MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Celf
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2024
Hyd y cwrs
1 BL (LlA) 2 FL (RhA)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Datblygu
eich gwybodaeth a'ch arbenigedd ym maes celf amlddisgyblaeth, rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol.
Wedi'i curadu
er mwyn i chi feithrin dealltwriaeth ddofn o'r sgiliau sydd eu hangen i weithio o fewn cyd-destunau creadigol, proffesiynol ac academaidd.
Archwilio
strategaeth ymchwil sy'n croesi llawer o ffiniau disgyblaethol ac yn datblygu arfer yn unigol ac ar y cyd.
Celf ymPrifysgol Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Wrth i dwf yn y sector barhau, mae'r diwydiannau creadigol yn cynnig llawer o gyfleoedd gyrfaol llewyrchus. Rydym wedi datblygu'r cwrs hwn i'ch arfogi â chydbwysedd o sgiliau ymchwil, dadansoddol ac arloesol yn barod ar gyfer cyflogaeth o fewn maes dewisol eich ymarfer celf.
- Bydd ffocws aml-ddisgyblaethol, rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol eich dysgu yn esblygu gydag ethos o feithrin cymdeithas gynaliadwy - yn cynnwys ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol, moesol a moesegol. Byddwch yn cael amrywiaeth o gyfleoedd newydd a datblygol i ddatblygu eich ymarfer mewn cymuned greadigol, ryngwladol a ffyniannus.
- Mae'r cwrs yn caniatáu i ôl-raddedigion i arbenigo yn eu harbenigedd pynciol penodol, ond hefyd mae'n hwyluso'r "sgyrsiau" rhyngddisgyblaethol ar draws y pynciau, tra bod arlunwyr a darlunwyr ôl-raddedig yn cwrdd yn rheolaidd yn eu hystafell sylfaenol ymroddgar - ar gyfer beirniadaethau, cyflwyniadau a chrynodebau. Mae ymarfer wedi'i mewnosod o fewn y gweithdai stiwdio arbenigol yn Stryd y Rhaglaw, o fewn Adeilad y Diwydiannau Creadigol y brifysgol. Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i glywed gan siaradwyr gwadd yn ystod Ddyfodol Greadigol a Syniadau Mawr Gymru.
- Wrth i chi astudio gyda ni byddwch yn cael gwell mewnwelediad i ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau, posteri a chyfnodolion yn ogystal â gwybodaeth hanfodol arall am fusnes. Bydd hyn yn cael ei arwain gan ein staff proffesiynol a fydd yn trawsnewid eich datblygiad gyda'u gwybodaeth a'u profiad.
Prif nodweddion y cwrs
- Datblygwyd y rhaglen hon i ymateb i'r newid yn wyneb celfyddyd, y diwydiannau creadigol ac mae'n ymgorffori'r ymarfer rhyngddisgyblaethol cydweithredol gan ymchwilwyr Prifysgol Wrecsam i ymarfer sy'n ymwneud yn gymdeithasol.
- Bydd ein staff yn eich cefnogi ac yn eich annog i ddod o hyd i interniaethau a lleoliadau a gychwynnir gyda sefydliadau lleol a rhanbarthol.
- Byddwch yn dysgu technegau rheoli creadigol ac egwyddorion busnes pwysig i ategu eich cynnydd creadigol a dychmygus ac i helpu i'ch paratoi ar gyfer gyrfa ar ôl i'r cwrs gael ei gwblhau.
- Bydd eich dysgu yn cynnwys deall ac ymgysylltu ag arferion, materion, technolegau ac arddangosion cyfoes.
- Bod yn rhan o'n cymuned greadigol ryngwladol fywiog gyda staff sydd wedi ymrwymo i feithrin eich potensial, yn barod i chi fynd â'ch talent i'r lefel nesaf.
- Bydd ein staff proffesiynol yn trawsnewid eich dysgu gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u profiad eu hunain o gymryd rhan ac mewn swyddi, digwyddiadau cysylltiedig â'r diwydiant, cynadleddau a chyhoeddiadau. Mae gweithgareddau ymchwil ein tîm yn agos at y cwricwlwm ac yn annog arfer arloesol a rhwydweithio proffesiynol.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phedwar modiwl craidd, yn werth 30 credyd yr un, a ddilynir gan brosiect traethawd hir yn werth 60 credyd.
MODIWLAU
- Ymgysylltu, trochi ac ymarfer
- Dulliau ymchwil creadigol
- Sgiliau pontio
- Ymarfer trawsddisgyblaethol
- Traethawd ac Esboniad Celf Meistri
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a bydd ar ffurf naill ai modiwlau craidd neu fodiwlau opsiwn. Mae modiwlau wedi'u dynodi fel rhai craidd neu opsiwn yn unol â gofynion corff proffesiynol ac adolygiad o'r fframwaith academaidd mewnol, felly efallai y bydd yn rhaid eu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Ar hyn o bryd mae angen gradd gychwynnol arnom mewn pwnc perthnasol, wedi'i ddosbarthu fel Dosbarth Cyntaf neu 2:1, neu dystiolaeth o weithgarwch diweddar yn y pwnc sy'n cyfateb i'r dosbarthiadau hyn fel y pennwyd gan y cyfweliad.
Gall myfyrwyr tramor gyflwyno eu portffolio a'u datganiad o fwriad yn ddigidol os nad ydynt yn gallu ymweld â'r Brifysgol yn bersonol. Dilynir hyn gan gyfweliad wyneb yn wyneb rhithwir trwy, Skype, timau, Zoom neu gyfatebol.
Disgwylir i bob ymgeisydd feddu ar radd gychwynnol dda a pherthnasol, neu ddangos portffolio o waith eu hunain, gan ddangos cywerthedd â gradd gychwynnol.
Addysgu ac Asesu
Cynhelir asesiadau ar ffurf waith cwrs (fel arfer portffolio), gan gynnwys gwerthusiadau o'r gwaith ymarferol o bob modiwl.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam yn ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i uchafu eu potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn ardaloedd fel ysgrifennu academaidd, creu nodiadau effeithiol a pharatoi am aseiniadau. Gall fyfyrwyr archebu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd ymroddgar i'ch helpu ymdrin â'r ymarferion o waith brifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr mwy o wybodaeth a chymorth.
Yn achos o anghenion penodol, gall wasanaethau Cynhwysiad y Brifysgol roi arweiniad a chyngor addas os bydd unrhyw fyfyriwr angen addasiadau rhesymol wedi'u gwneud oherwydd bod ganddynt anabledd cyffredinol, cyflwr meddygol neu anhwylder dysgu penodol cydnabyddedig.
Rhagolygon gyrfaol
Mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yna i'ch helpu gwneud y dewisiadau ac i gynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol llwyddiannus. O chwilio am waith neu astudio pellach i weithio allan beth ydi'ch diddordebau, sgiliau a dyheadau, gallent nhw roi'r wybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol rydych angen i chi.
Mae'r rhaglen yma wedi'i dylunio er mwyn wella cyflogadwyedd myfyrwyr gan y bydd yn rhoi'r sgiliau byddent angen iddynt wrth weithio mewn arferion rhyngddisgyblaethol celf a dylunio mor amrywiol â:
- Prosiectau cydweithredol ym maes celf a Gwyddoniaeth
- Stiwdios ceramig
- Sefydliadau addysgol
- Ymchwil bellach fel astudiaethau PhD
- Cwmnïau dylunio graffig
- Corfforaethau celf gemau
- Arddangosfeydd
- Gwyliau a siarad cyhoeddus ayyb
Mae llawer o raddedigion wedi dechrau gyrfaoedd hel:
- Arlunwyr/dylunwyr hunangyflogedig
- Darlithwyr
- Darlunwyr
- Hwyluswyr anghenion arbennig
- Gwneuthurwyr prop theatraidd
- Dylunwyr gemau
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.
Llety