Prosiectau ymchwil myfyrwyr gyda ffocws ar gymuned leol Wrecsam.

Mae’r tîm Dylunio Cyfathrebu yn manteisio ar bob cyfle i blethu ymchwil ag addysgu drwy gynnwys myfyrwyr mewn prosiectau cymunedol, datblygu eu sgiliau a gwella cysylltiadau gyda rhanddeiliaid lleol. 

Arddangosfa 8 Stryd

Wrth weithio â myfyrwyr Dylunio Graffeg ail flwyddyn, datblygodd y tîm arddangosfa ar gyfer iard flaen Amgueddfa Wrecsam ym mis Tachwedd 2020. Gwnaethant gynhyrchu 9 panel maint A0 a oedd yn tynnu sylw at wyth stryd yn Wrecsam.

Prosiect Holt

Wrth weithio â myfyrwyr Dylunio Graffeg blwyddyn gyntaf, aeth y tîm ati i weithio gyda Chymdeithas Hanes Lleol Holt, Amgueddfa Wrecsam, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru i greu arddangosfa ar Dreftadaeth Rufeinig y rhanbarth ym mis Chwefror 2021. Enillodd yr arddangosfa'r wobr “Rhagoriaeth ar Brosiect Arddangosfa, Arddangos neu Ddehongli” yng Ngwobrau Blynyddol Cymdeithas Archaeoleg yr Amgueddfa yn 2021.

Prosiect Lego

Ym mis Chwefror 2022, aeth myfyrwyr Dylunio Graffeg ail flwyddyn ati i helpu Amgueddfa Wrecsam gyda’r arddangosfa “Brics Bychain”, a oedd yn cynnwys y bric adeiladu tegan poblogaidd, LegoTM. Mae’r myfyrwyr yn cymhwyso eu gwybodaeth a’i sgiliau mewn perthynas â ffurfdeip modiwlaidd, ymgymryd â heriau dwyieithrwydd, ysgrifennu sgriptiau, cynhyrchu byrddau stori, golygu, a defnyddio realiti estynedig.