Y Fframwaith Sgiliau
Mae Fframwaith Sgiliau Wrecsam wedi'i ddylunio i helpu dysgwyr i ddeall yr agweddau, priodoleddau a sgiliau y gallant eu datblygu ym Mhrifysgol Wrecsam, ac yn eu harfogi i gyflawni eu dyheadau gyrfaol a'u potensial proffesiynol. Mae cyflogadwyedd yn thema drawsbynciol sy’n treiddio trwy agweddau allweddol ar fywyd unigolyn, ei opsiynau gyrfa a’i ddewisiadau.
Mae'r Fframwaith Sgiliau yn cefnogi dysgu datblygiad gyrfa unigol, wrth i unigolion symud tuag at gyflawni eu nodau gyrfa. Mae'n rhoi strwythur i greu dysgu gydol oes, ac yn gweithio i ddiogelu graddedigion Prifysgol Wrecsam at y dyfodol wrth iddynt chwilio am ffyrdd o ddatblygu eu cyflogadwyedd.
Defnyddir y fframwaith trwy gydol taith ddysgu myfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam a thu hwnt. Mae'r Fframwaith wedi'i ymgorffori ym mhob rhaglen academaidd ac yn cael ei ddefnyddio gan wasanaethau cymorth proffesiynol i wella cymorth dysgu a chyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion.