MBA Gweinyddu busnes

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2026
Hyd y cwrs
1 Fl (LlA) 2 Fl (RhA)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Ymchwilio
sydd yn eich galluogi i ymchwilio, dadansoddi a chynnig atebion i broblem busnes
Addysgu
addysgu yn seiliedig ar faterion busnes cyfoes
Adeiladwch
portffolio o sgiliau rheoli a gwella eich rhagolygon gyrfa yn y dyfodol
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae MBA yn parhau i fod yn gymhwyster blaenllaw i fyfyrwyr busnes ôl-raddedig sy'n ceisio cynyddu eu gwybodaeth am bynciau, adeiladu portffolio o sgiliau rheoli a gwella eu rhagolygon gyrfa yn y dyfodol mewn maes cystadleuol a chynyddol fyd-eang.
Mae'r ystafell MBA yn cynnwys nifer o lwybrau, y mae pob un ohonynt yn cwmpasu tri phwnc craidd sy'n darparu'r sylfaen ar gyfer busnes llwyddiannus, sef strategaeth, cyllid ac arweinyddiaeth.
- Canolbwyntio ar sgiliau a gwybodaeth datblygu gyrfa mewn amgylchedd cefnogol.
- Mynediad i rwydwaith o ddarpar reolwyr busnes o wahanol sectorau a sefydliadau.
- Cyfle i fynychu digwyddiadau sy'n gysylltiedig â busnes ar y campws Prifysgol Wrecsam.
- Mae elfen ymchwil y rhaglen yn galluogi myfyrwyr i nodi, ymchwilio, dadansoddi a chynnig atebion cadarn mewn perthynas â phroblem busnes.
- Mae'r addysgu'n rhyngweithiol a, lle bo'n bosibl, yn seiliedig ar faterion busnes cyfoes drwy gydol y rhaglen.
Prif nodweddion y cwrs
- Mae modiwlau MBA yn cyd-fynd â Fframwaith Cymhwysedd Sefydliad y Cyfarwyddwyr sy'n cwmpasu ystod o sgiliau, gwybodaeth a meddylfrydau
- Mae cymysgedd o fodylau busnes Meistr academaidd traddodiadol yn cynnwys Strategaeth, Cyllid, Marchnata a HRM sydd yn parhau i fod yn sylfaen ar gyfer rhaglen o’r fath. Mae'r llwybrau rhaglen yn cynnig modiwlau eraill, gan ddefnyddio ystod eang o ffynonellau gwybodaeth, sy'n adlewyrchu'r cyd-destun y mae'n ofynnol i sefydliad fasnachu ynddo. Y canlyniad yw rhagolwg busnes crwn sy'n rhoi cipolwg ar lywodraethu corfforaethol, pryderon amgylcheddol, marchnata a safbwyntiau HRM o fewn fframwaith o ymarfer myfyriol effeithiol a beirniadol
Beth fyddwch chin ei astudio
MODIWLAU
- Gweithredu Strategaethau (Craidd)
- Cyfathrebu Integredig (Craidd)
- Themâu Arweinyddiaeth Gyfoes (Craidd)
- Mewnwelediadau Ariannol, Deallusrwydd Busnes (Craidd)
- Newid Creadigol ac Arloesedd (Craidd)
- Pwysleisio'r Amglychedd (Craidd)
- Dulliau Ymchwil a Thraethawd Hir (Craidd)
- Adnoddau a Rheoli Talent (Dewisol)
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae gofyn bod gan ymgeiswyr o leiaf gradd israddedig dosbarth 2:2 class.
Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir ystyried ymgeiswyr heb radd gyntaf a all ddangos tystiolaeth helaeth o fwy na dwy flynedd mewn rôl (nau) proffesiynol perthnasol. Gall ymgeiswyr o'r fath fod yn destun meini prawf dethol ychwanegol yn ôl disgresiwn y brifysgol.
Ar gyfer yr holl ymgeiswyr llwyddiannus, rhoddir pwyslais ar yr angen i weithio'n ddwys ac yn gyson drwy gydol y cwrs gydag ymrwymiad i bresenoldeb uchel a chwrdd â'r holl derfynau amser.
Addysgu ac Asesu
Bydd y modiwlau a ddysgir yn cael eu hasesu yn bennaf trwy gyfrwng aseiniadau unigol neu grŵp. Fodd bynnag, mae gan sawl modiwl arholiad fel rhan o’r asesu. Mae'n rhaid i chi basio eich holl fodiwlau i ennill 120 o gredydau ac i symud ymlaen i'r cam traethawd hir.
I dderbyn yr MBA, mae’n rhaid i chi gwblhau’r traethawd estynedig yn llwyddiannus, a chael y 180 credyd. Bydd yn rhaid i chi gyflwyno eich traethawd estynedig yn yr hydref yn dilyn asesiad ym mis Mai. Wrth symud ymlaen i’r cam traethawd hir, bydd goruchwyliwr yn cael ei benodi i chi i’ch cynghori ar sut i lunio a datblygu eich traethawd estynedig.
Amserlen Asesiadau'r Modiwl
Côd a theitl y Modiwl |
Math o Asesiad |
Rhaniad yr Asesu |
Llywtho asesiad |
Gweithredu Strategaethau |
Asesiad Llafar Astudiaeth Achos |
50% 50% |
3,500 gair |
Cyfathrebu Integredig |
Cyflwyniad Gwaith Cwrs |
50% |
20 munud 200 gair |
Mewnwelediadau Ariannol a Deallusrwydd Busnes |
Traethawd Adroddiad |
50% 50% |
2,000 gair 2,000 gair |
Themâu Arweinyddiaeth Gyfoes |
Astudiaeth Achos Cyflwyniad |
50% 50% |
2,000 gair 20 mun, 2,000 gair |
Pwysleisio'r Amgylchedd |
Gwaith Cwrs |
100% |
3,500 gair |
Gwerthuso Risg a Phenderfyniadau |
Gwaith Cwrs Ymarfer Adfyfyriol |
60% |
2,500 gair 2,000 gair |
Newid ac Arloesi Creadigol |
Astudiaeth Achos Cyflwyniad |
50% |
2,500 gair 20 mun, 10 mun cwestiynau |
Dulliau Ymchwil/Traethawd Hir |
Traethawd Hir |
100% |
18,000 gair
|
Darperir y rhaglen trwy gyfres o chwe modiwl pwnc-benodol sydd wedi’u dysgu dros ddau trimester. Amlinellir y testunau yn nhrosolwg yr adran rhaglen a’r isadran o’r enw Manyleb Rhaglen. Er bod elfen ddamcaniaethol o fewn pob modiwl, mae’r ffocws ar faterion busnes cyfoes a phroblemau’n darparu astudiaethau achos a’r cyfle am drafodaeth feirniadol i gryfhau gwybodaeth a chymhwysiad ymarferol.
Mae myfyrwyr hefyd yn astudio dulliau ymchwil a chyflwyno cyflwyniad ymchwil ar ddiwedd trimester dau. Anogir myfyrwyr i ddewis testun ymchwil cyfoes, sydd yn berthnasol i fusnes a rheolaeth, sydd â gwerth a pherthnasedd i obeithion gyrfaol yn y dyfodol. Yn ystod y trydydd semester mae myfyrwyr yn cwblhau traethawd hir sydd ag elfen ymchwil a mynychu cyfres o gyfarfodydd oruchwyliaeth sydd wedi’u trefnu’n unigol. Darperir y cwrs llawn amser dros ddau ddiwrnod yr wythnos sydd yn rhoi hyblygrwydd i fyfyrwyr sydd yn gweithio a gellir ei chwblhau dros 12 mis, ar yr amod fod cynnydd boddhaol yn ystod y modiwl.
Mae myfyrwyr rhan amser yn astudio’r rhaglen dros ddwy flynedd ac mae’n rhaid mynychu’r brifysgol un diwrnod yr wythnos yn ystod wythnosau dysgu. Mi ddysgir myfyrwyr llawn a rhan amser hefo’i gilydd i gynyddu cyfoeth yr amgylchedd dysgu mewn sawl maes, yn cynnwys cyfleoedd am rwydweithio, cyfathrebu a gwaith grŵp.
Fel arfer mae disgwyl i fyfyrwyr mynychu bloc tair awr yr wythnos wedi’u seilio ar bob modiwl. Bydd y rhain yn cynnwys darlith a thiwtorial i alluogi datblygiad sgiliau a chymhwysiad. Mae gan y rhan fwyaf o fodylau dau asesiad fydd yn rhaid i fyfyrwyr eu cwblhau er mwyn symud ymlaen trwy’r rhaglen.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae cyfeiriad gyrfaol myfyrwyr MBA yn amrywiol ac arbenigol, ond mae tystiolaeth gadarn o swyddi sydd angen cynllunio effeithiol ac ymgymryd â phrosiectau, ynghyd â chyfrifoldebau mwy datblygedig a rheoli tîm neu grŵp lle mae angen clir am sgiliau arwain a gwneud penderfyniadau. Gall rolau eraill ganolbwyntio ar arbenigedd megis adnoddau dynol, marchnata, a chyllid a chyfrifeg.
Mae myfyrwyr yn y gorffennol wedi dod yn:
- Rheolwyr Gweithrediadau
- Rheolwyr Darbodus
- Rheolwyr Prosiect mewn amrywiaeth o feysydd
- Rheolwyr Adnoddau Dynol a Rheolwyr Marchnata.
Nid yw'r rhestr hon yn un gyflawn.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.
Gwneud Cais
- Llawn-Amser: Agored Fyfyrwyr Cartref a Rhyngwladol - Gwnewch Gais Nawr
- Rhan-amser: Argored i fyfyrwyr cartref yn unig - Gwnewch Gais Nawr
- Gweinyddu busnes gydag Ymarfer Uwch: Agored Fyfyrwyr Cartref a Rhyngwladol - Gwnewch Gais Nawr