Dinasydd(ion) Ecolegol

Mae’r prosiect Dinasyddion Ecolegol yn fenter gydweithredol dan arweiniad y Coleg Celf Brenhinol (RCA), ochr yn ochr â Sefydliad Amgylchedd Stockholm Prifysgol Efrog a Phrifysgol Wrecsam.
Mae’r prosiect hwn yn werth miliynau o bunnoedd a chaiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) UKRI. Nod y prosiect yw gwireddu effaith drawsnewidiol technolegau digidol ar agweddau ar fywyd cymunedol, profiadau diwylliannol, cymdeithas y dyfodol a’r economi.
Yr Athro Alec Shepley, sef Athro’r Celfyddydau a’r Gymdeithas, yw Cyd-ymchwilydd y prosiect ac ef sy’n arwain tîm prosiect Prifysgol Wrecsam.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y dudalen we Ecological Citizen(s).