
Llwybrau at Effaith Ysgolion Bro
Beth sy’n digwydd pan nad yw ymchwil yn cael ei gyfyngu i erthyglau cyfnodolion ond yn dechrau llywio polisïau, dylanwadu ar ymarfer, a chryfhau lleisiau'r gymuned? Honno yw’r daith sy’n cael ei chynnal gan ymchwilwyr yn yr adran Addysg ym Mhrifysgol Wrecsam sy’n archwilio drwy nifer o brosiectau ymchwil cydweithredol, sef sut ddylai “ysgolion bro” wirioneddol edrych a sut y gellir eu cryfhau i gefnogi plant, pobl ifanc, teuluoedd, a’r gymuned yn fwy effeithiol.
Deall Beth Sydd Eisoes Yn Digwydd
Yn ôl yn 2023, comisiynwyd tîm o ymchwilwyr- Sue Horder, Tomos Gwydion ap Sion, Dr Karen Rhys Jones, Lisa Formby, a Gillian Danby—ynghyd â chydweithwyr o Brifysgol Bangor, Abertawe, Caerdydd Met, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan Lywodraeth Cymru i archwilio sut mae ysgolion yng Nghymru yn cyd-fynd ag ymarferion, gwerthoedd a chredoau ysgolion bro, a chanfod ffyrdd o gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r agwedd ysgolion bro ledled Cymru.
Cynhaliodd Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam, y ddwy yng Ngogledd Cymru, dau ddarn o waith ymchwil. Yn gyntaf, gwahoddwyd pob ysgol a gynhelir yng Nghymru i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Y bwriad? Deall sut mae ysgolion yn diffinio’r cysyniad o “ysgol fro”, pa strategaethau maent yn eu defnyddio, a lle mae bylchau o bosib yn bodoli rhwng uchelgais a gweithredu. Yn ail, cynhaliodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Wrecsam grwpiau ffocws gyda phobl ifanc 11-17 oed mewn ysgol uwchradd i ystyried eu safbwyntiau, eu profiadau, eu huchelgeisiau, a’u disgwyliadau o fywyd ysgol yng nghyd-destun eu hamgylchedd cymunedol.
Bydd y prosiect dechreuol hwn i’w mewn erthyglau tri chyfnodolyn academaidd (dechrau 2026) a chyflwyniad yng nghynhadledd British Educational Research Association (BERA) eleni. Ond nid dyna yw diwedd y gwaith - ac mae’r stori effaith wirioneddol ar fin dechrau.
O Ddealltwriaeth i Weithredu
Gan ychwanegu at eu canfyddiadau, cyflwynodd tîm Wrecsam - bellach yn cynnwys Nikki Ewing - gais llwyddiannus am Grant Gweithdy Ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru a hefyd dyfarnwyd cyllid sbarduno iddynt gan y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd. Cefnogodd y grantiau hyn dri gweithdy a ddaeth â gweithwyr proffesiynol o amryw o asiantaethau ynghyd: athrawon, gweithwyr ieuenctid, swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, rheolwyr ysgolion bro, sefydliadau gwirfoddol lleol, cynghorwyr Llywodraeth Cymru, ac academyddion o brifysgolion eraill.
Nid cyflwyno canfyddiadau oedd diben y sesiynau hyn - cyd-greu'r camau nesaf oedd eu nod. Rhannodd y cyfranogwyr eu safbwyntiau a’u profiadau bywyd, gan helpu i lywio trywydd ymchwil y dyfodol mewn ffordd sy’n teimlo’n gysylltiedig, perthnasol, ac yn wirioneddol dan arweiniad y gymuned.
Ar y Llwybr at Effaith
Ffurfiodd y cyfranogwyr o’r gweithdai hyn, gan gynnwys academyddion o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, dîm ymchwil a grŵp llywio prosiect i ddatblygu cynnig ariannu sylweddol ar gyfer astudiaeth gydweithredol tair blynedd. Roedd y pwyslais ar edrych yn fanylach ar rôl ysgolion bro o ran mynd i’r afael ag anfantais, a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cefnogaeth gyfannol - nid yn unig yn academaidd. Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn ystyried llwybrau ariannu.
Yn hollbwysig, mae’r ymgysylltiad hwn cyn yr ymchwil wedi helpu i lywio blaenoriaethau a chwestiynau, gan sicrhau bod ymchwil y dyfodol yn parhau i adlewyrchu anghenion a chraffter y rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol mewn ysgolion a chymunedau a gyda nhw, nid yn unig y rhai sydd yn y byd academaidd neu’r llywodraeth.
O’r gwaith hwn, mae Lisa Formby ar hyn o bryd yn arwain dwy astudiaeth ymchwil i ystyried rolau Rheolwyr Ysgolion Bro (RhYB) ac yn casglu ystod o safbwyntiau a phrofiadau Ymgysylltiad Cymunedol a Theuluol mewn ysgolion yng Nghymru. Bydd y gwaith o gasglu data yn cofnodi safbwyntiau a phrofiadau staff ysgolion, RhYB, gweithwyr proffesiynol aml-asiantaeth, rhieni a gwarcheidwaid, disgyblion, ac aelodau o’r gymuned.
Pam Fod Hyn yn Bwysig
Mae’r prosiectau hyn yn cefnogi gweledigaeth ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer Tegwch Addysgol, gan geisio rhoi cyfle i bob plentyn o bob cefndir, ffynnu. Gall ysgolion bro - pan maent wedi eu dylunio’n dda - fod yn rhan allweddol o’r weledigaeth honno. Maent yn cysylltu teuluoedd, gwasanaethau, a chyfleoedd i gael addysg. Maent yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Maent yn rhoi cysylltiadau a gofal wrth wraidd bywyd ysgol.
A dyna yw’r hyn sy’n gwneud yr ymchwil hwn mor gyffrous. Nid yw’n ymwneud â disgrifio’r sefyllfa bresennol yn unig - mae’n llywio’r hyn sy’n dod nesaf. Gyda sylfaen gadarn o ran hygrededd academaidd, cyfraniad aml-asiantaeth, ac ymgysylltiad cyhoeddus, mae’r prosiectau hyn ar waith i gyflawni effaith wirioneddol a hirdymor - nid yn unig mewn papurau polisïau ond mewn ysgolion, cymunedau, a bywydau bob dydd ledled Cymru.