Y cylchgrawn llesiant newydd ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam a Sir y Fflint y Genhadaeth Ddinesig, yn gweithio tuag at adferiad cymunedol ar ôl COVID.

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o helpu’r gymuned leol drwy ein gwaith Cenhadaeth Ddinesig. Rydym yn cydweithio’n helaeth â Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus Wrecsam, Sir y Fflint, Conwy, Sir Ddinbych, Ynys Môn a Gwynedd, a gyflwynwyd i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, a diwylliannol poblogaethau’r ardaloedd hynny. Roedd angen i’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus arddangos eu hasesiad a chynllun adferiad cymunedol ar ôl COVID. Camodd y tîm Cyfathrebu Dylunio i’r adwy gyda myfyrwyr Dylunio Graffeg a Darlunio ail flwyddyn i greu’r cylchgronau hardd, ysbrydoledig, hyn.  Roedd y cyntaf yn 2021 a’r ail yn 2022.

Mae cyd-brosiect adfer y cylchgrawn cyntaf yn mynd i’r afael â phedair thema Wrecsam a Sir y Fflint: Plant a Phobl Ifanc, yr Amgylchedd a Charbon, Iechyd Meddwl a Llesiant, a Thlodi ac Anghydraddoldeb. Mae’r cylchgrawn yn amlinellu sut fydd y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus yn meithrin diwylliant Presgripsiynu Cymdeithasol hyderus drwy hyfforddiant, datblygiad ac adnoddau, a thrwy ddatblygu system ddibynadwy o gyngor, gwybodaeth ac arweiniad sy'n bodloni anghenion pobl ifanc. Canolbwynt arall yw gwella mannau gwyrdd yn y gymuned a lleihau carbon, fel prosiect Seilwaith Gwyrdd y tîm Iechyd Cyhoeddus. Gallwch ddarllen y cylchgrawn llawn ar wefan Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Wrecsam drwy glicio ar ‘prosiect adfer ar y cyd’. 

Roedd yr ail gyhoeddiad yn canolbwyntio mwy ar Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus Conwy, Sir Ddinbych, Ynys Môn a Gwynedd, a’r materion mewn perthynas â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, lle mae’r gyfraith yn ein helpu i gydweithio â’n gilydd er mwyn gwella ein hamgylchedd, ein diwylliant, ein cymdeithas a’n heconomi.