Cipolwg ar gredoau, agweddau ac ymddygiadau ynghylch defnyddio canabis yng Nghymru
Mae staff Prifysgol Wrecsam (Prof. Wulf Livinston, Prof. Iolo Madoc-Jones, Helena Barlow) wedi arwain ar brosiect ymchwil ansoddol sy'n archwilio credoau, agweddau ac ymddygiadau ynghylch defnyddio canabis yng Nghymru.
Dyfarnwyd y prosiect a arweiniwyd gan Wulf Livingston, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac fe’i cynhaliwyd mewn partneriaeth â staff o Brifysgol Caerfaddon. Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar ddata ansoddol a gasglwyd trwy arolygon a chyfweliadau, gyda'r rhai sydd wrthi’n defnyddio canabis yng Nghymru. Adroddodd ar eu harferion defnyddio canabis, cymhellion a gwobrau o wneud hynny, eu pryderon canfyddedig ynghylch defnyddio canabis, ac ystyriaethau ynghylch negeseuon lleihau niwed posibl. Archwiliodd hefyd y berthynas rhwng y defnydd o ganabis a thybaco. Cynhaliwyd y prosiect rhwng 2023 a 2024.