Clipiau corff-gamerâu yr heddlu i gael eu craffu gan y panel myfyrwyr gyda'r nod o wella atebolrwydd yr heddlu

Wrexham policing students

Dyddiad: Gorffennaf 8, 2026

Bydd myfyrwyr Prifysgol Wrecsam yn cyfrannu at atebolrwydd yr heddlu drwy gymryd rhan mewn Panel Craffu Myfyrwyr newydd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru.

Mae'r panel yn dwyn ynghyd fyfyrwyr o Blismona, Troseddeg, Seicoleg, Gwyddoniaeth Fforensig, Nyrsio Iechyd Meddwl a'r Gyfraith, a fydd yn cyfarfod teirgwaith y flwyddyn i adolygu clipiau corff-gamerâu go iawn o ddigwyddiadau heddlu a rhoi adborth ar ansawdd y plismona.

Bydd eu mewnwelediadau'n cael eu rhannu'n uniongyrchol â Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd ag adborth gan baneli ymgysylltu cymunedol eraill, gyda'r nod o ategu gwell tryloywder ac atebolrwydd ar draws arferion plismona'r rhanbarth.

Ar hyd a lled gogledd Cymru, mae plismona'n destun sawl trefniant craffu annibynnol a luniwyd i sicrhau tegwch, tryloywder a hyder cyhoeddus. Mae paneli craffu'n archwilio pwerau gweithredol yr heddlu megis stopio a chwilio a defnyddio grym, gan sicrhau y cânt eu defnyddio'n deg, yn gymesur ac yn gyfreithlon.

Dywedodd Andy Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Plismona, Troseddeg a'r Gyfraith ym Mhrifysgol Wrecsam: “Mae Panel Craffu Myfyrwyr y Brifysgol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu'n uniongyrchol ag enghreifftiau go iawn o weithgarwch heddlu. Drwy'r panel, bydd myfyrwyr yn adolygu clipiau fideo di-enw a wisgir ar y corff sy'n berthnasol i ddigwyddiadau'n ymwneud â phwerau'r heddlu megis defnyddio grym.

“Gall digwyddiadau gynnwys amgylchiadau lle mae'r heddlu o bosib wedi gorfod defnyddio cyffion yn ystod arestiad neu wedi rhoi tactegau arbenigol ar waith fel defnyddio gwn taser. Diben y craffu yw archwilio a yw pwerau'r heddlu wedi'u defnyddio'n briodol, yn ogystal â darparu safbwyntiau cymunedol gwerthfawr sy'n gallu llywio arferion plismona.

Mae'r fenter hefyd yn cynnig cyfle dysgu pwysig i fyfyrwyr, gan eu galluogi i ddatblygu meddwl beirniadol, sgiliau dadansoddol a dealltwriaeth o atebolrwydd o fewn gwasanaethau cyhoeddus. Drwy ddod â gweithwyr plismona proffesiynol a myfyrwyr ynghyd o amrywiol gefndiroedd academaidd, mae'r panel yn ceisio atgyfnerthu'r berthynas rhwng y Brifysgol a chymunedau lleol wrth gefnogi didwylledd a hyder cyhoeddus mewn plismona.”

Mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn Plismona Proffesiynol, Troseddeg, y Gyfraith, Gwyddoniaeth Fforensig, Nyrsio Iechyd Meddwl a Seicoleg Droseddol. Mae Clirio nawr ar agor ar gyfer lleoedd ar y cyrsiau sy'n dechrau yn nhymor yr Hydref 2026.

Dysgwch ragor yma.

 

Wrexham policing students

Stori Joshua

Mae Joshua, 23, yn heddwas gyda Heddlu Gogledd Cymru, ac mae wedi'i leoli yn Sir y Fflint. Cwblhaodd ei radd mewn Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2024, ac mae'n rhoi cydnabyddiaeth iddi am ei helpu i sicrhau ei rôl bresennol.

"Roeddwn yn gwybod erioed fy mod i eisiau bod yn heddwas, ond pan oeddwn yn iau, roeddwn yn meddwl mai dim ond gyrru ar wib gyda'ch goleuadau glas yn fflachio oedd plismona. Fodd bynnag, dw i wedi dod i ddeall bod y rôl yn golygu helpu pobl, a gwneud penderfyniadau mewn amgylchedd sy'n newid drwy'r adeg ac sydd bob amser yn heriol.

"Mae'r heddlu'n helpu'r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas, a phan rydym yn gallu gwneud hynny, mae wir yn teimlo eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth a pham mae'r swydd yn teimlo'n werth chweil.

“Helpodd y Radd Plismona Proffesiynol yn Wrecsam i fy mharatoi ar gyfer y rôl hon. Dw i'n wreiddiol o Gaernarfon, mae fy nheulu cyfan yng ngogledd Cymru, a dw i'n siaradwr Cymraeg, felly Prifysgol Wrecsam oedd fy ffefryn o bell ffordd. Roedd yn teimlo'n fwy cartrefol na'r lleill y bues i'n ymweld â nhw. Roeddwn yn hoffi'r ffaith ei bod yn brifysgol lai, ac y byddem yn cael ein haddysgu gan gyn-heddweision.

“Rhywbeth a bwysleisiodd y radd arnaf oedd pa mor bwysig yw archwilio troseddau'n drylwyr, nid dim ond neidio o un sefyllfa i'r llall. Mae'n rhoi llawer mwy o bersbectif academaidd i'r rôl blismona. Y dyddiau hyn, mae llawer mwy o atebolrwydd ar gyfer gweithredoedd yr heddlu, felly mae deall eich pwerau, o ble daw'r pwerau hynny, pam eu bod nhw'n bwysig, deall pam ei bod yn bwysig delio a thasgau'n drwyadl, a gwneud eich gwaith papur yn drwyadl, yn hanfodol. Ni chewch hynny gymaint mewn hyfforddiant plismona gweithredol. Ar y cwrs gradd, rydych yn dysgu'r safonau sy'n ddisgwyliedig yn yr heddlu o'r cychwyn cyntaf. Yn ogystal, oherwydd aseiniadau, rydych yn dysgu sut i ysgrifennu'n feirniadol, sut i ysgrifennu'n fanwl, a sut i ysgrifennu'n broffesiynol.

"Cawsom ein haddysgu hefyd am ddeall pethau fel bregusrwydd, trawma, ymarfer sy'n ystyriol o drawma a'r ochr academaidd o blismona. Bu'r radd o gymorth hefyd i mi ddatblygu sgiliau fel meddwl yn y fan a'r lle, siarad gyda phobl, a chymryd rhan mewn cyfweliadau, a'm helpodd fi i sicrhau fy swydd hyfforddiant.

“I unrhyw un sy'n ystyried astudio'r radd i ddilyn gyrfa gyda'r heddlu, buaswn 100% yn ei hargymell.

"Dw i'n mwynhau pob un eiliad o fod yn heddwas. Pob un eiliad.”

Mae lleoedd ar gael ar gyfer y Radd Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol Wrecsam sy'n dechrau ym mis Medi 2026. Dysgwch fwy yma.