Bydd ymddangosiad darlithydd plismona ar raglen ddogfen troseddau go iawn yn helpu i daflu goleuni ar lofruddiaeth dyn o Wrecsam
.png)
Dyddiad: Tachweddn 27, 2026
Bydd cyn-dditectif heddlu Gogledd Cymru sydd bellach yn gweithio fel Uwch Ddarlithydd Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol Wrecsam yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen newydd sy'n taflu goleuni ar achos dyn a gafodd ei lofruddio yn 2013.
Yn ystod ei gyfnod o 30 mlynedd gyda Heddlu Gogledd Cymru, chwaraeodd Andrew Crawford ran allweddol mewn sicrhau euogfarn y dyn a lofruddiodd Craig Maddocks mewn tafarn yn Wrecsam, a bydd yn ymddangos ochr yn ochr ag aelodau o deulu Craig yn Forensics: Catching the Killer, ar Sky Crime a NOW TV ar 17 Rhagfyr.

Yn gynharach eleni, bu'r cynhyrchwyr rhaglenni dogfen, True North, mewn cysylltiad ag Andrew, sy'n addysgu Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol Wrecsam ers deng mlynedd. Roeddent eisiau archwilio'r ymchwiliad cymhleth a arweiniodd at lofrudd Craig yn cael ei euogfarnu yn ogystal â chyflwyno'r stori i gynulleidfa newydd.
"Treuliais 30 mlynedd gyda Heddlu Gogledd Cymru mewn amrywiaeth o swyddi," dywedodd Andrew. "Dechreuais fy ngyrfa fel plismon ar y rheng flaen, yna es ymlaen i weithio fel y swyddog heddlu pentref ym Mrychdyn, a threuliais 15 mlynedd olaf fy ngyrfa fel ditectif, lle'r oeddwn yn ymchwilio i achosion o lofruddio, herwgydio, treisio gan ddieithriaid a throseddau cymhleth a difrifol eraill.
"Fi oedd y prif gyfwelydd ar gyfer tua 90 o bobl dan amheuaeth o lofruddio. Roedd achos Craig Maddocks yn un cofiadwy gan fod y llofruddiaeth yn un dreisgar iawn, ac eto cyflwynodd y troseddwr ei hun yn syth ar ôl y llofruddiaeth, a thrwy gydol ei amser yn nalfa'r heddlu, fel person hynaws a thawel.
"Mae cryn dipyn o amser wedi mynd heibio, ond nid yw'r manylion yn eich gadael oherwydd bu'n rhaid i ni frwydro mor galed i gael cyfiawnder i'r dioddefwr.”
Dyma'r ail raglen ddogfen troseddau go iawn i Andrew gymryd rhan ynddi; roedd y gyntaf yn 2025 yn cynnwys achos Ermatati "Tati" Rodgers, gwladolyn 41 oed o Indonesia a gafodd ei lofruddio gan gydweithiwr yn 2008.
"Roeddwn yn teimlo'n nerfus ynghylch cymryd rhan yn y rhaglenni dogfen", meddai Andrew. "Rwyf wedi treulio'r rhan fwyaf o'm gyrfa yn ceisio osgoi cyhoeddusrwydd a'r cyfryngau, ond credaf ei fod yn bwysig nad yw dioddefwyr y troseddau hyn yn cael eu hanghofio, a bod y cyhoedd yn deall pa mor gymhleth ac anodd mae'r daith yn gallu bod ar brydiau i gael cyfiawnder.
"Ynghyd â chyn swyddogion a swyddogion presennol yr heddlu, rwy'n addysgu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar gyrsiau Plismona Proffesiynol Prifysgol Wrecsam, a chredaf ei fod yn gyfle da i'n myfyrwyr ac unrhyw ddarpar fyfyrwyr weld y gwahaniaeth y gall gwaith ditectif diwyd ei wneud i ganlyniad achos.”
Dysgwch ragor am y Radd Plismona Proffesiynol yn Wrecsam yma.
.png)