Ar ôl sicrhau cyllid grant gan y Sefydliad Gwaddol Addysgol, cynlluniodd a chyflwynodd Sue Meeke-Smith o Addysg ac Abigail Schwarz (cyn aelod o'r tîm Addysg) raglen gyda'r nod o gefnogi plant (yn enwedig y rhai â sgiliau/hyder llafaredd isel) i ddatblygu dealltwriaeth fathemategol gan ddefnyddio stori.

Drwy ddatblygu iaith lafar yn ystafell ddosbarth Blwyddyn 1, roedd plant yn cysylltu iaith anffurfiol â chysyniadau mathemategol i gefnogi dealltwriaeth gysyniadol yn ogystal â datblygu sgaffaldau ar gyfer cyfathrebu’n fathemategol. Nod y rhaglen oedd galluogi ymarferwyr i gynllunio a defnyddio straeon mewn sesiynau mathemateg i gefnogi dealltwriaeth gysyniadol.  

Drwy gynllunio ar gyfer datblygu llafaredd ac archwilio sut i integreiddio siarad ystyrlon i ddilyniannau dysgu, anogwyd disgyblion i ddatblygu hyder wrth gyfathrebu dealltwriaeth fathemategol, gan gysylltu cyd-destunau stori cyfarwydd â chysyniadau mathemategol haniaethol.

Mae’r tîm wedi llwyddo i gyflwyno’r prosiect i grŵp o bum ysgol yn y Gogledd Orllewin ac maent bellach yn gweithio ar yr adroddiadau terfynol.