Students in a mental health lecture

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

Medi 2027

Hyd y cwrs

2 FL (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Cyfluniwyd y rhaglen ar gyfer raddedigion mewn pwnc arall, sydd eisiau newid cyfeiriad ac astudio neu ddilyn gyrfa mewn seicoleg.

Byddwch yn:   

  • Astudio gradd sydd wedi'i gymeradwyo gan Gymdeithas Seicoleg Prydain (BPS)
  • Cael y cyfle i gael cymhwyster meistr wrth astudio pob un o'r meysydd craidd a fyddai'n cael ei gwneud mewn gradd israddedig seicoleg arferol, sy'n arbed amser arian i chi
  • Cymerwch ran yn rhaglen ddysgu cyfunol, sy'n golygu y bydd rhywfaint o ddysgu'n digwydd wyneb yn wyneb mewn ystafell ddosbarth, ond y rhan fwyaf o ddysgu'n digwydd trwy ddosbarthiadau ar-lein
  • Mynychu tair diwrnod addysgu a Diwrnod Mai ar y campws bob blwyddyn

 

BPS logo

A wyddoch chi?

Drwy astudio gradd Seicoleg ym Mhrifysgol Wrecsam, cewch fynediad i fuddion unigryw wedi’i llunio i’ch helpu i lwyddo…

Modiwlau Seicoleg Integredig

Mae'r rhaglen wedi'i hail-ddilysu yn cynnwys y modiwl seicoleg ddiwylliannol a chymunedol a modiwlau integredig eraill, gan ddangos sut mae gwahanol ddulliau'n cyfuno wrth gymhwyso theori i ymarfer.

Dysgu Cyfunol Hyblyg

Cyflwynir y rhaglen trwy ddysgu cyfunol, gan gyfuno astudio ar-lein â diwrnodau campws wyneb yn wyneb. Delfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n cydbwyso astudio â chyflogaeth.

Llwybr Trosi Seicoleg

Mae'r rhaglen Trosi Seicoleg MSc hon wedi'i chynllunio ar gyfer graddedigion o gefndiroedd nad ydynt yn seicoleg sy'n dymuno newid cyfeiriad a dilyn gyrfa mewn seicoleg.

Prif nodweddion y cwrs

  • Dewch yn rhan o gymuned amrywiol o fyfyrwyr.
  • Cymysgedd perffaith o ddysgu ar-lein gydag addysgu wyneb yn wyneb.
  • Cymerwch ran yn ein penwythnosau preswyl deniadol a ddiwrnadau ‘ar y campws’
  • Sicrhewch gymhwyster meistr cydnabyddedig i helpu i ddechrau eich gyrfa mewn seicoleg.

 

 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Byddwch yn astudio chwe modiwl craidd wedi’i dysgu, a gynghorir gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig, yn trafod meysydd allweddol a geir fel arfer ar raddau seicolegol israddedig. 

MODIWLAU

  • Ymchwil mewn seicoleg 1: Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu gwerthfawrogiad o'r broses ymchwil a dulliau ymchwil, gan gynnwys dealltwriaeth o'r ystyriaethau sy'n sail i gynllunio a dylunio ymchwil. Byddwch yn cael dealltwriaeth feirniadol o foeseg ac ymddygiad ymchwil ac ar gyfer dadleuon cyfredol mewn ymchwil. Bydd yn eich galluogi i ystyried dulliau dadansoddi ansoddol a meintiol ac ennill sgiliau a hyder dadansoddi data ymarferol.

    Personoliaeth a Gwahaniaethau Unigol: Byddwch yn archwilio cysyniadau personoliaeth a deallusrwydd (gan gynnwys deallusrwydd emosiynol). Mae hyn yn cynnwys gwerthfawrogiad o'r ffyrdd y mae'r cysyniadau hyn yn dylanwadu ar ymddygiad dynol a gwahaniaethau unigol mewn bywyd bob dydd.   

    Seicoleg Ddiwylliannol a Chymunedol: Byddwch yn archwilio effaith seicolegol dylanwad diwylliannol a chymuned.  Bydd y modiwl hwn yn gwerthuso problemau rhagfarnau a materion moesegol mewn ymchwil seicolegol a chymhwyso yn drawsddiwylliannol cystal â'r materion sy'n ymwneud â diwylliant, amrywiaeth, a chydraddoldeb mewn seicoleg. 

    Ymchwil mewn Seicoleg 2: Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar wybodaeth bresennol o'r gwahanol ddulliau o ddadansoddi data, gan ystyried methodolegau ansoddol a meintiol. Byddwch yn ennill sgiliau dadansoddi data ymarferol ac yn datblygu hyder wrth wybod pa ddull dadansoddi sy'n berthnasol.   

    Seicoleg Gymdeithasol a Datblygiadol: Byddwch yn archwilio cysyniadau seicolegol, damcaniaethau, a modelau datblygiad dynol gydol oes. Byddwch hefyd yn dysgu am y cysyniadau, damcaniaethau a dulliau seicolegol sy'n berthnasol i astudio rhyngweithiadau cymdeithasol, agweddau ac ymddygiadau o fewn cyd-destunau cymdeithasol.   

    Seicoleg Wybyddol a Biolegol: Bydd ffisioleg y system nerfol ganolog a'i esblygiad sy'n esbonio ymddygiadau dynol ac anifeiliaid, rhythmau cwsg a biolegol a ffarmacoleg yn cael eu harchwilio yn y modiwl hwn. Byddwch yn gwerthuso gwybodaeth gyfredol am brosesu gwybodaeth a chanlyniadau ymddygiad cysylltiedig mewn bodau dynol.   

    Prosiect Ymchwil: Byddwch yn gwneud cyfraniad gwreiddiol i faes seicoleg berthnasol trwy ddylunio, ymgymryd, ac adrodd (yn ysgrifenedig ac ar lafar) ar ddarn o ymchwil. Y nod yw datblygu eich sgiliau ymchwil ac adrodd ar ysgrifennu ynghyd â lefel o arbenigedd yn eich dewis faes ymchwilio.

Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil academaidd gyda chymorth goruchwylydd ac yn archwilio materion cysyniadol a hanesyddol seicoleg.

Mae trefn a dysgir y modylau’n dibynnu ar ba flwyddyn rydych yn dechrau astudio. Bydd myfyrwyr yn astudio tri modiwl bob blwyddyn academaidd, ac yn cwblhau prosiect ymchwil ochr yn ochr â modylau’r ail flwyddyn.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Bydd angen i ymgeiswyr fod wedi cwblhau a phasio gradd baglor mewn unrhyw bwnc cyn cofrestru ar y rhaglen. Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr o leiaf 2:1, er y bydd myfyrwyr â 2:2 gyda phrofiad gwaith perthnasol hefyd yn cael eu hystyried.

Mi fydd angen diddordeb brwd mewn dysgu am ddamcaniaethau seicolegol, a’r gallu i wneud gwaith ymchwil.

Rydym yn croesawu ceisiadau bobl o gefndiroedd pwnc amrywiol. Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus am gyfweliad. Noder y gellir cynnal cyfweliadau ar Skype os nad ydych yn byw’n lleol.

 

Addysgu ac Asesu

Bydd y rhaglen yn cynnwys tri diwrnod 'ar y campws' y flwyddyn academaidd ar gampws Plas Coch y brifysgol yn Wrecsam. 

Bydd astudio gartref yn cynnwys darllen, cwblhau aseiniadau penodol, gwylio deunydd gweminar ac ymgysylltu â thrafodaethau fforwm ar-lein.

Ymhlith yr aseiniadau mae cwblhau traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau poster, cyflwyniadau llafar a gwaith cwrs.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

 
 

Rhagolygon gyrfaol

 Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Byddai’r cwrs yn delfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau mynd ymlaen i hyfforddi’r ffurfiol i fod yn seicolegydd, neu sydd eisau gyrfa academaidd yn y maes.

 

 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.