Cofrestru

Mae cofrestru ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd yn broses ar-lein ac mae'n rhaid i chi gwblhau eich ailgofrestru i sicrhau, os yw'n berthnasol, bod hysbysiad yn cael ei roi i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr fel y gellir gwneud unrhyw fwrsariaethau neu daliadau.

Ceir pob gohebiaeth a wneir i chi ei gwneud drwy eich prif gyfeiriad e-bost myfyriwr.

Gofynnwn i chi sicrhau bod eich holl fanylion yn gyfredol er mwyn gwarantu y bydd y wybodaeth berthnasol yn hygyrch i chi yn y dyfodol. Gwiriwch eich cofnod myfyriwr a'i ddiweddaru os oes angen.

Sylwch fod yn rhaid i chi ailgofrestru bob blwyddyn academaidd a bod yn rhaid i'ch taliadau ffioedd fod yn gyfredol. Ni chaniateir i fyfyrwyr sydd â dyledion ariannol o'r flwyddyn academaidd flaenorol ailgofrestru. Nid yw eich cofrestriad wedi'i gwblhau'n llawn nes bod yr holl ffioedd sy'n ddyledus ar gyfer y flwyddyn yn cael eu talu.

Gallwn gadarnhau, ar ôl ailgofrestru'n llwyddiannus gyda'r Brifysgol, y byddwn yn hysbysu Cyllid Myfyrwyr yn awtomatig gyda'r wybodaeth eich bod wedi cofrestru. Ar gyfer myfyrwyr amser llawn, yna gall gymryd rhwng 3-5 diwrnod gwaith ar ôl cofrestru i chi dderbyn eich arian. I fyfyrwyr rhan amser gall gymryd hyd at 14 diwrnod.

Pryd byddaf yn derbyn cais am le ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd? 

Bydd cais e-bost yn cael ei anfon atoch cyn dyddiad dechrau'r flwyddyn academaidd newydd i'ch galluogi i ailgofrestru ar-lein.   

Dyddiadau Cwrs

Bydd myfyrwyr sy'n dychwelyd yn dechrau ar y wythnos sy'n cychwyn Medi 30 2024.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, gwiriwch amserlen eich cwrs drwy'r MyUniPortal. Mae'n bosib y bydd amserlenni'r cyrsiau'n newid ac mae'n bosib ceir newidiadau eu gwneud yn agos i bryd byddwch chi'n dychwelyd felly gwiriwch yr amserlenni'n rheolaidd rhag ofn y bydd newidiadau.

Beth os ydw i'n aros am benderfyniad gan fwrdd asesu dros yr haf? 

Os ydych yn aros am ailasesiad ar ôl yr haf, bydd yr e-bost gwahodd cofrestru yn dilyn eich bwrdd asesu. 

Cardiau Adnabod Myfyriwr

Byddwch angen cadw eich cardiau adnabod myfyriwr er mwyn eu defnyddio o flwyddyn i flwyddyn ac ni fyddem yn eu hail-argraffu (oni bai mewn achosion o gardiau a gollwyd neu a ddifrodwyd). Os rydych angen cerdyn newydd, gyrrwch e-bost i learningresources@wrexham.ac.uk.

Llety

Gall myfyrwyr sy'n dychwelyd wneud cais i fyw yn ein llety, Pentref Myfyrwyr Wrecsam. Gallwch edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth. Mae ein tîm llety wrth law os oes angen unrhyw gymorth arnoch a gellir cysylltu â nhw ar accommodation@wrexham.ac.uk 

 Os penderfynwch symud i lety preifat yn eich ail neu drydedd flwyddyn y brifysgol, gallwch ddod o hyd i'r llety eich hun neu ddefnyddio ein chwiliad llety ar-lein.