MRes Ymchwil Clinigol Cymhwysol
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2024
Hyd y cwrs
1 BL (LlA) 2 FL (RhA)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Ffocws
ar ymchwil clinigol a hyfforddiant i fwyhau gyrfaoedd o fewn GIC a'r sector iechyd.
Cyfuniad
perffaith o ddysgu wyneb-yn-wyneb a dysgu ar-lein.
Datblygu
sgiliau a gwybodaeth i ddilyn gyrfa ymchwil mewn meddygaeth glinigol a gofal iechyd.
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r rhaglen MRes Ymchwil Clinigol Cymhwysol wedi ei chynllunio at weithwyr proffesiynol gofal iechyd megis nyrsio, awdioleg, bydwreigiaeth, ffisiotherapi, seicoleg, radioleg a graddedigion gwyddorau meddygol sydd am gychwyn ar radd Meistr Ymchwil sy'n canolbwyntio ar iechyd a chlefydau dynol.
- Mae'r rhaglen hon yn arfogi graddedigion â'r sgiliau a'r wybodaeth bwnc-benodol sydd eu hangen i ddilyn gyrfa seiliedig ar ymchwil mewn meddygaeth glinigol a gofal iechyd.
- Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ymchwil glinigol (e.e. archwiliadau, mesur canlyniadau clinigol, gwella ansawdd, ansoddol neu feintiol), ac mae'n darparu hyfforddiant delfrydol i fyfyrwyr sydd am wella eu gyrfaoedd yn y GIG a'r sector iechyd, neu sy'n dymuno symud ymlaen wedyn i raglen PhD, neu sydd ond yn dymuno ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol (120 credyd) ar lefel gradd Meistr.
- Mae cwbhlau'r cwrs yn arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn broffesiynol, a gymeradwyir yn allanol gan y Sefydliad Gwyddor Biofeddygol (IBMS).
Prif nodweddion y cwrs
- Mae addysgu a dysgu yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol yn y labordy, trafodaethau grŵp a chyflwyniadau.
- Modiwlau a addysgir i ddatblygu dealltwriaeth o egwyddorion a chymhwysiad ymchwil sy'n berthnasol i'ch disgyblaeth a ddilynir gan broject ymchwil.
- Mae'r staff academaidd a chlinigol yn weithgar ar eu hymchwil, ac maent drwy'r amser yn ffynnu hyrwyddo ymchwil o fewn ardaloedd y gwyddorau biofeddygol a chlinigol, ble maent yn aml yn cyhoeddi eu darganfyddiadau ymchwil ac yn trafod eu gwaith mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.
- Mae dysgu cyfunol yn nodwedd o'r cwrs hwn sy'n galluogi myfyrwyr i deithio ar gyfer elfen ddysgu'r cwrs heb orfod ymrwymo i fyw yn Wrecsam neu'r ardal yn llawn amser. Mae pob modiwl ar ffurf pecyn dysgu sy'n cynnwys bloc tri diwrnod o addysgu wyneb yn wyneb wedi'i ategu gan ddysgu ar-lein. Mae'r dull hwn yn cael ei ffafrio gan gyflogwyr sy'n dymuno rhyddhau eu gweithwyr i astudio tra'n dal i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
- Mae'r cwrs wedi'i dylunio i wella cyflogadwyedd unigolion yn y datblygiad o wybodaeth cyrsiol cyfoes, sgiliau trosglwyddadwy perthnasol sydd, o ganlyniad, yn ateb y gofynion clinigol a gofal iechyd o'r boblogaeth maent yn gwasanaethu yn well.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle ar gyfer addysgu a dysgu manwl ym mhob un o'r prif ddisgyblaethau sy'n cwmpasu Gwyddor Biomeddygol, yn ogystal â fframweithiau rheoleiddio cyfredol, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a dulliau ymchwil. Bydd yr addysgu a'r dysgu yn canolbwyntio ar gemeg glinigol, y celloedd a'r histopatholeg, hematoleg a thrallwysiad yn ogystal â microbioleg ac imiwnoleg.
MODIWLAU
- Dulliau ymchwil (20 credyd)
- Archwilio'n feirniadol arfer proffesiynol yng nghyd-destun iechyd a chymdeithas (20 credyd)
- Meddygaeth glinigol: patholeg clefydau (20 credyd)
- Prosiect Ymchwil (120 credyd)
The focus of most modules will be on understanding the biology of disease, concepts underlying disease pathogenesis, and the use of current biomedical science applications in the screening, diagnosis and management of disease conditions.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Rhaid i ymgeisydd fodloni un, neu gyfuniad o'r amodau canlynol:
- Gradd anrhydedd gychwynnol o Brifysgol Wrecsam neu gorff dyfarnu graddau cymeradwy arall.
- O leiaf gradd anrhydedd 2:2, sydd â chynnwys sylweddol o faes gwyddor fiolegol (e.e. Gwyddor Biofeddygol, Bioleg Ddynol, Biocemeg, Gwyddorau Biolegol, ac ati.)
- Meddu ar brofiad gwaith perthnasol ar lefel uwch, y tybir ei fod yn gwneud iawn am y diffyg cymwysterau ffurfiol, ac fod wedi dal swydd â chyfrifoldeb rheoli yn y sectorau biofeddygol, clinigol neu ofal iechyd am o leiaf dair blynedd o fewn y pum mlynedd blaenorol. Os bydd diffyg eglurder neu angen cael mewnwelediad dyfnach i addasrwydd ymgeisydd ar gyfer y rhaglen astudio, gellir cynnal cyfweliad anffurfiol gyda'r ymgeisydd.
- Yn ogystal â'r uchod, rhaid i ymgeiswyr hefyd fod â phrofiad ymarferol yn y labordy a fyddai wedi cael ei ddatblygu eisoes drwy ymgymryd â'u rhaglen astudio israddedig â chynnwys safonau meincnod perthnasol yr ASA megis Gwyddor Biofeddygol a Gwyddorau Biolegol.
Gall darpar fyfyrwyr hefyd wneud cais am gydnabod dysgu blaenorol (RPL) yn erbyn modiwlau penodol yn unol â rheoliadau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Rhaid i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â phrosiect ymchwil (traethawd hir) sy'n golygu gweithio mewn manar wahân i'w man gwaith arferol derbyn GDG/DBS perthnasol.
Rhaid i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â phrosiect ymchwil (traethawd hir) a all fod yn gweithio gyda chleifion, pobl agored i niwed a phlant dderbyn datgeliad manylach.
Addysgu ac Asesu
Ceir fyfyrwyr eu hasesu drwy gyfres o brosiectau gwaith cwrs drwy gydol y cwrs. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau labordy, adolygiadau clinigol, cyflwyniadau poster neu lafar, astudiaethau achos, traethodau neu ymarferion trin data.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yna i'ch helpu gwneud y dewisiadau ac i gynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol llwyddiannus. O chwilio am waith neu astudio pellach i weithio allan beth ydi'ch diddordebau, sgiliau a dyheadau, gallent nhw roi'r wybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol rydych angen i chi.
Mae'r cwrs hwn yn bennaf ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol o amrywiaeth o ddisgyblaethau sy'n dymuno gwella eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn ymchwil â ffocws clinigol.
Mae ar gyfer y bobl hynny sy'n dymuno dilyn gyrfaoedd ymchwil clinigol/academaidd e.e. nyrsys ymchwil, cydlynwyr treialon clinigol a phrif ymchwilwyr. Mae'r cwrs yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr mewn ymchwil, gan ddarparu sylfaen ardderchog i fyfyrwyr sy'n dymuno mynd ymlaen i astudio ar gyfer PhD.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.
Manyleb y rhaglen
Gallwch weld manyleb gyflawn y rhaglen yma.