BEng (Anrh) Peirianneg Fodurol (gyda lleoliad diwydiannol)

Two students wearing safety goggles working under the bonnet of a car

Manylion cwrs

Côd UCAS

AUIP

Blwyddyn mynediad

2023, 2024

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Addysgu

perthnasol i'r diwydiant.

Mynediad

i weithdy chwaraeon modur arbenigol.

Gradd sy'n canolbwyntio ar yrfa

gyda chyfle am Ardystiad Catia*.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r radd anrhydedd hon wedi ei ddylunio ar gyfer y diwydiant modurol mewn ymateb i'r diffyg mewn peirianwyr mecanyddol. Mae’r cwrs ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb cryf mewn peirianneg fecanyddol ac awydd clir i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn peirianneg fodurol.

Mae’r cwrs yn archwilio peirianneg, dyluniad, dadansoddiad a datblygiad ceir modern yn llawn, gan ddefnyddio ceir rasio amrywiol i gefnogi'r addysgu. Mae hefyd yn rhoi pwyslais ar ddysgu sgiliau trosglwyddadwy sy’n gymwys ar gyfer nifer o ddiwydiannau eraill.

Gallwch ddewis astudio’r cwrs yma gyda blwyddyn sylfaen BEng Anrh Peirianneg Fodurol (gyda blwyddyn sylfaen) Cod UCAS: H331

Engineering Council Accredited Degree

Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam

Meddwl am yrfa mewn Peirianneg? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am ein graddau Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam.

Prif nodweddion y cwrs

Byddwch yn:

  • cael mynediad at weithdy chwaraeon modur arbenigol yn ogystal â gweithdy cynhyrchu o safon diwydiant i gael profiad o ddefnyddio peiriannau.
  • cael cyfle i weithio ar brosiectau amrywiol sy'n esblygu'n barhaus. Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys: car ras wedi'i bweru gan feiciau un sedd, Westfield SEi, Renault 5 RWD Electric, Toyota Auris hybrid ymysg llawer o rai eraill) * yn amodol ar newid. Mae myfyrwyr hefyd yn rhedeg tîm Formula Student ar hyn o bryd. 
  • astudio yn un o ddau ddarparwr addysg yn y DU sy'n ganolfannau Ardystio Catia swyddogol, sy'n golygu bod myfyrwyr yn gallu ennill Ardystiad Catia yn ogystal â'u hastudiaethau gradd. (*Mae'n ofynnol i fyfyrwyr dalu ffi Ardystio o £50). 

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae'r rhan helaeth o'r wybodaeth sylfaenol beirianneg yn cael ei chyflwyno/ei hadolygu a'i ehangu ar hyn o bryd. Dilynir yr holl ddarlithoedd gan diwtorialau ac arddangosiadau ymarferol/arddangosiadau er mwyn sicrhau eich bod yn cymhathu'r wybodaeth yn llawn.

MODIWLAU:

  • Gwyddoniaeth Fecanyddol
  • Gwyddoniaeth Drydanol
  • Dulliau a Deunyddiau Labordy
  • Mathemateg Peirianneg
  • Cyflwyniad i Ddylunio ac Ymarfer Peirianneg

Yn ogystal â modiwl dewisol o'r canlynol: 

  • Systemau Ceir Perfformio
  • Systemau Mecanyddol

 

  • Gwyddoniaeth drydanol a mecanyddol * 
  • CAD, Gwyddor Cynhyrchu * 
  • Datblygiad proffesiynol *
  • Deunyddiau, yr Amgylchedd, Mathemateg *
  • Systemau Modurol *

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Ar y lefel hon, byddwch yn cael eich annog i weithio a dysgu'n fwy annibynnol. Rydym nid yn unig yn eich paratoi i fod yn ymarferydd gwybodus, ond rydym hefyd yn eich paratoi i ddod yn ddatryswr problemau dibynadwy ac annibynnol. 

MODIWLAU:

  • Busnes a Datblygu Ymchwil
  • Motor Tanio Mewnol: Theori a Thechnoleg
  • Dylunio Modurol
  • Mathemateg Peirianneg Pellach
  • Dynameg Peirianneg a Mecanweithiau a Dylunio Peirianneg
  • Strwythurau, Dadansoddi Methiant a Dadansoddiad Elfennau Meidraidd (FEA)

 

  • Ymchwil, Moeseg, a Chynaliadwyedd*  
  • Mecaneg, Strwythurau ac FEA*
  • Gweithgynhyrchu trwy Gymorth Cyfrifiadur*
  • Dylunio Modurol*
  • Powertrains & Hylifau*
  • Technegau dadansoddol*

BLWYDDYN 3 (Lleoliad Diwydianol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i chi gael profiad gwerthfawr o'r gweithle sy'n gysylltiedig â pheirianneg drwy brofiad uniongyrchol. Bydd yn caniatáu ichi ymgymryd â chyfnod parhaus, wedi'i ymgorffori gyda chyflogwr gwesteiwr, i weithio ar un neu ragor o brosiectau neu nodau diffiniedig. Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i gyfle lleoliad addas a'i sicrhau. Fel arfer, bydd y Lleoliad Diwydiannol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd arferol, fel pe bai dros y ddau semester Prifysgol arferol. O'r herwydd dylai ei hyd fod fel arfer tua 20-40 wythnos yn ddibynnol ar oriau gwaith.

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

Yn y flwyddyn olaf hon o'r radd, mae'r semester cyntaf yn gyffredinol yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth fodurol benodol. Bydd eich prosiect unigol yn caniatáu ichi arbenigo ymhellach mewn maes o'ch dewis. Ar ddiwedd hyn, byddwch yn beiriannydd graddedig yn barod ar gyfer y diwydiant! 

MODIWLAU:

  • Siasis, Peiriannau a Phwerwaith Ceir Perfformio
  • Dadansoddi Dirgryniad a Strwythurau
  • Aerodynameg a CFD 
  • Cyflogadwyedd ac Entrepreneuriaeth
  • Prosiect blwyddyn olaf (traethawd estynedig unigol)

 

  • Modelu ac Efelychu Peirianneg*
  • Dynameg Modurol*
  • Powertrains Modurol Modern*
  • Prosiect*

Dewisol 

  • Peirianneg Broffesiynol*
  • Ymarfer Chwaraeon Modur*

*o Fis Medi 2024

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ein gofynion mynediad academaidd ar gyfer cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol, gan gynnwys Mathemateg a Ffiseg.

Addysgu ac Asesu

Defnyddir nifer o ddulliau asesu; mae'r rhain yn cynnwys ymarferion seiliedig ar dasgau, cyflwyniadau llafar a phoster, traethodau ac adroddiadau labordy ac arholiadau ysgrifenedig. Asesir pob modiwl trwy amrywiaeth o ddulliau, gan alluogi myfyrwyr i ddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd estynedig y prosiect yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae'r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, sesiynau labordy, seminarau a arweinir gan fyfyrwyr a gwaith ymchwil dan arweiniad.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig o'r holl fodiwlau, am ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc penodol a'u sgiliau allweddol. Mae dysgu annibynnol yn cael ei hyrwyddo drwy astudiaeth dan arweiniad neu drwy'r adborth a roddir i fyfyrwyr.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae’r amrywiaeth gyffrous o ddewisiadau gyrfa sydd ar gael i chi pan fyddwch yn graddio yn cynnwys gweithio gyda gweithgynhyrchwyr ceir a’u rhwydwaith gyflenwi, ymchwilio a datblygu cerbydau modur, gwaith ymgynghori, rheoli peirianneg, dylunio moduron, yn ogystal ag yn y diwydiant chwaraeon modur.

Mae prinder cenedlaethol o beirianwyr sydd â chymwysterau llawn yn y diwydiant moduron; drwy fod â gradd mewn technoleg cerbydau byddwch yn rhagori ar y rhelyw pan ddaw hi i chwilio am waith.

Mae cyfleoedd yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i):

  • dynameg car rasio
  • electroneg chwaraeon modurol
  • peirianneg y ffrâm
  • strwythurau ceir rasio
  • technolegau electronig
  • peiriannau perfformio.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.

Mae ffioedd dysgu 2023/24 Prifysgol Wrecsam ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.

Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau Ffioedd a Chyllido.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.

 

Yn amodol ar ail-achredu

Rhaid adnewyddu achrediad/cydnabyddiaeth allanol gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio (CPSRh) o dro i dro ar gyfer cyrsiau sy’n bodoli eisoes. Mae’r manylion ar y wefan yn seiliedig ar achrediad fersiwn flaenorol neu gyfredol y cwrs, a gwneir y diweddariadau a ragwelir cyn gynted ag y gwyddom amdanynt.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn dal i fod ‘yn amodol ar ail-achredu’ yn cael eu hachredu yn ôl y disgwyl, fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na chaiff yr achrediad ei gymeradwyo yn ôl y disgwyl, neu ei newid neu ei ohirio’n sylweddol, cewch eich hysbysu gan y Brifysgol.

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.