Mae’r Cwricwlwm newydd yng Nghymru yn cynnig lefel ddigynsail o ymreolaeth i ymarferwyr wrth iddynt drefnu ac adeiladu eu cwricwlwm eu hunain er mwyn diwallu anghenion eu dysgwyr. Er mwyn eu cefnogi yn eu hymgais i lwyddo wrth wneud hyn, mae’r Cwricwlwm newydd yn cynnig fframwaith ategol i ymarferwyr, gan fynegi pethau fel beth ddylai nod cyffredinol eu cwricwlwm fod, yr egwyddorion y dylent eu defnyddio i helpu i lunio profiadau dysgu pwerus, a’r math o brofiad dysgu a’r cynnydd datblygiadol y dylai ymarferwyr anelu i’w hyrwyddo i’r dysgwyr. Fodd bynnag, un agwedd arloesol o’r Cwricwlwm newydd yw rhyddid yr ymarferwyr i benderfynu sut i weithredu o fewn fframwaith y Cwricwlwm newydd. Er mwyn cefnogi’r ymarferwyr i gyflawni hyn, un o uchelgeisiau Llywodraeth Cymru yw hwyluso’r ymarferwyr i ddod yn fwy ‘gwybodus o dystiolaeth’, gan eu hannog a’u cefnogi i ddefnyddio ymchwil i gefnogi eu hymarferion. 

Er mwyn helpu ymarferwyr i gyflawni’r weledigaeth arloesol hon, bu Dr Sue Horder, Karen Rhys-Jones, Lisa Formby, a Tomos G. ap Sion o Brifysgol Wrecsam, ynghyd â nifer o brifysgolion mewn partneriaeth a chonsortia rhanbarthol, yn ymgymryd ag ymchwil allweddol fel rhan o’r Prosiect Siarad Pedagogeg. Bu ymchwilwyr Wrecsam yn gweithio gyda thair ysgol gynradd yng Ngogledd Cymru ac yn ardal Wrecsam, a’u cefnogi i archwilio dull o bedagogeg sydd o werth iddynt. Cynhaliodd yr ymchwilwyr nifer o gyfarfodydd gyda’r ysgolion gan ddarparu ymchwil academaidd iddynt yn ogystal â’u hannog i drafod eu syniadau, profiadau a’u gwerthoedd yn agored. Trwy wneud hynny, ffurfiodd yr ymchwilwyr berthynas gref wedi’i seilio ar gefnogaeth ar y cyd gyda’r ymarferwyr, gan eu helpu i archwilio’i dull pedagogeg a ddewiswyd ac i gyd-greu profiadau dysgu pwerus sy’n seiliedig ar dystiolaeth. 

Wrth gefnogi ysgolion, llwyddodd ymchwilwyr Prifysgol Wrecsam i ddarganfod nifer o ganfyddiadau allweddol. Yn gyntaf, roedd ymarferwyr yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu â phapurau academaidd, gan ddisgrifio’r profiad yn “llethol”, “llawer o waith meddwl” ac yn “llusgedig”, er enghraifft. Fodd bynnag, cafnu’r ymarferwyr, pe bai’r ymchwil yn cael ei grynhoi ar eu cyfer, yna byddai’n llawer haws i’w ddeall, gan ddisgrifio’r crynodebau ymchwil a ddarparwyd fel “hygyrch”, “clir” a “chryno”. 

Yn ail, canfu’r ymchwilwyr fod darparu’r ymarferwyr gydag ymchwil yn ogystal â sgyrsiau sy’n cefnogi yn gallu arwain at nifer o fanteision, gan gynnwys eu helpu i archwilio a datblygu arferion da, newid eu meddyliau, gwella eu deallusrwydd pedagogeg a chynyddu eu hyder. Ar ben hyn oll, gall ddysgwyr hefyd fwynhau nifer o fanteision cymdeithasol, personoliaethol, academaidd ac agweddol. 

Gyda’i gilydd, mae’r canfyddiadau hyn a chanfyddiadau pellach a ddatgelwyd yn ystod y Prosiect Siarad Pedagogeg yn awgrymu dull ble mae ymchwilwyr yn ‘gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau’. Trwy gefnogi a datblygu sylfaen ymchwil ar gyfer ymarferwyr, gall ‘gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau’ gael ei ymgorffori o fewn y sylfaen hon yn eu gwaith. Trwy gydweithio a thrafod, gellir dod a dau safbwynt ynghyd i greu diwylliant addysgu grymus. 

Mae ail gam y Prosiect Siarad Pedagogeg wedi digwydd yn ddiweddar, gyda’r nod o ddeall sut mae ysgolion yng Nghymru wedi cefnogi eu hymarferwyr i roi’r Cwricwlwm newydd ar waith ac i gefnogi ysgolion i ddatblygu dealltwriaeth gyffredinol o’r termau a’r cysyniadau allweddol ohono. Wrth fod yn rhan o ymchwil flaengar yng Nghymru, mae Prifysgol Wrecsam yn chwarae rhan allweddol o fewn ymchwil addysgol a thrawsnewid profiadau dysgwyr yng Nghymru.