Byw Oddi ar y Campws
MYFYRWYR
Wrth fyw oddi ar y campws, mae'n bwysig i chi ddewis eiddo sy'n ddiogel, cadarn ac wedi'i reoli'n dda.
Mae gan dîm Preswyl a Bywyd Campws Prifysgol Wrecsam cofrestr ar-lein o'r enw Student Pad ble gallwch chi chwilio am eiddo addas i'w rhentu o fewn ac o gwmpas ardal Wrecsam.
I wella ein gwasanaeth i fyfyrwyr, dim ond perchnogion wedi'u hachredu gyda thystysgrif Cynllun Achredu Perchnogion Cymru caiff eu rhestru trwy Student Pad. Cefnogwyd y Cynllun APC gan bob cyngor yng Nghymru ac mae'n hysbysebu perchnogion a gwerthwyr proffesiynol sy'n rhentu llety o ansawdd da wrth ddeall anghenion myfyrwyr a'u rhwymedigaethau fel perchnogion.
Mae'r tîm Preswyl a Bywyd Campws bob tro ar gael i roi cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr sy'n dewis byw mewn llety preifat ond mae'n bwysig cofio pan mae myfyrwyr yn rhentu eiddo, mae'r cytundeb deiliadaeth rhwng y myfyriwr a'r perchennog. Felly, dylai fyfyrwyr ceisio datrys unrhyw broblem yn syth gyda'u perchennog neu gyda'r cyngor.
I gynorthwyo gyda llety ymhellach i ffwrdd, gweler Map Rheilffyrdd Rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru. . Mae'r campws agosaf at orsaf Wrecsam Cyffredinol (gorsaf ar waelod y llinell borffor) felly gallwch weld pa ardaloedd eraill a allai fod yn hyfyw ar gyfer llety.
LANDLORDIAID
Mae gan Brifysgol Wrecsam nifer o gampysau, ac nid oes gan bob un lety ar y safle.
Os oes gennych eiddo yn Wrecsam, Llaneurgain, Llanelwy byddai gennym ddiddordeb mewn hysbysebu eich eiddo.
Gwelwch y wybodaeth isod, ond os byddwch angen rhagor o fanylion, cysylltwch ar Accommodation@glyndwr.ac.uk
Content Accordions
- BETH YW STUDENTPAD
Student Pad yw’r platfform gorau ar gyfer llety myfyrwyr, ac mae wedi bod yn helpu myfyrwyr i ganfod eu lle byw perffaith ers mwy na 23 mlynedd.
Mae Studentpad yn darparu cronfa ddata gynhwysfawr o lety preifat a llety prifysgol i fyfyrwyr, ac mae’n cael ei diweddaru’n gyson. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr allu gwneud dewis deallus gyda chyngor ymarferol, defnyddiol a hawdd ei ddeall.
Trwy wneud hyn, maen nhw hefyd yn cynnig cyfle i landlordiaid/asiantau myfyrwyr drwy Brydain gyfan hysbysebu a gwerthu eu heiddio i’r cannoedd o filoedd o fyfyrwyr sy’n ymweld â’n safle bob blwyddyn. Mae’n rhaglen rheoli eiddo ar-lein, wedi ei ddatblygu dros y 10 mlynedd diwethaf, sy’n bwerus ac yn rhad ac am ddim i landlordiaid/asiantau.
Mae Studentpad yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych am y gwasanaeth neu unrhyw rai o’r eiddo sydd wedi eu rhestru ar ein gwefannau Studentpad.
Gallwch anfon sylwadau i feedback@studentpad.co.uk
- TRWYDDED TAI AMLFEDDIANNAETH (HMO) - LANDLORDIAID
Mae’n rhaid i chi gael trwydded os ydych yn rhentu Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO) mawr yng Nghymru neu Loegr. Diffinnir eich eiddo fel HMO mawr os yw pob un o’r dilynol yn berthnasol:
- mae’n cael ei rentu i 5 neu fwy o bobl sy’n ffurfio mwy nag 1 annedd
- mae rhai o’r tenantiaid, neu bob un ohonynt, yn rhannu toiled, ystafell ymolchi neu gyfleusterau cegin
- mae o leiaf 1 tenant yn talu rhent (neu mae eu cyflogwr yn ei dalu drostynt)
- COST HYSBYSEBU - LANDLORDIAID
Dyma gost hysbysebu eiddo ar Studentpad Prifysgol Glyndŵr Wrecsam am gyfnod o 12 mis:
Dyma’r ffioedd o 1 Ebrill tan 31 Mawrth.
Codir 50% o’r gost ar y rhai sy’n gwneud cais ar ôl 31 Hydref.
Eiddo 1af (hyd at 15 ystafell wely)
£ 80.00
Pob Eiddo Ychwanegol (hyd at 15 ystafell wely)
£ 25.00
- COFRESTRU LANDLORD
I gofrestru ar Studentpad Prifysgol Glyndŵr Wrecsam - Cofrestrwch ar Studentpad
Byddwn yn derbyn hysbysiad pan fyddwch wedi cofrestru ac wedi llwytho hysbyseb am eich eiddo, yna byddwn yn gwirio eich tystysgrifau ac, unwaith y byddwch wedi talu, byddwn yn caniatáu eich hysbyseb. Yna rydym yn hysbysebu’r rhain i’n myfyrwyr.
- TALU AM HYSBYSEB
I wneud taliad am hysbyseb eiddo - Dolen talu hysbyseb eiddo