Prifysgol Wrecsam yn dathlu Canlyniadau Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol rhagorol ledled y DU

Happy Students in a lecture

Dyddiad: 13 Gorffennaf, 2026

Mae Prifysgol Wrecsam wedi cofnodi canlyniadau rhagorol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026, gan sicrhau'r safle 1af sawl gwaith ledled Cymru a gweddill y DU, sy’n dangos boddhad myfyrwyr ac ansawdd addysgu rhagorol ar draws ystod eang o feysydd pwnc proffesiynol.

Ymhlith y pynciau ym Mhrifysgol Wrecsam a sgoriodd 1af yn y DU am foddhad myfyrwyr mae'r Gwyddorau Milfeddygol, Cyfrifiadureg, Cymdeithaseg (Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Plismona Proffesiynol), a Gwaith Cymdeithasol.

Fel rhan o'r arolwg, gofynnir i bob myfyriwr israddedig blwyddyn olaf ledled y DU ateb amrywiaeth o gwestiynau, fel 'Pa mor dda y mae staff addysgu'n esbonio pethau?' a 'Pa mor aml y mae'r cwrs yn ddeallusol ysgogol?' sy'n cynnig iddynt y cyfle i fynegi eu barn am eu prifysgol, yr addysgu a'r asesu yno, a'r cymorth academaidd maent wedi’i gael.

Bu i fyfyrwyr sgorio Prifysgol Wrecsam yn uchel am yr addysgu, y cymorth academaidd, y cyfleoedd dysgu, a'r boddhad cyffredinol, gyda sawl pwnc yn llwyddo i gyrraedd y brig yn genedlaethol.

Ymhlith y pynciau eraill a sgoriodd 1af yng Nghymru am foddhad myfyrwyr mae Nyrsio Iechyd Meddwl, Cymdeithaseg (Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Plismona Proffesiynol), Milfeddygaeth, Cyfrifiadureg, a Gwaith Cymdeithasol.

Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Mae'r canlyniadau hyn yn amlygu ymrwymiad Prifysgol Wrecsam i addysgu o ansawdd, cymorth rhagorol i fyfyrwyr, a phrofiadau dysgu cadarnhaol ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc. Mae'r brifysgol yn parhau i adeiladu ar ei henw da am ragori wrth ddarparu dysgu cymhwysol, partneriaethau cymunedol cryf, a chanlyniadau rhagorol i ddysgwyr ledled gogledd Cymru a thu hwnt. Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad cydweithwyr sy'n gweithio o ddydd i ddydd i gyflawni rhagoriaeth ar gyfer ein myfyrwyr, ein partneriaid a'n cymunedau.”

Ar y Brig i Arwain y Sector

Llwyddodd Prifysgol Wrecsam i gyrraedd y safle 1af ar draws sawl maes pwnc a thema, gan gynnwys:

  • Gwyddorau Milfeddygol – Cymorth Academaidd (DU)
  • Cyfrifiadureg – Addysgu ar fy Nghwrs (DU)
  • Cyfrifiadureg – Cymorth Academaidd (DU)
  • Cymdeithaseg (Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Plismona Proffesiynol) – Cymorth Academaidd (Cydradd 1af DU)
  • Gwaith Cymdeithasol – Cymorth Academaidd (Cydradd 1af DU)

Ar draws prifysgolion Cymru, sicrhaodd Prifysgol Wrecsam y safle 1af yn y canlynol:

  • Nyrsio Iechyd Meddwl – Addysgu ar fy Nghwrs
  • Gwyddorau Milfeddygol – Addysgu ar fy Nghwrs
  • Gwyddorau Milfeddygol – Cyfleoedd Dysgu
  • Gwyddorau Milfeddygol – Boddhad Cyffredinol
  • Cyfrifiadureg – Cyfleoedd Dysgu
  • Cyfrifiadureg – Boddhad Cyffredinol
  • Cymdeithaseg (Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Plismona Proffesiynol) – Cyfleoedd Dysgu
  • Cymdeithaseg (Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Plismona Proffesiynol) – Boddhad Cyffredinol
  • Gwaith Cymdeithasol – Addysgu ar fy Nghwrs
  • Gwaith Cymdeithasol – Cyfleoedd Dysgu
  • Gwaith Cymdeithasol – Boddhad Cyffredinol

Llwyddodd Prifysgol Wrecsam i sicrhau sawl 2il safle hefyd, gan gynnwys:

  • Gwyddorau Milfeddygol – Addysgu ar fy Nghwrs (DU)

Ledled Cymru:

  • Ffisiotherapi – Boddhad Cyffredinol
  • Ffisiotherapi – Addysgu ar fy Nghwrs
  • Nyrsio Plant – Addysgu ar fy Nghwrs
  • Seicoleg – Addysgu ar fy Nghwrs
  • Cymdeithaseg (Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Plismona Proffesiynol) – Addysgu ar fy Nghwrs

3ydd Safle Cadarn

Ledled Cymru:

  • Nyrsio Plant – Boddhad Cyffredinol
  • Nyrsio Oedolion – Boddhad Cyffredinol
  • Nyrsio Oedolion – Addysgu ar fy Nghwrs
  • Gemau Cyfrifiadurol ac Animeiddio – Boddhad Cyffredinol
  • Gemau Cyfrifiadurol ac Animeiddio – Addysgu ar fy Nghwrs
  • Gemau Cyfrifiadurol ac Animeiddio – Cymorth Academaidd