Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno pecyn cymorth i fynd i'r afael â'r costau byw sy'n cynyddu ac mae'n caniatáu i fyfyrwyr canolbwyntio ar eu hastudiaethau yn hytrach na phoeni am sut i fforddio angenrheidiau sylfaenol.

Bydd gan bob myfyriwr israddedig o Gymru sy'n gymwys, sydd i fod i ddechrau'r Brifysgol o fis Medi 2018, fynediad at y pecyn cyllid myfyrwyr newydd, sy'n darparu cyfanswm cyfwerth i'r Cyflog Byw Cenedlaethol trwy gymysgedd o grantiau a benthyciadau nad oes rhaid eu had-dalu.

Elfen allweddol o'r pecyn yw ei fod yn cynnig lefel llawer uwch o gymorth i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio'n rhan-amser, gan alluogi'r un cyfleoedd i israddedigion llawn amser a rhan-amser.

Y gobaith yw y bydd hyn yn annog myfyrwyr o bob cefndir i fynychu addysg uwch, gan leihau rhwystrau i'r rhai sydd eisoes mewn gwaith llawn amser, yn magu teulu neu gyda chyfrifoldebau gofal.

Pwy sy'n gymwys?

Gall pob myfyriwr israddedig sy'n astudio am y tro cyntaf (boed hynny'n amser llawn neu'n rhan-amser) fod yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol oni bai eich bod yn cychwyn eich astudiaethau o fis Medi 2018 ymlaen. Mae croeso i fyfyrwyr o Gymru wneud cais ble bynnag maent yn mynd i astudio yn y DU.

Beth rydych â hawl derbyn?

Bydd pob myfyriwr o Gymru sy'n studio ym Mhrifysgol Wrecsam yn gymwys am uchafswm o £12,590 (£10,685 os yn byw gartref), a ddarperir trwy gymysgedd o grantiau a benthyciadau. Bydd israddedigion rhan-amser yn derbyn cymorth cyfatebol, ar sail pro-rata yn seiliedig ar ddwysedd y cwrs.

Gall pob myfyriwr cymwys hawlio grant isafswm o £1,020 gan y llywodraeth. Nid oes prawf modd yn y rhan hon o'r grant felly ni fydd yn rhaid ei dalu'n ôl, beth bynnag ydi incwm eich cartref.

Mae'r gyfran ychwanegol o gyllid yn destun i brawf modd er mwyn cefnogi'r myfyrwyr hynny sydd â'r angen mwyaf am gymorth ariannol. Os ydych chi'n dod o gartref incwm isel, byddwch yn derbyn y lefel uchaf o grant. Bydd uchafswm y benthyciad yn dibynnu ar faint o grant rydych yn gymwys i dderbyn. 

Bydd y symiau hefyd yn dibynnu ar a ydych chi'n byw i ffwrdd neu yn teithio o'r cartref.

2026-2027

Byw gyda'ch rhieni
Incwm cartref Benthyciad Grant
£18,370 neu lai £3,665 £7,020
£25,000 £4,639 £6,046
£35,000 £6,108 £4,577
£45,000 £7,578 £3,107
£59,200 neu fwy £9,665 £1,020
Cyfanswm £10,685

 

 

Byw i ffwrdd o gartref rhieni ac astudio y tu allan i Lundain
Incwm cartref Benthyciad Grant
£18,370 neu lai £4,330 £8,260
£25,000 £5,505 £7,085
£35,000 £7,279 £5,311
£45,000 £9,052 £3,538
£59,200 neu fwy £11,570 £1,020
Cyfanswm £12,590

Mae'r pecyn cymorth yma yn wahanol i fenthyciad ffioedd dysgu - gallwch dal ymgeisio am hwn yn y ffordd arferol, os ydi'n berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth am gyllid myfyrwyr gan Lywodraeth Cymru ar gael yma. 

Ydi'r bethyciad yr un peth â bethyciad ffioedd dysgu?

Mae'r benthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru o 2018 wedi'u cynllunio i'ch helpu chi gyda chostau byw fel costau llety, teithio a chostau eraill.

Fodd bynnag, mae'r ffordd y caiff y benthyciadau cynnal a chadw eu had-dalu yn debyg i fenthyciadau ffioedd dysgu. Ni fydd angen i chi dalu unrhyw beth yn ôl tan ar ôl i chi raddio o'r brifysgol, a dim ond pan fyddwch wedi cyrraedd y trothwy incwm isaf.

Sut allai wneud cais?

Gall myfyrwyr o Gymru sy'n dymuno gwneud cais am y pecyn cymorth ariannol hwn wneud hynny trwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. 

Mae gwneud cais am gyllid myfyrwyr yn syml ac fe'i gwneir yn uniongyrchol trwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Gwiliwch

Sut i wneud cais am gyllid myfyrwyr - Gwyliwch y FFILM hon i ddarganfod sut i wneud cais am gyllid myfyrwyr.