Staff Prifysgol Wrecsam yn mwynhau Eisteddfod Llangollen

Wrexham University staff take part in the Parade of Nations at the Llangollen Eisteddfod

Dyddiad: Gorffennaf 17, 2026

Roedd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn lleoliad perffaith i staff Prifysgol Wrecsam ddathlu eu llwyddiant ar gwrs dysgu Cymraeg Gwaith.

Derbyniodd aelodau staff dystysgrifau i gydnabod eu cynnydd wrth ddysgu Cymraeg, cyn teithio i Langollen i gymryd rhan ym Mhared y Cenhedloedd – gorymdaith liwgar o gyfranogwyr yr ŵyl, noddwyr a sefydliadau lleol.

Mae Prifysgol Wrecsam yn un o noddwyr swyddogol yr Eisteddfod, a threuliodd staff o amrywiaeth o adrannau'r wythnos yn ymgysylltu ag ymwelwyr yr ŵyl er mwyn tynnu sylw at waith y Brifysgol, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.

Dywedodd Elen Mai Nefydd, Dirprwy Is-ganghellor Cysyltiol (Iaith Gymraeg, Treftadaeth a Diwylliant) ym Mhrifysgol Wrecsam:

“Rydym yn falch iawn o noddi Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae'n garreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad i ddathlu, hyrwyddo a chefnogi treftadaeth a diwylliant Cymru, yn ogystal â dod â chymunedau o bob cwr o'r byd ynghyd.

"Cafodd Prifysgol Wrecsam wythnos wych yn yr Eisteddfod, gan gwrdd â chyfranogwyr ac ymwelwyr o bob rhan o’r byd a phrofi’r awyrgylch unigryw sy’n gwneud y digwyddiad hwn mor arbennig. Rydym yn falch o gefnogi digwyddiad sy’n dod â phobl ynghyd drwy ddiwylliant, iaith a’r celfyddydau, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ymhellach ar y bartneriaeth hon a chydweithio ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn y blynyddoedd i ddod.”

Wrexham University staff who took part in a Welsh at Work language courseStaff Prifysgol Wrecsam sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg fel rhan o'r fenter Cymraeg yn y Gwaith