Graddedig o Wrecsam yn ennill gwobr Nyrs Fyfyriwr Cymreig y Flwyddyn

Dyddiad: Tachwedd 26. 2026
Mae un o fyfyrwyr graddedig Prifysgol Wrecsam wedi ennill y Wobr Myfyriwr Nyrsio'r Flwyddyn ar gyfer Cymru.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae myfyriwr o gampws Llanelwy'r Brifysgol wedi dod yn fuddugol o blith ymgeiswyr ledled y wlad i ennill Gwobr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru sy'n cydnabod cyflawniad rhagorol yng ngweithlu nyrsio Cymru.
Graddiodd Hayley Roberts, 37, o Gonwy, eleni gyda Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Nyrsio Oedolion, a chafodd ei henwebu am y wobr gan yr Hwylusydd Addysg Ymarfer, Mark Quilter, a chanodd ei chlodydd am ei rhagoriaeth academaidd, ei hymroddiad i ofal a diogelwch cleifion, a'i rolau fel arweinydd myfyrwyr a chynrychiolydd ar gyfer ei grŵp.
Aeth Hayley â'i mam i'r seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd i ddiolch iddi am 'ei chefnogaeth a'i hanogaeth werthfawr' drwy gydol ei hyfforddiant. Fodd bynnag, nid oedd hi'n disgwyl ennill mewn gwirionedd.
"Roeddwn i'n ddiolchgar iawn bod Mark wedi cymryd yr amser i'm henwebu i," meddai Hayley.
"Roedd cael fy rhoi ar restr fer y rownd derfynol yn gyflawniad ynddo'i hun. Nid oeddwn i wedi meddwl am eiliad y buaswn yn mynd ymlaen i ennill y wobr.
"Cefais sioc go iawn pan gafodd fy enw ei gyhoeddi. Roeddwn i'n crynu wrth i mi wneud fy ffordd i'r llwyfan. Roedd yn adeg llawn balchder ac yn ffordd hyfryd o nodi diwedd fy nhaith fel myfyriwr nyrsio a dechrau fy ngyrfa fel nyrs gofrestredig.”
.jpeg)
Hayley Roberts yn y seremoni gyda'i mam
Dywedodd Alison Lester-Owen, Prif Ddarlithydd Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam: "Rydym ni'n falch iawn o Hayley ac wrth ein bodd ei bod wedi cael y gydnabyddiaeth hon. Rydym yn dymuno'n dda i Hayley wrth iddi symud ymlaen â'i gyrfa fel nyrs gofrestredig, ac rydym yn falch ein bod wedi bod yn rhan o'i thaith.”
Mae Hayley wedi sicrhau gwaith ar y ward anadlol yn Ysbyty Glan Clwyd, ac mae'n dweud mai'r penderfyniad i ddychwelyd i addysg fel myfyriwr aeddfed oedd yr un gorau iddi ei wneud erioed.
"Roedd astudio yn Llanelwy yn berffaith i mi gan fy mod felly'n gallu astudio yn fy ardal leol, ac roedd y tiwtoriaid yn rhagorol," meddai Hayley.
"Mae fy hyfforddiant wedi fy herio, fy llywio a fy ngwneud i'n fwy pendant fyth mai nyrsio yw'r yrfa i mi. Mae ennill y wobr hon wedi rhoi hyder i mi wrth i mi fentro ar fy ngyrfa fel nyrs gofrestredig ac mae'n fy atgoffa i ddal ati i ymdrechu i fod y math o nyrs rwyf eisiau bod, eirioli dros fy nghleifion a chefnogi'r bobl sydd o'm cwmpas.
"Mae nyrsio'n broffesiwn sy'n gallu agor cymaint o ddrysau ac mae'n cynnig amrywiaeth lu o gyfleoedd, felly rwy'n gobeithio y bydd fy nhaith yn annog pobl eraill sydd efallai'n ystyried gyrfa yn y byd nyrsio yn ddiweddarach mewn bywyd. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i ddilyn rhywbeth rydych chi'n angerddol drosto.”
Mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig cymwysterau nyrsio Israddedig ac Ôl-raddedig ar draws ei safleoedd yn Llanelwy a Wrecsam, lle mae cyrsiau'n dechrau ym mis Mawrth a mis Medi. Mae opsiynau wedi'u hariannu'n llawn ar gael. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.