefnyddir a’i hehangir yn ystod y rhaglen.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4/5)

Mae’r cwrs yn cynnwys pedwar modiwl craidd eleni, dau ar lefel 4 a dau ar lefel 5. Bydd cyrsiau eleni’n dechrau canolbwyntio ar sgiliau penodol ac arbenigol y bydd rhaid i nyrs meddygol yn dod yn hyderus ynddynt wrth weithio.

MODIWLAU

  • Gweithdrefnau Diagnostig a Pharasitoleg: Mae gweithdrefnau diagnostig yn hanfodol ar gyfer diagnosis cywir. Mae nyrsys milfeddygol yn cynorthwyo’n rheolaidd o dan arweiniad y llawfeddyg milfeddygol mewn amrywiaeth o weithdrefnau diagnostig. Byddwch yn cael dealltwriaeth o'r egwyddorion a fydd yn eich galluogi i ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau delweddu a phrofion labordy yn ddiogel.
  • Nyrsio’r Claf Meddygol a Heintus: BByddwch yn datblygu gwybodaeth o afiechydon a chyflyrau sydd yn berthnasol i ymarfer milfeddygol. Er mwyn i strategaethau nyrsio’n seiliedig ar dystiolaeth fod yn llwyddiannus, mae’n bwysig i nyrsys deall y pathogenau gwahanol, a sut maen nhw’n ymddangos mewn cyflyrau afiechyd. Bydd strategaethau gofal nyrsio sydd yn defnyddio therapïau arloesol yn goleuo’r gofal a darparir i gleifion er mwyn cael gwell canlyniadau.
  • Datblygiad Proffesiynol ac Academaidd 2: Mae’r modiwl hon yn manylu’n bellach ar y modiwl Datblygiad Proffesiynol ac Academaidd ym mlwyddyn un. Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach ystod o arddulliau cyfathrebu, i gynulleidfaoedd penodol gyda chyflwyniad i logiau adfyfyriol. Byddwch yn cael eich cyflwyno i broses academaidd o ysgrifennu erthyglau a phapurau ymchwil, gan ymdrin â dulliau casglu data, methodoleg a chynlluniau astudiaeth ymchwil. 
  • Anaesthesia ac Ymarfer Nyrsio Llawfeddygol: Mae gan nyrsys milfeddygol cofrestredig rôl allweddol yn yr amgylchedd llawfeddygol. Bydd nyrsys theatr yn paratoi’r theatr, offer a chleifion ar gyfer lawdriniaeth aseptig ac yn aml byddent yn cynorthwyo’r milfeddyg ar y safle llawfeddygol. Mae’r nyrsys hefyd yn monitro a chynnal y claf o dan anesthetig, o dan gyfeiriad y llawfeddyg.  Bydd y modiwl yn ymdrin â phob agwedd o nyrsio llawfeddygol anaesthesia, o baratoi’r claf i adferiad. 

BLWYDDYN  3 (LEFEL 5)

Darpariry pedwar modiwl diwethaf yn y flwyddyn hon. Nod y modiwlau yw eich paratoi ar gyfer y gweithlu milfeddygol a phwysleisio’r sgiliau a chyfleoedd proffesiynol sydd ar gael I Nyrsys Milfeddygol Cofrestredig.   

MODIWLAU

  • Nyrsio Argyfwng, Critigol ag Arbenigol: Mae natur amrywiol ymarferion milfeddygol yn cynnig cyfleoedd cyffrous ym maes gofal nyrsio argyfwng, gofal critigol ac arbenigol. Nod y modiwl hwn yw datblygu eich proses meddwl beirniadol, cynyddu dealltwriaeth a gwybodaeth o ran glaf ag anghenion cymhleth sydd angen lefel gofal nyrsio uwch. 
  • Nyrsio Milfeddygol yn y Gymuned: Mae'r modiwl hwn yn adlewyrchu parth newidiol y nyrs filfeddygol ac yn rhoi cipolwg ar bosibiliadau gyrfa yn y dyfodol wrth i chi nesáu at gofrestru. Bydd y modiwl yn archwilio’r term Un Iechyd/Un Lles a’i pherthnasedd i’r nyrs milfeddygol, yn ogystal â’r effaith gallai nyrsys ei chael yn y gymuned. Mae cynaladwyedd bellach yn bwysig iawn i fyd buses, ble bydd gan ein darpar nyrsys rôl ddylanwadol. Bydd y modiwl yn archwilio cynlluniau ‘gwyrdd’ gallai fod o fudd i staff, cleientiaid a’r gymuned.
  • Arweiniad a Nyrsio Adfyfyriol: Nod y modiwl hwn yw rhoi sgiliau myfyrio ac arwain i chi er mwyn trosglwyddo o fyfyriwr i nyrs filfeddygol gymwys. Bydd y modiwl yn archwilio rhinweddau arweinyddiaeth hanfodol a sut y bydd arweinyddiaeth trawsffurfio a bod yn ymarferydd adfyfyriol medrus yn mwyhau boddhad, perfformiad ac ysgogiad y tîm milfeddygol amlddisgyblaethol, gan arwain i effaith positif ar ofal anifeiliaid a chanlyniadau. 
  • Sgiliau Clinigol ac Ymarfer Proffesiynol: Mae’r modiwl hwn yn bwriadu unoli’r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod eich lleoliad gwaith ac astudiaethau academaidd yn y Brifysgol yn barod ar gyfer cyfrifoldebau cyflogaeth fel Nyrs Milfeddygol Cofrestredig. Bydd y cwrs yn archwilio cysyniad llywodraethu clinigol a’r gweithgareddau gall nyrsys milfeddygol eu gwneud i sicrhau bod safon eu hymarfer proffesiynol yn rhoi gwell canlyniadau i gleifion a chleientiaid. Bydd y modiwl hwn yn trafod fframweithiau cyfreithiol a moesegol o fewn y proffesiwn a’r herion ac anawsterau gallai codi. 

LLEOLIAD DIWYDIANNOL

Lleoliad clinigol: 16 wythnos yn ystod pob blwyddyn academaidd, dyrennir goruchwyliwr clinigol i chi i'ch cefnogi'n ymarferol. Mae'r holl bractisau a ddefnyddiwn yn arferion hyfforddi cofrestredig gyda'r RCVS 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Yn ogystal â phwyntiau tariff y Brifysgol am radd Sylfaen (48-72 pwyntiau), gofynnir bod gan ymgeiswyr o leiaf 5 TGAU ar Raddfa 4(C) neu’n uwch yn cynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth neu gymwysterau cyffelyb.   

Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr 10 diwrnod o brofiad gwaith cyfeiriol mewn practis milfeddygol. Bydd ymgeiswyr hefyd yn cael eu hystyried os oes ganddynt 5 diwrnod o brofiad gwaith mewn practis milfeddygol a 5 diwrnod o brofiad mewn amgylchedd sector anifeiliaid perthnasol.

Gwahoddir ymgeiswyr addas i gyfweliad.

Addysgu ac Asesu

Mae amrywiaeth o ddulliau asesu a gynllunnir i herio pob myfyriwr. Maen nhw hefyd yn gysylltiedig â’r sgiliau a gwybodaeth fydd yn hanfodol yn y proffesiwn milfeddygol. Gall asesiadau cynnwys:

  • Cynllunio pamffled client addysgiadol
  • Adroddiad cynllun gofal
  • Prawf dosbarth
  • Adolygiad llenyddiaeth
  • Cyflwyniad grŵp
  • Cofnodion adfyfyriol
  • Arholiad Gymhwysedd Gwrthrychol Strwythuredig (OSCE) 

Oriau cyswllt: Bydd myfyrwyr yn derbyn 36 awr o amser cyswllt ar gyfer modylau lefel 4, a 30 awr i lefel 5. Addysgu myfyriwr-ganolog fydd canolbwynt y rhaglen, gan ddefnyddio swît glinigol Glyndŵr ar gyfer yr holl sesiynau dysgu i alluogi profiad theori i ymarfer. Defnyddir gweithgareddau grŵp, gweithgareddau unigol, addysgu arloesol a dulliau rhyngweithiol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae ein tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ymroddedig wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni'ch nodau proffesiynol. Maent yn darparu cyngor personol, adnoddau defnyddiol, a digwyddiadau cyflogadwyedd allgyrsiol i'ch paratoi ar gyfer y farchnad swyddi.

Gall graddedigion y cwrs hwn ddilyn gyrfaoedd yn:

  • Ymarfer anifeiliaid bach cyffredinol
  • Ysbytai cyfeirio anifeiliaid bach
  • Nyrsio argyfwng ac allan-o-oriau
  • Ymarfer ceffylau a chymysg
  • Adsefydlu cleifion a therapïau addasu ymddygiad
  • Nyrsio ardal
  • Cadwraeth
  • Amgylchedd sŵolegol
  • Diwydiant fferyllol
  • Addysg
  • Cyfleoedd mentergarwch a busnes

Yn ogystal, efallai y byddwch yn dewis datblygu eich arbenigedd trwy astudiaethau ôl-raddedig. Archwiliwch ein cyrsiau ôl-raddedig am ragor o wybodaeth.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn cynnig ystafelloedd en-suite ar y campws yn ein Pentref Myfyrwyr Wrecsam. Mae'r mannau preifat, wedi'u dodrefnu'n llawn hyn mewn lleoliad cyfleus, gan ddarparu mynediad hawdd i gyfleusterau campws, ardaloedd astudio, a mannau cymdeithasol. Hefyd, dim ond 10 munud ar droed ydych chi o ganol y ddinas! 

Gyda'r holl filiau wedi'u cynnwys, Wi-Fi am ddim, diogelwch 24/7, a meysydd cymdeithasol mawr, fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer profiad myfyriwr gwych. 

Archwiliwch ein hopsiynau llety i ddod o hyd i'ch cartref perffaith oddi cartref.