Cael blas ar fywyd yn PGW ar y diwrnod agored sydd ar ddod

Date: Dydd Lau Mawrth 2

Bydd darpar fyfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu'r holl gyrsiau gradd israddedig sydd ar gael ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) yn ystod y diwrnod agored nesaf sy'n cael ei gynnal y mis hwn. 

Bydd y digwyddiad, y cynhelir ddydd Sadwrn 18 Mawrth rhwng 10yb a 2yp, bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n edrych i gymryd eu camau nesaf mewn addysg i siarad â staff a myfyrwyr a darganfod pam roedd PGW yn safle 1af yng Nghymru a Lloegr am foddhad myfyrwyr (Canllaw Prifysgol Gyflawn 2023). 

Bydd hefyd yn rhoi cyfle i wybod mwy am gyrsiau'r brifysgol, gweld cyfleusterau a deall pa wasanaethau cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr. 

Drwy gydol y dydd, bydd sgyrsiau penodol, teithiau campws a chyflwyniadau ar sut brofiad yw astudio yn PGW, gwneud cais, cyllid a mwy. 

Dywedodd Andy Phillips, Pennaeth Recriwtio a Derbyniadau yn PGW: "Dewch i gael blas ar fywyd ac astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ein diwrnod agored nesaf, sy'n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 18 Mawrth. 

"Mae gennym gymaint i'w gynnig yn PGW - o fod yn safle 1af yng Nghymru a Lloegr am foddhad myfyrwyr, y gefnogaeth unigol rydym yn ei chynnig i'n myfyrwyr i'r gymuned gyfeillgar a bywiog yma yn y brifysgol. 

"Mae dewis lle hoffech chi astudio yn benderfyniad mawr. Mae ein diwrnodau agored yn gyfle gwych i ddarpar fyfyrwyr ddysgu mwy, cwrdd â staff a myfyrwyr presennol, yn ogystal â gofyn unrhyw gwestiynau. 

"Felly, beth am ddod draw i weld drosoch eich hun pam ddylai PGW fod yn ddewis rhif un. Archebwch eich lle trwy'r ddolen isod neu galwch heibio a throi i fyny ar y diwrnod. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod." 

Mae rhagor o wybodaeth am ddiwrnodau agored PGW ar gael yma. Gallwch archebu eich lle ar gyfer y diwrnod agored sydd i ddod yma.