Ionawr 2022

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn cyfrannu’n aruthrol at economi’r DU, gyda’r rhan fwyaf o enillion ariannol yn cael eu creu gan weithwyr y sector creadigol. Fodd bynnag, mae cerddorion y DU yn aml yn adrodd eu bod yn ennill llai na chyflog gwaith proffesiynau eraill. Credir bod y dulliau datblygedig o wrando ar gerddoriaeth, megis ffrydio ar Spotify, yn cyfrannu at sefyllfaoedd gwaith heriol gan fod y cerddorion yn derbyn cyfran anghyfartal mewn elw. Mae diffyg cefnogaeth y llywodraeth yn gwaethygu’r mater ymhellach, sydd wedi bod yn fwyfwy amlwg yn ystod y pandemig COVID19, lle’r oedd y rheini ym mhroffesiynau’r diwydiant creadigol ymhlith y rhai a gafodd eu taro galetaf yn ariannol oherwydd cau theatrau a chanslo gigs.

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Metropolitan Manceinion, bu’r tîm yn cyfweld â cherddorion cyn ac yn ystod anterth y pandemig COVID19 i ymchwilio i’r heriau a wynebwyd ganddynt o fewn eu cyflogaeth fel cerddorion.Can you add some more detail on the findings, please, as I can’t access full text book. Keep in mind ‘why does it matter to a website visitor and why it is important?’.    

Eisiau darganfod mwy? Mae'r astudiaeth hon gan Jason Woolley a Fiona Christie ym Mhennod 9 yn y llyfr Decent Work: Opportunities and Challenges (2021)