BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol
Manylion cwrs
Côd UCAS
B930
Blwyddyn mynediad
2024, 2025
Hyd y cwrs
3 BL (llawn-amser) 4 BL (rhan-amser)
Tariff UCAS
80-112
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Cymeradwywyd
gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
1af
yng Nghymru ar gyfer rhagolygon graddedigion (Complete University Guide, 2025)*
Dull arloesol
o ymdrin ag addysg ryngbroffesiynol
Pam dewis y cwrs hwn?
Hoffech chi weithio gyda phobl o bob oed mewn ffordd greadigol a grymusol i'w galluogi i oresgyn rhwystrau i fyw bob dydd, gan hyrwyddo swyddogaeth, iechyd a lles? Gall ein rhaglen BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol fod yn ddelfrydol i chi.
Byddwch yn:
- Cael y cyfle i astudio'n llawn neu'n rhan amser.
- Elwa o gyfleoedd gwaith amrywiol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector.
- Byddwch yn rhan o garfan fach o fyfyrwyr, gan astudio'n llawn neu'n rhan amser.
- Byddwch yn rhan o grŵp seminar rhyngbroffesiynol, gan ymgysylltu â sesiynau sbotolau cyffrous gyda myfyrwyr eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd a myfyrwyr nyrsio.
- Datblygwch yn broffesiynol ac yn bersonol yn ystod eich astudiaeth, gan elwa ar y cyfuniad o brofiad academaidd a lleoliad.
- Cael eich annog i fod yn ddysgwr annibynnol gydag amrywiaeth o ddulliau addysgu a ddefnyddir gan gynnwys darlithoedd, gweithdai ymarferol, gwaith grŵp, seminarau rhyngweithiol, trafodaethau ar-lein, a lleoliadau ymarfer.
- Datblygu i fod yn therapydd galwedigaethol myfyriol, ymreolaethol gydag ystod eang o sgiliau gan gynnwys ymyriadau therapiwtig, entrepreneuriaeth ac ymchwil.
*Mae'r maes pwnc hwn yn 1af yng Nghymru ar gyfer rhagolygon graddedigion yn nhablau cynghrair maes pwnc Cwnsela a Therapi Galwedigaethol yn y Complete University Guide, 2025
*Mae'r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd yn y 3ydd gorau o blith Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am foddhad cyffredinol. (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024)
Therapi Galwedigaethol ymMhrifysgol Wrecsam
Meddwl am yrfa mewn Therapi Galwedigaethol? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am astudio'r radd hon ym Mhrifysgol Wrecsam.
Prif nodweddion y cwrs
- Derbyniad bychan o fyfyrwyr bob blwyddyn.
- Mae dysgu rhyngbroffeidol wedi'i wreiddio drwy'r rhaglen gyda chyfleoedd i ddysgu gyda gweithwyr iechyd neu weithwyr proffesiynol cysylltiedig eraill.
- Cwrs wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) a Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol (RCOT).
- Cyfleoedd rhagorol ar gyfer amrywiaeth eang o leoliadau yn yr ardal leol, ymhellach i ffwrdd ac mewn lleoliadau rôl sy'n dod i'r amlwg.
- Rydym yn rhaglen wedi'i gomisiynu felly gall eich ffioedd gael eu talu a gallwch fod yn gymwys ar gyfer taliad unigol blynyddol, cefnogaeth ariannol i dalu am gostau lleoliad a gallwch wneud cais am fwrsariaeth prawf-modd. (Mae amodau mewn gweithrediad).
- Y brif safle i gyflwyno'r cwrs hwn yw ein campws Wrecsam. Gellir yn achlysurol, cyflwyno sesiynau addysg rhyngbroffesiynol o'n campws yn Llanelwy gyda myfyrwyr o gyrsiau amrywiol nyrsio ac iechyd perthynol.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Mae astudiaethau'n sylfaen ar gyfer y dysgu i ddod. Ar y lefel yma cewch gyflwyniad i'r prif themâu, athroniaethau, rolau a chyfrifoldebau Therapyddion Galwedigaethol. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol yn ogystal â sgiliau generig a throsglwyddadwy a sgiliau astudio. Byddwch yn rhannu cyfleoedd gyda myfyrwyr ar raglenni eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd ar draws modiwlau drwy ddysgu Rhyngbroffesiynol.
MODIWLAU:
- Sylfeini Ymarfer Proffesiynol 1: cyflwyniad i'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn weithiwr iechyd a gofal proffesiynol. Ymchwilio i rôl a chyfrifoldebau bod yn therapydd galwedigaethol. Rydych yn dysgu am hunaniaeth alwedigaethol a phwysigrwydd meddiannu mewn bywyd bob dydd fel bodau galwedigaethol i gefnogi iechyd a lles.
- Sylfeini Ymarfer Proffesiynol 2: yn canolbwyntio ar sgiliau craidd therapyddion galwedigaethol gan gynnwys asesu a chynllunio nodau. Rydych yn dysgu damcaniaeth ac athroniaethau therapi galwedigaethol i wneud cais ymarferol.
- Swyddogaeth Ddynol Drwy Alwedigaeth: defnyddio ymgysylltiad galwedigaethol fel ffocws i astudio datblygiad dynol arferol, gan gynnwys anatomi, ffisioleg a seicoleg drwy'r cyfnodau bywyd.
- Lleoliad Ymarfer 1: lleoliad clinigol cyntaf a gynhelir mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol dros gyfnod o 8 wythnos.
- Sylfeini Ymchwil: canolbwyntio ar sgiliau astudio a chyflwyniad i ddefnyddio tystiolaeth ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Gan adeiladu ar eich gwybodaeth Lefel 4, bydd disgwyl ichi ddatblygu'ch sgiliau fel dysgwr annibynnol. Bydd gan ddeunydd damcaniaethol ffocws ar themâu fel camweithredu, ymyrryd therapiwtig a chwmpas therapi galwedigaethol. Anogir cymhwyso sgiliau adfyfyriol a dadansoddol. Byddwch yn rhannu cyfleoedd gyda myfyrwyr ar raglenni eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd ar draws modiwlau drwy ddysgu Rhyngbroffesiynol.
MODIWLAU:
- Datblygiad mewn Ymarfer Proffesiynol: byddwch yn archwilio'r ddamcaniaeth sy'n sail i ymarfer therapi galwedigaethol.
- Tystiolaeth mewn Ymarfer: canolbwyntio ar feithrin sgiliau gwerthuso ac ymchwil gyda chyflwyniad i ddefnyddio tystiolaeth ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
- Goresgyn Rhwystrau Galwedigaethol drwy Ymyrraeth: canolbwyntio ar sgiliau therapiwtig ar gyfer ystod o gyflyrau/materion galwedigaethol ar draws oes.
- Cymhlethdod mewn Ymarfer: canolbwyntio ar sgiliau therapiwtig ar gyfer cyflyrau/cyd-destunau cymhleth drwy ddatrys problemau a rhesymu clinigol. Yn cynnwys profiad dewisol 3 wythnos mewn lleoliad yn y gymuned.
- Lleoliad Ymarfer 2: ail leoliad clinigol sy'n canolbwyntio ar y rôl therapi galwedigaethol a wneir yn ymarferol dros gyfnod o 10 wythnos.
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
Mae Lefel 6 yn cwmpasu intergreiddio prosesau therapiwtig gyda sgiliau gwerthuso beirniadol, Gosodir pwyslais hefyd ar ystyriaethau moesegol, athroniaethau rheoli a deddfwriaeth, Disgwylir dysgu annibynnol ac ymarfer adfyfyriol annibynnol. Byddwch yn rhannu cyfleoedd gyda myfyrwyr ar raglenni eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd ar draws modiwlau drwy ddysgu Rhyngbroffesiynol.
MODIWLAU:
- Pontio i Ymarfer Proffesiynol: tynnu lleoliad a phrofiad academaidd at ei gilydd byddwch yn dechrau beirniadu ymarfer. Byddwch yn dysgu sgiliau arwain a rheoli. Byddwch yn datblygu meddylfryd entrepreneuraidd i feithrin creadigrwydd, datrys problemau a rhesymu clinigol mewn ymarfer cymhleth
- Ymchwil ar gyfer Ymarfer: atgyfnerthu sgiliau ymchwil ymhellach a chwblhau eich prosiect ymchwil.
- Gwerthuso Ymarfer Cymhleth: byddwch yn atgyfnerthu eich sgiliau therapiwtig a'ch gallu i werthuso a beirniadu ymarfer gyda materion cymhleth.
- Lleoliad Ymarfer 3: trydydd lleoliad clinigol sy'n canolbwyntio ar y rôl therapi galwedigaethol a wneir yn ymarferol dros gyfnod o 12 wythnos.
Ar ôl cwblhau pobl lefel cewch chi BSc (Anrh) mewn Therapi Galwedigaethol a byddwch yn gymwys i wneud cais i gofrestru'n Therapydd Galwedigaethol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Bydd ceisiadau am astudiaethau rhan-amser yn agor ar gyfer mynediad Ionawr 2025 ddydd Llun 3 Mehefin 2024.
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol. Mae hefyd angen TGAU Mathemateg a Saesneg neu gyfwerth (gradd c / 4 neu uwch)
Croesewir ceisiadau gan bobl a all gyflwyno tystiolaeth o brofiad bywyd/gwaith perthnasol. Yn ogystal, disgwylir i ymgeiswyr arddangos rhywfaint o fewnwelediad i rôl therapi galwedigaethol
Ystyrir ceisiadau yn unigol ac yn ôl eu teilyngdod, fodd bynnag, mae’n rhaid fod gennych:
- Astudiaethau Lefel A ddiweddar (yn ystod y 5 mlynedd diwethaf) neu gyfatebol (BTEC, Cwrs Mynediad mewn pwnc perthnasol)
- Os ydych newydd adael yr ysgol mae gofyn bod gennych o leiaf 112 pwynt tariff UCAS yn TAG Safon Uwch neu gyfatebol
- Profiad o ystod o leoliadau iechyd/gofal cymdeithasol/trydydd sector naill ai'n wirfoddol neu'n gyflogedig
- O ddewis profiad gyda Therapydd Galwedigaethol naill ai drwy gysgodi neu fynychu diwrnodau blasu'r Ymddiriedolaeth neu ddigwyddiadau gyrfaol tebyg.
Mae pob cynnig am le ar y radd hon a wneir yn dilyn cyfweliad yn amodol ar gwblhau cliriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Yn ogystal mae cael eich derbyn i'r cwrs yn amodol ar Gliriad Iechyd Galwedigaethol.
Mae mynediad i'r rhaglenni yn disgyn ar wahanol adegau o'r flwyddyn academaidd. Mae mynediad i'r rhaglen amser llawn 3 blynedd ym mis Medi ac mae mynediad i'r rhaglen ran-amser 4 blynedd ym mis Ionawr.
Addysgu ac Asesu
Mae'r cwrs naill ai'n rhaglen amser llawn tair blynedd neu'n rhaglen ran-amser pedair blynedd, a gymeradwyir ar y pwyslais ar gefnogi myfyrwyr yn eu hastudiaethau ac ansawdd lleoliadau clinigol. Byddwch yn rhan o garfan fach o fyfyrwyr. Mae astudio yn gymysgedd o ddarlithoedd prifysgol, gwaith grŵp, astudio hunangyfeiriedig gartref a lleoliadau clinigol.
Asesir y modiwlau drwy ddulliau amrywiol gan gynnwys traethodau, asesiadau ymarferol, asesiadau viva ar sail achosion, portffolio a chymwyseddau mewn lleoliadau ymarfer. Rydym hefyd yn defnyddio efelychu ymarfer proffesiynol fel elfen graidd o'n haddysgu.
DYSGU AC ADDYSGU
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.
Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Bydd graddedigion yn gallu cofrestru fel Therapydd Galwedigaethol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, gan roi'r cyfle iddynt weithio mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU a thramor.
Mae llawer o raddedigion yn cael gwaith yn y GIG, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector ac mewn practis preifat. Mae myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o feysydd megis gweithio gyda phobl ag anghenion cymhleth, anghenion iechyd acíwt, materion iechyd meddwl neu anableddau dysgu. Gall Therapyddion Galwedigaethol weithio'n gyfartal mewn sefydliadau mentrau cymdeithasol a gwella iechyd. Mae ein graddedigion hefyd wedi manteisio ar gyfleoedd i weithio dramor.
Os hoffech ddatblygu eich astudiaethau ymhellach neu ddilyn gyrfa ymchwil yna gallwch barhau i astudio ar lefel Meistr a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Wrecsam.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.
Cymwysiadau
Oherwydd y nifer uchel o geisiadau, mae'r cwrs hwn bellach ar gau ar gyfer mynediad llawn amser 2024/25. Os ydych yn dymuno gwneud cais am fynediad llawn amser 2025/26, gwnewch gais drwy UCAS ar gyfer mynediad 2025/26 pan fydd ceisiadau'n ailagor ym mis Medi 2024. Yn y cyfamser, efallai yr hoffech ystyried ein cyrsiau byr.