.jpg)
Archwilio Modelu 3D o Ddelweddau thermol er mewn Dadansoddi Dynameg Dadelfennu
Mae'r prosiect ymchwil hwn yn eistedd o fewn maes gwyddoniaeth fforensig a dadelfennu, sy'n astudio beth sy'n digwydd i gorff rhwng marwolaeth a phan mae'n cael ei ddarganfod. Mae'n archwilio p'un a yw delweddu thermol wedi'i gyfuno gyda ffotograffiaeth arolygu a mapio - techneg modelu 3D - yn gallu cynnig mewnwelediadau newydd i'r broses ddadelfennu, yn arbennig felly yn y camau cynnar. Y nod canolog yw pennu p'un a yw modelau thermol 3D yn gallu datguddio patrymau gwasgariad gwres a allai gynorthwyo i amcangyfrif y cyfwng post-mortem (PMI), neu'r amser ers y farwolaeth.
Gan ddefnyddio camera thermol isgoch FLIR CX5, bydd Paige Tynan yn monitro hyd at dri carcas mochyn o ffynhonnell foesegol, sy'n cael eu defnyddio'n aml fel cydweddiad dynol mewn astudiaethau fforensig. Dros gyfnod o hyd at bedwar mis, bydd delweddau thermol yn cael eu dal yn rheolaidd a'u prosesu gan ddefnyddio Agisoft MetaShape i greu modelau 3D manwl. Bydd yr adluniadau hyn yn galluogi ymchwilwyr i weld a dadansoddi sut mae patrymau gwres yn newid yn ystod dadelfeniad.
Mae hon yn astudiaeth dilysu, sy'n asesu p'un a all integreiddio delweddu thermol yn fodelu 3D ddod yn adnodd fforensig dibynadwy. Os yw'n llwyddiannus, gallai'r dull ddarparu ffordd wrthrychol ac anfewnwthiol o amcangyfrif amser ers marwolaeth - sy'n hanfodol mewn gwaith achos fforensig ar gyfer adnabod dioddefwyr a rhai dan amheuaeth.
Y tu hwnt i'w gymwysiadau fforensig uniongyrchol, mae'r astudiaeth hefyd yn gosod sylfeini ar gyfer ymchwil pellach ar sut all technolegau delweddu newydd wella ein dealltwriaeth o ddeinameg dadelfennu. Gallai gyfrannu yn y pen draw at ddatblygu protocolau safonol ar gyfer amcangyfrif PM yn seiliedig ar wres, gan gefnogi ymchwiliadau a chynnig diweddglo i deuluoedd yr ymadawedig.