Ym Mhrifysgol Wrecsam, mae darparu Addysg eithriadol yn un o'n gwerthoedd craidd. Rydym yn sefydliad sy’n ymroddedig i ragoriaeth addysgu a dysgu, a gynrychiolir yn yr ymchwil a wnawn a gan yr ystod eang o ymchwilwyr ar draws y Brifysgol sydd â diddordeb mewn Addysg.

O fewn Addysg, rydym yn canolbwyntio ar waith hanfodol gyda phobl ifanc mewn ysgolion ac addysg uwch, sy'n cyd-fynd â'r BA ac MA mewn Addysg a gynigiwn. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar faterion sylfaenol o fewn dysgu ond mae gennym wybodaeth arbenigol mewn defnyddio ymchwil addysgeg i helpu gweithwyr proffesiynol a'r gymuned leol. Rydym o blaid Strategaeth Genedlaethol Ymchwil ac Ymholiad Addysgol (NSERE) Llywodraeth Cymru a chredwn y dylai pob polisi ac arfer addysgol gael ei lywio gan y dystiolaeth ymchwil orau sydd ar gael.

Mae’r Tîm Addysg hefyd yn ymwneud â phrosiectau ymchwil cymunedol o dan ein hymbarél Cenhadaeth Ddinesig, megis gwerthuso ein Prifysgol Plant wych a chanolfan adferiad COVID19.

Ymchwil

Content Accordions

Cwrdd â'r Tîm